Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Dysgwch fwy am y ffyrdd y mae eraill wedi defnyddio bathodynnau i ysbrydoli ac annog dysgu eu myfyrwyr.

Jill: Athro/Athrawes Theatr

Mae stori Jill yn gydgrynhoad o brosesau nifer o athrawon fel y gallwch weld system fathodynnau gyfan.

"Mae dysgu'n digwydd...ym mhobman."

Mae Jill yn dysgu dosbarthiadau theatr mewn prifysgol, wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae hi'n atodi ei chyrsiau wyneb yn wyneb gyda chynnwys ar-lein. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Theatr ar gyfer ei phrifysgol lle mae hi'n cynhyrchu'r tymor perfformio. Mae hi'n dylunio ac yn adeiladau'r setiau, ac yn cyfarwyddo nifer o ddramâu a sioeau cerdd bob tymor.

Yn gyffredinol, mae hi'n dod ar draws llawer o fyfyrwyr uchel eu cymhelliad sydd eisiau caffael sgiliau uwch y tu hwnt i'r hyn y gall ei gynnig yn ei chyrsiau o fewn tymor. Yn y gorffennol, mae hi wedi treulio amser yn cwrdd yn bersonol ac yn rhithwir er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i ennill gwybodaeth.

Teimlodd yn aml y gallai hi fod yn cynnig cyrsiau "ychwanegol" nad oeddent yn cyfateb i ofynion y brifysgol tuag at brif bwnc neu is-bwnc. Gallai'r cyrsiau ychwanegol helpu paratoi myfyrwyr tuag at y swyddi y maent eu heisiau. Felly, creodd hi raglen astudiaeth annibynnol. Cynigiodd hi wybodaeth, arweiniad, adborth a chyfleoedd i rwydweithio. Helpodd hi fyfyrwyr i ddod o hyd i sefydliadau lle gallent ymarfer tasgau, gan gynorthwyo creu portffolios i arddangos y sgiliau a'r wybodaeth a gaffaelwyd.

Cyflawniadau ar waith

Erbyn hyn, mae Jill yn defnyddio nodweddion offeryn cyflawniadau Blackboard Learn ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ennill bathodynnau i ddatblygu eu gyrfaoedd theatr. Mae hi'n falch iawn o'r system bathodynnau cynllun goleuo mae hi wedi datblygu ar gyfer ei myfyrwyr yn ddiweddar. Mae ei phrifysgol yn cynnig dau gwrs lefel cyflwyniadol mewn cynllunio goleuo, ond mae myfyrwyr eisiau mwy. Roedd rhai o'u myfyrwyr theatr mwyaf addawol eisiau dilyn dylunio goleuo fel gyrfa. Yn hytrach na cholli'r myfyrwyr uchel eu cymhelliad hyn i ysgol arall, roedd hi eisiau bodloni ac annog eu diddordeb. Roedd hi eisiau rhoi sgil ymarferol iddynt y gallent ei defnyddio yn y byd go iawn.

Gyda system ennill bathodynnau yn ei lle, gall myfyrwyr edrych ar y cyfleoedd ar gyfer dysgu o'u blaen. Mae Jill yn trefnu bathodynnau mewn grwpiau fel y gall myfyrwyr gulhau eu sgiliau a dilyn llwybrau wedi'u strwythuro. Mae'r grwpiau'n eu helpu cyflawni gwybodaeth yn y dilyniant y maent yn ei ddewis neu yn y ffordd y mae Jill yn ei hargymell.

Mae rhai myfyrwyr yn dymuno ennill bathodynnau'n fawr. Mae ennill bathodynnau'n ysgogi dysgu ac yn annog cadw myfyrwyr. Mae myfyrwyr eraill yn gallu edrych ar nifer ac ansawdd y bathodynnau. Maent yn cydnabod lefel anhawster ennill bathodynnau. Gallant weld sgiliau eu cyd-fyfyrwyr yn cael eu cynrychioli yn ystod cynyrchiadau drama. Cymhellir y rhai sy'n edrych i mewn - un o'r cynulleidfaoedd bathodynnau bwriadedig - i ymgymryd â thaith ddysgu debyg. Mae Jill a'i myfyrwyr wedi cydnabod bod ennill bathodynnau'n mynd y tu hwnt i dymor neu flwyddyn ysgol. Gall myfyrwyr ddod yn ddysgwyr gydol oes a chasglu bathodynnau drwy eu gyrfa gyfan.

"Mae bathodyn fel drws. Datglowch ef i gamu i'ch cyfle dysgu nesaf."

Roedd angen i Jill ystyried pwy oedd "defnyddwyr" ei bathodynnau: darpar gyflogwyr a myfyrwyr eraill a allai gynyddu eu cymhelliad yn sgil cyflawniadau eu cymheiriaid. Ond, roedd hi eisiau i'r system fathodynnau gael ei chydnabod a'i dilysu gan y bobl roedd hi eisiau rhwydweithio â nhw ac a allai ddarparu interniaethau a mentoriaethau. Mae'r bobl hyn i gyd yn ei helpu gyda chynaladwyedd ei system fathodynnau ar draws amser.

Gyda'i chynulleidfa amrywiol mewn cof, datblygodd hi fathodynnau ar gyfer y tasgau hyn:

  • Cymryd rhan a chydnabyddiaeth o'r sgiliau a ddysgwyd
  • Technoleg - mae rhai myfyrwyr wedi dylunio eu meddalwedd dylunio goleuo eu hunain
  • Plotio dyluniadau, crogi goleuadau, a chynnal a chadw cyfarpar
  • Rheoli criwiau goleuo, rheoli prosiect, ac amcangyfrif o gostau'r dasg
  • Sefydlu systemau goleuo cludadwy a'u gosodiadau
  • Ymchwil, cynadleddau a gweithdai a fynychwyd
  • Derbyn gwobrau a chydnabyddiaeth mewn cystadlaethau dylunio goleuo a theatr
  • Addysgu a mentora rhwng cymheiriaid
  • Sgiliau meddal gan gynnwys creadigrwydd, cydweithio a gwaith tîm - rhinweddau i gyd na ellir eu mesur yn hawdd trwy brofion safonol

Mae pob bathodyn yn cynnwys gwybodaeth am y gofynion ennill, taith myfyriwr, a dolenni at luniau neu waith. Ar ôl i fyfyrwyr ennill y bathodynnau priodol, gallant ennill bathodyn terfynol ar gyfer dylunio goleuo i gynhyrchiad prifysgol neu interniaeth mewn sioe Broadway.

Manteision bathodynnau

"Gyda bathodynnau, profir gwybodaeth a dangosir sgiliau."

Trwy fathodynnau, daw Jill ag asesu ac adborth y agosach at yr achlysur dysgu. Mae ennill bathodynnau'n ymgysylltu myfyrwyr. Maent yn dewis mynd ymhellach ac yn parhau dysgu. Oherwydd ansawdd ac unplygrwydd y bathodynnau mae Jill yn eu dyfarnu, mae sefydliadau theatr yn gofyn am ei myfyrwyr. Maent wedi adeiladu 'perthynas o ffydd" gyda Jill a'i system fathodynnau. Maent yn rhoi pwysigrwydd mawr ar fetadata'r bathodynnau.

Mae gan Jill amcan syml: Mae hi am gysylltu dawn â chyfleoedd. Trwy fathodynnau, mae hi'n helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar yr anghenion unigol y mae cyflogwyr penodol eu heisiau. Gall myfyrwyr gaffael yr union gymwyseddau a fydd yn rhoi sylw iddynt a'u llogi.

Gall myfyrwyr ennill gwybodaeth a sgiliau mewn meysydd na gynigir yng nghyrsiau ffurfiol y brifysgol a derbyn cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad. Gall Jill ddefnyddio amrywiaeth o offer i gipio canlyniadau a sgiliau dysgu mewn ffyrdd nad ydynt yn bosibl ar hyn o bryd mewn cyd-destunau ffurfiol a thraddodiadol.

Mae'r portffolio ar-lein a'r casgliad o fathodynnau'n cynnig tystiolaeth i gyflogwyr posibl o sgiliau, diddordebau, a phriodoleddau hanfodol. Mae ennill bathodynnau'n dangos dyfnder, gwybodaeth a ffocws arbenigedd myfyriwr. Mae unrhyw un sy'n gweld casgliad o fathodynnau'n gallu gweld y priodweddau maent eu heisiau mewn darpar weithiwr, intern, mentor neu wirfoddolwr.


Connie: Graddedig nyrsio a therapydd cymorth anifeiliaid

Dyfyniad o: "7 Peth y Dylech eu Gwybod Am...Fathodynnau" Educause. Mehefin 2012. Gwe. 11 Gorffennaf 2013.

Mae Connie newydd raddio o ysgol nyrsio, ac mae'n gweithio ar dystysgrif mewn therapi a gynorthwyir gan anifeiliaid. Mae'r Ganolfan ar gyfer Rhyngweithio Dyn-Anifail wedi sefydlu rhaglen newydd, ar ôl gwneud trefniadau gyda sawl sefydliad cymunedol i weithio gyda gwirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr. Mae'r ganolfan yn gweithredu system bathodynnau digidol, a gynlluniwyd i gydnabod nid yn unig yr hyn y mae myfyrwyr yn ei astudio ond yr hyn y maent yn ei gyflawni yn y gymuned. Bydd eiconau neu ddelweddau'r bathodynnau digidol yn ymddangos yn e-bortffolios myfyrwyr. Yno maent yn cynnig i'r gyfadran, cyfoedion, trefnwyr cymuned, a chyflogwyr posibl giplun o ddiddordebau ac yn awgrymu dyfnder a ffocws arbenigedd myfyriwr.

Mae Connie yn gwneud interniaeth ar brynhawn Mercher yn y Ganolfan Awtistiaeth a Chyfathrebu leol (ACC). Byd hi a phump myfyriwr-gwirfoddolwr arall yn sefydlu ac yn goruchwylio teithiau maes y chwarter hwn ar gyfer chwech o blant, graddau K-5. Byddant hefyd yn gweithio gyda'r myfyrwyr i asesu effeithiolrwydd y therapi â chymorth anifeiliaid, gan gwblhau prosiect ymchwil cysylltiedig. Yn ogystal â'r tair awr cwrs a gredydir am yr ymdrech hwn, bydd yr interniaid yn derbyn bathodyn a noddir gan y brifysgol ar gyfer rhyngweithio plentyn-anifail. Mae Connie hefyd yn gweithio ar brynhawn Iau mewn stabl marchogaeth leol, ac mae hi'n trefnu gyda'i chyflogwr i drefnu taith maes i'r myfyrwyr o'r ACC i'w cyflwyno i'r ceffylau. Ar ddiwrnod y daith maes, mae Connie'n cyfrwyo'r ceffylau a'r merlod. Mae rhai plant yn "farchogion" gydag oedolion yn arwain y ceffyl, ac mae rhai eraill yn "ymweld" ag anifeiliaid dewisedig, gan gynnwys ceffyl therapi profiadol Connie, Raindance.

Erbyn diwedd y tymor, mae, Connie wedi ennill bathodynnau ar gyfer Rhyngweithio Plant-Anifeiliaid, Gwirfoddolwr Cymunedol, a Rheoli Prosiect Cymunedol. Gellir hefyd arddangos bathodyn a dderbyniodd am ddod yn drydydd mewn cystadleuaeth hyfforddiant genedlaethol gyda'r rhai a ddyfarnwyd gan ei phrifysgol. Mae'r bathodynnau o'r brifysgol yn cynnwys dolenni i dudalennau gwe sy'n disgrifio pob bathodyn, yn rhestru'r gofynion ar ei gyfer, ac yn nodi'r dyddiad pan gafodd ei ddyfarnu. Er yn rhyngwyneb ar-lein syml, gall Connie reoli ei chasgliad o fathodynnau, gan nodi pa rai sy'n bosibl eu gweld ar rwydweithiau personol a phroffesiynol ac yn ei he-bortffolio.


Cwrdd a'r Amgueddfa Ddinesig: Bathodynnau ar gyfer gwybodaeth amgylcheddol

Datblygodd amgueddfa ddinesig system bathodynnau i gynhyrchu cyffro, diddordeb, ac ysgogiad i ddysgu am y gymuned o gwmpas yr amgueddfa. Roeddent am helpu ieuenctid i ddatblygu hunaniaethau a hyder fel meddylwyr a gweithredwyr gwyddoniaeth. Ymgorfforodd eu syniad dechnoleg a system fathodynnau. Byddai ymwelwyr yn defnyddio ffonau symudol i archwilio'r amgueddfa a chaffael bathodynnau ar gyfer yr wybodaeth a sgiliau a gaffaelwyd.

Adnabuodd y trefnwyd ddau batrwm o ran sut oedd bathodynnau'n rhoi cymhelliad i'r ymwelwyr ifainc. Roedd cyflawnwyr uchel yn mwynhau'r her ac eisiau ennill pob bathodyn a oedd ar gael. Roeddent yn awyddus i nodi sgiliau nad oeddent yn gyfarwydd â nhw a mynd ar ôl y bathodynnau cyfatebol. Creodd llawer eu llwybrau seiliedig ar ddiddordeb eu hun. Roedd y rhai a chyflawniad isel hefyd wedi eu hysgogi'n fawr. Helpodd trefnwyd i baru'r tasgau ennill bathodynnau â lefelau a galluoedd myfyrwyr. Wrth iddynt gasglu bathodynnau'r llwyddiannus, buont yn mwynhau'r gydnabyddiaeth gyhoeddus nad oeddent yn gyfarwydd â hi.

Arddangosodd trefnwyr y bathodynnau a enillwyd yn yr amgueddfa wrth ochr bathodynnau eraill y gallai'r bobl ifainc eu hennill yn eu cyrsiau gwyddoniaeth yn yr ysgol. Roedd y system bathodynnau wedi helpu i osod myfyrwyr mewn cyrsiau gwyddoniaeth roedd ganddynt ddiddordeb ynddynt ac yn barod amdanynt. Ymgorfforodd athrawon ysbrydoliaethus fwy o ddulliau ysgogo diddordeb mewn gwyddoniaeth. Darparwyd teithiau maes a gwaith labordy awyr agored gyda gweithwyr gwyddoniaeth proffesiynol.

Mae ennill bathodynnau yn yr amgueddfa'n ymgorffori elfennau seiliedig ar gemau fel dysgu cynnwys neu sgiliau, goresgyn heriau, ennill pwyntiau, a chystadlu yn y broses ddysgu. Mae'r "teimlad gêm" hwn yn ysgogi cyffro, diddordeb a chymhelliant mewn pob math o gyfranogwyr, hyd yn oed y rhai nad ydynt erioed wedi chwarae gêm fideo draddodiadol.


Catherine: Guru atebion

Dyfyniad o: Young, Jeffrey R. "Badges Earned Online Pose Challenge to Traditional College Diplomas." The Chronicle of Higher Education. Ion. 2012. Gwe. 14 Gorffennaf 2013.

Yn achos bioleg, mae Catherine Lacey'n Arwres Lefel 40. Dyna ei safle ar OpenStudy, lle mae'r myfyriwr Prifysgol Gorllewin Awstralia'n treulio hyd at 30 awr yr wythnos yn ateb cwestiynau gwaith cartref a ofynnir gan fyfyrwyr ledled y byd. Mae'r lefel yn nodi amser a dreuliwyd ar y safle, ac Arwr yw'r bathodyn mwyaf anodd i'w ennill. Os ydych yn meddwl helpu gyda gwaith cartref fel gêm, hi yw'r un sydd â'r sgôr uchaf.

Daeth y fenyw 20 oed ar draws y wefan OpenStudy wrth syrffio'r we. Roedd hi wedi'i hargyhoeddi wedi iddi chael gwared ag ateb dim ond iddi ennill medal ar-lein yn dynodi bod eu gwybodaeth wedi bod yn rhaff achub i fyfyriwr a oedd yn cael trafferth. "Dwedais, waw, mae pobl yn meddwl fy mod i'n glyfar," mae hi'n cofio. Wrth iddi dreulio mwy o amser ar y wefan, "mae cyflawniadau'n dechrau ymddangos," meddai hi. Nawr mae ei phersona ar-lein ar OpenStudy, TranceNova, wedi casglu tudalen o fathodynnau teilyngdod, gan gynnwys un ar gyfer helpu pobl gyda chyrsiau bioleg agored MIT.

Nid yw'n derbyn unrhyw dâl am yr holl amser y mae'n mewngofnodi ar y safle. Byddai siec tâl yn "anrhydedd" ond byddai'n gwneud i'r profiad deimlo fel baich, dywedodd hi wrthyf. "Dw i ddim yn ei ystyried yn llafur, dwi i ddim yn gweld ei fod yn wahanol i fynd i weld ffilm gyda chyfaill." Mae mynd allan gyda ffrindiau'n un peth nad yw hi'n ei wneud llawer (gan alw ei hun yn "ddim yn rhy hoff o gymdeithasu"), felly mae'r wefan yn ddiddordeb pwysig ar gyfer Ms. Lacey.

Er nad yw'r bathodyn Arwr yn cael ei restru ar grynodeb CV y myfyriwr, efallai bydd yn ei ychwanegu ato yn y dyfodol os bydd yn ymgeisio am swydd addysgu. "Mae'n fesur o faint o amser a'r ymdrech rydw i wedi'i roi a beth mae pobl eraill yn meddwl amdanaf."

Bydd bathodynnau digidol yn gwneud cyflawniadau a phrofiadau unigolion mewn mannau ar-lein ac all-lein yn weladwy i unrhyw un a phawb, gan gynnwys darpar gyflogwyr, addysgwyr a chymunedau.


Purdue: Nanoelectroneg

Dyfyniad o: Carey, Kevin. "Show Me Your Badge." New York Times. 12 Tach. 2012. Gwe. 14 Gorffennaf 2013.

Ar ddiwedd Fundamentals of Atomic Force Microscopy, cwrs byr ar-lein a gynigir gan Brifysgol Purdue, bydd myfyrwyr sy'n sgorio o leiaf 60 y cant ar yr arholiad terfynol yn derbyn e-bost gyda ffeil ynghlwm. Bydd yn cynnwys llun o gylch glas-a-gwyn, tua un fodfedd mewn diamedr, gyda delwedd microsgop grym atomig wedi ei argraffu arno lle mae pelydr laser yn neidio oddi ar gantilifer i mewn i ffotodïod, sef sut mae gwyddonwyr yn tynnu lluniau ac yn mesur maint pethau bach iawn (nano-raddfa).

Mae'r llun yn fathodyn digidol.

Mae myfyrwyr yn cael eu cydnabod am amser a dreulir mewn labordai, gweithio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn, gweithio ar brosiectau gwasanaeth ac interniaethau, a'r profiadau y maent yn eu hennill o fudiadau myfyrwyr. Mae hyfforddwyr ac ymgynghorwyr yn rhoi bathodynnau digidol i fyfyrwyr am eu galluoedd a gwybodaeth.

Mae Purdue hefyd yn dyfarnu bathodynnau ar gyfer cyrsiau sy'n cael eu cwblhau'n llwyddiannus trwy nanoHUB-U, casgliad o gyrsiau byr mewn nanodechnoleg a gynigir ar-lein i gynulleidfa ryngwladol.


Cwrdd â Carnegie Mellon: Roboteg

Yn Carnegie Mellon, gall myfyrwyr wneud cyrsiau ar-lein mewn roboteg a gwyddor cyfrifiadurol lle dyfernir bathodynnau iddynt yn ystod y broses ddysgu. Mae un bathodyn ar gyfer dysgu robotiaid i symud a bathodyn arall ar gyfer trin synwyryddion symud robotiaid. Ar ôl eu hastudiaeth gwrs, gallant gaffael y bathodyn terfynol sy'n ardystiad o'u sgiliau rhaglennu robotiaid cyffredinol.


Dysgu rhagor

Sut mae sefydliadau eraill yn defnyddio bathodynnau?

Ehangu Cyfleoedd Addysg a'r Gweithlu trwy Fathodynnau Digidol

Mae Colegau'n Defnyddio 'Bathodynnau Digidol' yn Lle Graddio Traddodiadol

Tueddu: Athrawon yn Ffafrio Bathodynnau dros Raddau

Ailfeddwl am Fathodynnau Digidol

Bathodynnau sampl gyda dolenni i feini prawf a thystiolaeth

Bathodynnau o'r Tu Mewn