Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Mae'r Ganolfan Dargadw yn eich helpu i ddarganfod pa fyfyrwyr ar eich cwrs sydd mewn perygl. Yn seiliedig ar reolau diofyn a rheolau rydych yn eu creu, arddangosir ymrwymiad a chyfranogiad myfyrwyr yn weledol, gan eich rhybuddio'n gyflym am berygl posibl. O'r Ganolfan Dargadw, gallwch gyfathrebu â myfyrwyr sy'n trafferthu a'u helpu i weithredu ar unwaith er mwyn gwella.
Gallwch ddefnyddio nodweddion y Ganolfan Gadw’n syth—nid oes angen eu gosod.
Mae'r Ganolfan Gadw yn disodli nodwedd y System Rhybudd Cynnar gyda gweithlifau hawdd, tra'n cadw holl ddata a rheolau'r System Rhybudd Cynnar presennol.
Y Ganolfan Gadw ar waith
Wrth i'r tymor newydd ddechrau, mynnwch gipolwg cynnar ar berfformiad myfyrwyr. Gwiriwch iechyd academaidd cyffredinol eich dosbarth yn y prif dabl ac edrychwch ar bwy sy'n cael problemau. Gyda chip yn unig, dysgwch bwy sydd angen eich help a thuriwch i weld eu meysydd anhawster penodol. Cysylltwch â'r myfyrwyr sydd fwyaf eu perygl yn syth a nodwch y rhai hynny rydych am eu monitro'n agos. Wrth i chi arsylwi eu cynnydd ac anfon e-byst, gallwch hefyd gadw llygad ar yr ohebiaeth hon a gwneud nodiadau am bob myfyriwr yn y Ganolfan Gadw.
Addaswch y rheolau diofyn i weddu i'ch technolegau addysgu:
- Newidiwch y trothwy ar gyfer dyddiadau cyflwyno i fod yn fwy hael.
- Crëwch ddwy neu dair rheol newydd i dracio eitemau penodol sy'n ddangosyddion da o berygl.
- Crëwch reolau i wirio pa fyfyrwyr sydd yn y pump y cant ar frig eich dosbarth a gwobrwywch eu gwaith. Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i ganfod mentoriaid myfyrwyr, pennu aelodaeth grŵp, neu ddod o hyd i gynorthwywyr addysgu.
Defnyddiwch eich gwybodaeth gweithgaredd cwrs i flaenoriaethu pa feysydd o'ch cwrs i roi sylw iddynt yn gyntaf.
Y cynharaf y gallwch ganfod a datrys problemau, y mwyaf llwyddiannus y bydd myfyrwyr. Maent yn fwy tebygol o orffen eich cwrs a pharhau gyda'r rhaglen hyd at raddio-sef y gôl gadw sylfaenol i sefydliad.
Cyrchu'r Ganolfan Gadw
Mae'r Ganolfan Gadw wedi’i throi ymlaen yn awtomatig a bydd yn weladwy ar unwaith yn newislen Fy Blackboard. Gallwch hefyd gael mynediad at y Ganolfan Gadw yn adran Gwerthuso Panel Rheoli cwrs. Mae'r wybodaeth yn y Ganolfan Gadw ar gyfer hyfforddwyr yn unig ac nid yw eich myfyrwyr yn ei gweld.
Gallwch droi’r Ganolfan Gadw ymlaen neu ei diffodd yn eich cwrs yn y Panel Rheoli > Addasu > Argaeledd yr Offer. Os ydych yn addysgu cwrs gyda hyfforddwr arall, ac yn diffodd y Ganolfan Gadw, rydych yn ei diffodd i'r ddau ohonoch.
-NEU-
Gallwch beidio neu ddechrau olrhain cyrsiau unigol yn My Blackboard Ar y dudalen Canolfan Gadw, dewiswch ddolen gwrs yn y panel ar y chwith. Defnyddiwch y ddolen olrhain yn y panel ar y dde ar ôl enw’r cwrs. Ar ôl i chi ei hanalluogi, nid adnewyddir rhybuddion bellach, a chuddir y Ganolfan Gadw yn adran Gwerthuso Panel Rheoli y cwrs.
Tudalen y Ganolfan Gadw
Cliciwch y bar lliw cyn y tabl i arddangos crynodeb o'r myfyrwyr ar eich cwrs sydd mewn perygl. Cliciwch adran liw i gael mynediad i fwy o wybodaeth. Dewiswch ddolenni yn y naid flychau i fynd ymhellach. Er enghraifft, mewn blwch rhybudd gradd, gallwch glicio ar y rhif a ddengys i gael mynediad i restr o fyfyrwyr sy'n achosi'r rhybudd.
Sylwer, gellir cael mynediad i fyfyrwyr a’u harsylwyr drwy’r ddewislen Hysbysiadau o fwy nag un lle yn yr offeryn. Fel arfer, mae arsylwyr yn rhieni neu gynghorwyr sydd wedi’u neilltuo i ddilyn defnyddwyr penodol yn Blackboard Learn. Nid yw arsylwyr yn rhyngweithio gyda’r system ond gallant weld y cwrs ac olrhain cynnydd myfyrwyr.
Mae gan hysbysiadau e-bost rydych yn eu hanfon bwnc a neges ddiofyn y gallwch eu golygu. Os ydych yn anfon e-bost at fwy nag un derbynnydd, ni fydd y rhestr yn dangos i'r grŵp.
Tabl Mewn Perygl
Mae'r prif dabl yn arddangos pa fyfyrwyr sydd mewn perygl mewn un neu fwy o bedwar categori:
- Dyddiadau Dyledus a Gollwyd
- Graddau
- Gweithgarwch Cwrs
- Mynediad at Gwrs
Gallwch greu cynifer o reolau sydd eu hangen arnoch ymhob categori.
Pan fyddwch yn cael mynediad i'r Ganolfan Gadw, adnewyddir y data. Fodd bynnag, cofnodir y data ar gyfer rheol gweithgaredd y cwrs unwaith y diwrnod.
Trefnir y tabl yn ôl myfyrwyr sydd mwyaf mewn perygl ac yna yn nhrefn yr wyddor. Dewiswch bennawd y golofn i drefnu cynnwys y golofn.
Cliciwch y dangosydd dot coch mewn cell myfyriwr i gael mwy o wybodaeth, i gynnwys y myfyriwr yn yr adran fonitro yn y panel ar y dde, neu i anfon e-bost.
Dewiswch enwau myfyrwyr i gael mynediad i’r tudalennau Statws Cadw. Edrychwch ar eu ffactorau perygl a'r e-byst hysbysu rydych wedi eu hanfon. Gallwch hefyd ychwanegu’r nodiadau preifat hyn am fyfyriwr unigol:
- Gweithgareddau adfer neu ddeunyddiau carlam a gynigiwyd
- Addasiadau arbennig ar gyfer anableddau neu rwystrau iaith
- Cyfarfodydd un i un
- Ymgeisiau ychwanegol a ganiateir ar aseiniadau neu brofion
- Pwy a bennoch i helpu'r myfyriwr
- Cyfleoedd posib i gynorthwywyr dysgu neu fentoriaid myfyrwyr.
Dewiswch Addasu i greu rheolau newydd, golygu rheolau presennol a dileu rheolau. Gallwch greu cymaint o reolau ag y mynnwch.
Panel ar y dde
Yn y panel ar y dde, gallwch weld dau fath o wybodaeth:
- Y myfyrwyr rydych yn eu monitro: Cliciwch ddangosydd dot coch yn y tabl perygl i edrych ar wybodaeth rybudd myfyriwr penodol. Yna, cliciwch yr eicon seren i roi gwybodaeth y myfyriwr yn y panel hwn. Mae'r rhestr hon yn caniatáu i chi gadw llygad ar y myfyrwyr sydd fwyaf mewn perygl ar eich cwrs.
- Gwybodaeth arall rydych yn ei monitro: Mae pob rheol rydych yn peidio â'i chynnwys o'r tabl perygl yn ymddangos yma. Er enghraifft, gallwch greu rheol i arddangos y defnyddwyr hynny sy'n gwneud yn dda ar eich cwrs, ar gyfer gweithgaredd nad yw'n ymwneud â pherygl, neu ar gyfer cyfranogi sydd angen i chi ei fonitro’n achlysurol yn unig.
Pan gaiff eich system ei diweddaru i gynnwys y Ganolfan Dargadw, bydd yr holl reolau Rhybudd Cynnar ar y system yn cael eu cadw. Mae’r rheolau hyn yn ymddangos yn yr adran Gwybodaeth arall rydych yn ei monitro. Gallwch olygu’r rheolau hyn a phenderfynu a ydych chi am eu cynnwys yn eich tabl perygl neu beidio.
Eich Gweithgarwch Cwrs
Mae'r adran sy'n dilyn y tabl risg yn darparu casgliad un stop o'ch gweithgarwch, ymgysylltiadau, a chyfranogiad yn eich cwrs. Mae'r data hwn yn eich helpu i fod yn fwy ymwybodol o sut mae eich ymddygiadau yn cyfrannu at lwyddiant myfyriwr ai peidio.
Os ydych yn addysgu cwrs gyda hyfforddwr arall, mae'r maes hwn wedi ei gyfeirio'n benodol at yr hyfforddwr sydd wedi mewngofnodi ac yn edrych ar ei weithgarwch/gweithgarwch unigol ei hun, fel ymateb i fyfyrwyr gan ddefnyddio'r offer rhyngweithio. Pwrpas y maes hwn yw rhoi cipolwg i'r hyfforddwr unigol ar sut y gall ei weithgaredd/gweithgaredd affeithio ffactorau perygl myfyriwr. Ni all eich cydweithwyr edrych ar yr un wybodaeth, dim ond eu gweithgaredd eu hunain.
Gallwch weld yr wybodaeth hon:
- Y tro diwethaf i chi fewngofnodi
- Oedi ar gyfer graddio cyflwyniadau myfyrwyr
- Eich cyfranogiad yng nghydrannau rhyngweithiol eich cwrs
- Er enghraifft, mae’r rhifau sy’n ymddangos ar gyfer blogiau yn dangos sawl gwaith rydych chi wedi anfon neges, nid eich myfyrwyr neu eich cyd-hyfforddwyr.
- Cyhoeddiadau diweddar
- Cynnwys cwrs newydd sbon
Mae'r wybodaeth hon i chi'n unig, ac ni all defnyddwyr eraill gael mynediad iddi. Bob tro y byddwch yn cael mynediad i'ch cwrs, gallwch ei ddefnyddio i benderfynu pa feysydd cwrs sydd angen eich sylw.
Mae'r dolenni yn yr adran hon yn caniatáu i chi weithredu'n briodol yn gyflym i ymrwymo eich myfyrwyr ymhellach. Er enghraifft, cliciwch ar ddolen aseiniad i ddechrau graddio a rhoi adborth. Gallwch gael mynediad i offer cyfathrebu i ryngweithio gyda myfyrwyr neu ysgrifennu cyhoeddiad heb drafferth.
Personoli'r Ganolfan Dargadw
Gallwch ddefnyddio'r pedair rheol ddiofyn i dderbyn rhybuddion am sut y mae eich myfyrwyr yn gwneud ar eich cwrs. Golygwch y rheolau fel y bo angen i'w haddasu ar gyfer eich cynnwys a’ch disgwyliadau. Pan fyddwch yn creu neu olygu rheolau, rydych yn penderfynu pa rai sy'n ymddangos yn y tabl perygl ar dudalen y Ganolfan Gadw.
- Cynnwys yn y Tabl Risg: Mae'r rheol yn ymddangos yn y tabl perygl sy'n arddangos rhybudd ar gyfer pob myfyriwr sy'n cwrdd â meini prawf y rheol.
- Eithrio o’r Tabl Risg: Mae’r rheol yn ymddangos yn y panel ar y dde yn yr adran Gwybodaeth arall rydych yn ei monitro. Dychwelwch at y dudalen Addasu os ydych chi eisiau cynnwys y rheol yn y tabl risg.
Creu rheolau
Gallwch greu cynifer o reolau ag y mynnwch. Er enghraifft, gallwch greu rheolau graddau unigol sy'n eich rhybuddio pan fydd myfyrwyr yn sgorio o dan bwynt penodol ar bob prawf. Nesaf, gallwch greu rheol gradd sy'n eich rhybuddio os bydd cyfanswm gradd myfyriwr ar eich cwrs yn cwympo i ganran arbennig.
Ar y dudalen Canolfan Gadw, dewiswch Addasu. Ar y dudalen Addasu Canolfan Gadw, pwyntiwch atGreu Rheol a dewiswch un o’r pedwar math o reol a ddisgrifir yn y tabl hwn.
Math o Reol | Disgrifiad |
---|---|
Gweithgarwch Cwrs | Mae'r rhybudd yn seiliedig ar weithgarwch cyffredinol myfyrwyr o fewn eich cwrs. Mae myfyrwyr sydd dan lefel ddiffiniedig o weithgaredd yn achosi’r rhybudd. Mae Blackboard yn mesur yr amser y mae myfyriwr yn gweithio mewn cwrs gan ddefnyddio'r data a gynhyrchir o'i “gliciadau.” Tybir bod myfyriwr yn gweithio gyda chwrs o'r adeg y mae'n clicio ar rywbeth yn y cwrs tan yr adeg y mae'n clicio ar rywbeth y tu allan i'r cwrs neu'n allgofnodi. Os daw amser sesiwn i ben, bydd Blackboard yn cyfrif yr amser hyd at y clic olaf yn y cwrs yn unig. Ni chyfrifir yr amser rhwng y clic olaf mewn cwrs a’r goramser. Heb neilltuo pwysoliad cliciadau i unrhyw faes. Nid ystyrir rheolau rhyddhau addasol. |
Gradd | Mae rhybudd yn seiliedig ar sgôr ddiffiniedig ar gyfer unrhyw radd neu golofn a gyfrifwyd yn y Ganolfan Graddau. Mae myfyrwyr sy'n sgorio'n uwch neu islaw'r trothwy diffiniedig ar gyfer gradd benodol yn achosi rhybudd. Penderfynu pan fydd gradd yn achosi rhybudd:
|
Mynediad at Gwrs | Mae rhybudd yn seiliedig ar y dyddiad y cafodd defnyddwyr fynediad i'ch cwrs ddiwethaf. Mae myfyrwyr nad ydynt wedi mewngofnodi am nifer ddiffiniedig o ddiwrnodau'n achosi rhybudd. |
Dyddiadau Cau a Gollwyd | Mae rhybudd yn seiliedig ar ddyddiad cyflwyno diffiniedig ar gyfer aseiniad, prawf, neu arolwg. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn cwblhau aseiniad, prawf, neu arolwg erbyn y dyddiad cyflwyno yn achosi rhybudd sy'n seiliedig ar yr opsiwn rydych yn ei ddewis:
|
Gallwch greu rheolau dyddiadau cau a gollwyd ar gyfer colofnau’r Ganolfan Graddau rydych yn eu creu â llaw, ond os nad ydych yn graddio eitemau a gyflwynwyd yn gywir erbyn y dyddiad cyflwyno, achosir rhybudd “diangen”. Ar gyfer colofnau a grëir â llaw, gall myfyrwyr gyflwyno eitemau erbyn y dyddiad cyflwyno, ond mae rhaid i chi hefyd eu graddio erbyn y dyddiad cyflwyno.
Dileu rheolau ac adfer rheolau diofyn
Pan fyddwch yn dileu rheol, mae holl gynnwys a data eich cwrs yn aros yn gyfan.
Os nad oes rheolau’n bodoli mewn categori, dychwelwch i’r brif dudalen Canolfan Gadw a dewiswch Defnyddio Diofyn? yn y pennawd colofn. Ychwanegir y rheol ddifon a'r meini prawf. Gallwch ddefnyddio'r rheol fel y mae neu ei golygu.
Y Trosglwyddo o’r System Rhybudd Cynnar
Bydd pob rheol System Rhybudd Cynnar yn cael ei chadw wrth i'ch system cael ei diweddaru i gynnwys y Ganolfan Ddargadwedd. Mae’r rheolau hyn yn ymddangos yn yr adran Gwybodaeth arall rydych yn ei monitro. Gallwch olygu’r rheolau hyn a phenderfynu a ydych chi am eu cynnwys yn eich tabl perygl neu beidio.
Mae'r trosglwyddo o'r System Rhybudd Cynnar i'r Ganolfan Gadw yn cynnwys yr hanes hysbysu blaenorol y bydd angen ei gadw o bosibl fel rhan o gofnodion cwrs. Sylwer bod y System Rhybudd Cynnar yn cynnwys llai o wybodaeth yn yr hanes hysbysu na’r hyn y mae’r Ganolfan Gadw yn ei gynnwys. Ond, mae cofnodion sy’n cael eu trosglwyddo yn cynnwys dyddiad hysbysu, anfonwr a derbynnydd myfyriwr.