Ynghylch modiwlau dysgu

Gallwch ddefnyddio modiwlau dysgu yn eich cwrs fel cynhwysyddion casgliadau o gynnwys wedi'u trefnu. Mae modiwlau yn caniatáu i fyfyrwyr lywio o un eitem o gynnwys i'r nesaf heb ymyriadau neu gliciau ychwanegol. Mae modiwl dysgu yn helpu i drochi myfyrwyr yn y wers neu gysyniad rydych yn ei dysgu. Os ydych yn defnyddio gwerslyfr neu ddeunyddiau eraill fel sylfaen cwricwlwm eich cwrs, mae modiwlau'n fodd effeithiol a threfnus o grwpio cynnwys i gyd-fynd â'r deunyddiau hyn.

Defnyddiwch fodiwl dysgu i ategu amcan cwrs, cysyniad neu thema. Er enghraifft, gallwch greu modiwl dysgu sy'n cyflwyno'r cysyniad o feysydd magnetig cyn disgrifio sut mae seinyddion a microffonau'n gweithio. Mae'n ofynnol deall y cysyniad cyntaf ar gyfer deall yr ail gysyniad.

Gallwch hefyd orfodi trefn y cynnwys er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod pa gynnwys i'w defnyddio ac ym mha drefn.

Fel arall, gallwch ganiatáu i fyfyrwyr archwilio cynnwys modiwl dysgu mewn unrhyw drefn a phan fydd hynny’n gyfleus iddynt. Er enghraifft, defnyddiwch fodiwl dysgu i gyflwyno cyfres o ddelweddau a disgrifiadau o anifeiliaid amrywiol sy’n rhan o genws. Gall myfyrwyr weld y delweddau a’r disgrifiadau mewn unrhyw drefn, oherwydd nid oes angen unrhyw drefn er mwyn deall y cyfanrwydd.


Creu modiwl dysgu ac ychwanegu cynnwys

Ychwanegu modiwlau dysgu yn uniongyrchol ar y dudalen Cynnwys y Cwrs. Llusgwch gynnwys cyfredol i mewn i fodiwlau neu defnyddiwch yr eicon plws i ychwanegu cynnwys newydd yn uniongyrchol.

Gallwch ychwanegu’r eitemau hyn at fodiwl dysgu:

  • Dogfennau
  • Ffeiliau
  • Profion ac aseiniadau
  • Ffolderi
  • Amlgyfryngau
  • Dolenni i wefannau, trafodaethau, a dyddlyfrau

Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu modiwl dysgu. Yn y ddewislen, dewiswch Creu i agor y panel Creu Eitem. Dewiswch Modiwl dysgu.

Bydd modiwlau dysgu'n ymddangos yng nghyrsiau newydd. Os nad ydych yn gweld opsiwn i ychwanegu modiwl dysgu, fe grëwyd eich cwrs cyn bod y nodwedd hon ar gael.

Image of the Course Content page, with the Create menu open and the Learning Module option highlighted

Teipiwch enw, disgrifiad dewisol, a dewiswch weladwyedd y modiwl.

I ddewis a fydd myfyrwyr yn gweld cynnwys y modiwl dysgu mewn trefn, dewiswch Argaeledd amodol yn newislen gweladwyedd y modiwl.

Rhagor am ryddhau cynnwys modiwl mewn dilyniant

Yn ychwanegol at eitemau o gynnwys, ffeiliau ac asesiadau, gallwch ychwanegu gweithgareddau ac offer sy’n annog dysgu rhyngweithiol a chydweithio.

Er enghraifft, gallwch ychwanegu aseiniadau neu brosiectau ar gyfer grwpiau i roi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio’r hyn maent wedi’i astudio mewn modiwl dysgu. Gallwch hefyd ychwanegu offer cydweithio megis trafodaethau lle gall y myfyrwyr daflu a rhannu syniadau am y pynciau a gyflwynir.

Rhagor am ychwanegu cynnwys

Rhagor ynghylch y mathau o gynnwys y gallwch eu hychwanegu


Dysgu sut i lywio o amgylch y modiwl

  • Golygu teitl a disgrifiad y modiwl. Hofrwch dros y teitl neu ddisgrifiad a'i dewis i'w olygu. Ychwanegwch ddisgrifiad sy'n ennyn diddordeb er mwyn i fyfyrwyr wybod beth fyddant yn ei dysgu yn y modiwl hwn.
  • Newid gweladwyedd modiwl. Gallwch ddangos neu guddio'r modiwl i fyfyrwyr. Gallwch hefyd ddewis argaeledd amodol. Gallwch osod argaeledd y modiwl i fod ar gael ar ddyddiad penodol, wrth i fyfyrwyr gyflawni gradd benodol neu mewn dilyniant cynnwys.
  • Ychwanegu a chreu cynnwys modiwlau. Llusgwch gynnwys o dudalen Cynnwys y Cwrs i mewn i'r modiwl neu grëwch gynnwys yn uniongyrchol o fewn y modiwl.
  • Gweld a threfnu cynnwys. Dewiswch y saeth i ehangu'r modiwl a gweld yr holl gynnwys. Aildrefnu cynnwys yn y drefn rydych eisiau i fyfyrwyr ei gyrchu. Eisiau gorfodi'r drefn? Gallwch orfodi dilyniant cynnwys.
  • Newid gweladwyedd cynnwys neu ychwanegu cynnwys. Gallwch chi ddewis gweladwyedd ar gyfer eitemau unigol yn y modiwl dysgu. Gallwch hefyd ychwanegu amodau a fydd yn pennu pryd daw'r cynnwys ar gael.

Os byddwch yn dileu modiwl dysgu â chynnwys, caiff y cynnwys ei ddileu hefyd o'r dudalen Cynnwys y Cwrs.


Ychwanegu ffolderi i fodiwlau dysgu

Gallwch ychwanegu ffolderi at fodiwl dysgu i roi trefn ar y cynnwys. Gall ffolderi mewn modiwlau dysgu gynnwys eitemau o gynnwys yn unig, nid ffolderi eraill.

Mae myfyrwyr yn llywio trwy gynnwys yn y ffolderi yn yr un modd ag unrhyw gynnwys arall yn y modiwl. Fodd bynnag, gallwch orfodi dilyniant cynnwys. Bydd angen i fyfyrwyr gyrchu a chwblhau'r cynnwys yn y ffolder cyn symud ymlaen i'r eitem nesaf o gynnwys yn y modiwl.


Beth mae myfyrwyr yn ei weld?

Pan mae modiwl yn weladwy, mae myfyrwyr hefyd yn gallu gweld yr holl gynnwys gweladwy o fewn y modiwl, gan gynnwys dyddiadau dyledus. Mae myfyrwyr yn gallu agor a chyrchu'r cynnwys mewn unrhyw drefn.

Os ydych yn gorfodi dilyniant cynnwys, bydd neges yn ymddangos. Rhoddir gwybod i'r myfyriwr bod angen agor a chwblhau'r cynnwys mewn trefn, ynghyd ag unrhyw amodau eraill a osodoch.

Ar ôl i fyfyrwyr agor eitem o gynnwys, gallant lywio drwy'r modiwl gan ddefnyddio'r saethau ar frig ffenestr y porwr. Pan fydd angen i fyfyrwyr gyrchu'r cynnwys mewn trefn, bydd clo'n ymddangos nesaf at y saeth.

Gall myfyrwyr adael y modiwl cyn iddynt ei gwblhau. Pan fydd myfyrwyr yn dychwelyd, bydd eiconau yn ymddangos nesaf at gynnwys y modiwl os gorfodir y dilyniant. Mae'r eiconau'n dangos pa gynnwys sy'n gyflawn, ar waith a heb ei gychwyn, er mwyn i'r myfyrwyr allu ailgychwyn lle orffennon nhw.

Mae cylch gwyrdd gyda thic yn golygu bod y cynnwys yn gyflawn. Mae cylch gwyrdd rhannol lawn yn golygu bod y cynnwys ar waith. Mae eicon clo yn golygu bod y cynnwys heb gael ei ddechrau.