Ble ydw i’n marcio gwaith fy myfyrwyr?

Ydych am weld faint o eitemau sy’n barod i gael eu marcio ymhob un o’ch cyrsiau? Yn y rhestr lle mae’ch enw’n ymddangos, mae gennych fynediad ar unwaith i bob un o dasgau marcio ar dudalen hafan Graddau. Mae'ch tasgau graddio yn cael eu trefnu yn ôl cwrs.

Mae'r dudalen yn dangos gwybodaeth dim ond os oes angen i chi gymryd camau. Byddwch yn gweld eitemau sy’n barod i gael eu marcio ynghyd â faint o fyfyrwyr sy’n hwyr yn dychwelyd gwaith.

Ydych chi eisiau bod yn fwy manwl? Mewn cwrs penodol, gallwch weld llyfr graddau’r cwrs ar y bar llywio. Gallwch weld pwy sydd wedi gwneud cyflwyniadau a dechrau graddio.

Gradebook tab from the top navigation menu from each particular course.

Rhagor am raddio


Sut mae aseinio graddau?

Gradebook grid view.

Gallwch aseinio, golygu a phostio graddau o dri lleoliad:

  1. Cell yn y wedd grid myfyrwyr
    • Yn llyfr graddau eich cwrs, mae'r grid myfyrwyr yn dangos y sgoriau maent wedi’u hennill.
  2. Y dudalen lle mae rhestr o’r gwaith sydd wedi ei gyflwyno ar gyfer eitem o gynnwys.
    • Yn llyfr graddau eich cwrs, dewiswch eitem i ddechrau graddio.
    • Mae'r dudalen rhestr gyflwyniadau'n ymddangos gyda rhestr o'r holl fyfyrwyr cofrestredig. Gallwch chwilio am fyfyriwr neu grŵp a hidlo yn ôl statws graddio.
  3. Tudalen cyflwyniadau’r myfyriwr
    • Yn llyfr graddau eich cwrs, gallwch gael mynediad at gyflwyniadau myfyrwyr o’r dudalen rhestr cyflwyniadau.
    • Gallwch lawrlwytho dogfennau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr neu’u gweld yn fewnol a gwneud anodiadau.

Rhagor am bennu graddau