Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Creu cyrhaeddiad

Mae'ch cyraeddiadau'n ymddangos mewn ardaloedd cynnwys ac yn yr offeryn cyraeddiadau.

  1. Agor yr offeryn cyraeddiadau. Gallwch ddod o hyd iddo yn adran Offer Cwrs y Panel Rheoli neu yn newislen Offer ardal gynnwys.
  2. Ar dudalen Creu Cyrhaeddiad, teipiwch enw.
  3. Dewiswch leoliad yn eich cwrs. Caiff y myfyrwyr eu hysbysu.
  4. Dewiswch y math o gyflawniad:
    • Cwblhau Cwrs: Gofynnir am y wobr tystysgrif. Mae bathodyn ychwanegol yn opsiynol.
    • Carreg Filltir: Mae'r wobr ar ffurf bathodyn.
    • Personol: Mae'r wobr ar ffurf bathodyn, tystysgrif, neu'r ddau.
  5. Penderfynwch a yw myfyrwyr yn gallu gweld y cyrhaeddiad cyn iddynt ei ennill:
    • Dewiswch Ie ar gyfer gwobrau gyda'r nod o ysgogi'r holl fyfyrwyr.
    • Dewiswch Na ar gyfer gwobrau arbennig ar gyfer myfyrwyr penodol nad oes angen i bob aelod o'r cwrs eu gweld.
  6. Gallwch ddewis teipio disgrifiad sy'n diffinio'n glir yr hyn rydych yn disgwyl i fyfyrwyr gwblhau er mwyn ennill y wobr.
  7. Dewiswch Diffinio Sbardunau i barhau.

Nid yw cyrhaeddiad yn cael ei gyflwyno i fyfyrwyr tan i chi ddiffinio sbardun y rheol a dewis gwobr.


Diffinio meini prawf gwobr y cyrhaeddiad

Ar gyfer cyflawniad, gallwch ddiffinio un neu fwy o reolau sy'n sbarduno rhyddhau'r wobr. Rhaid i chi ddiffinio o leiaf un rheol.

Mae offeryn cyrhaeddiadau'n defnyddio technoleg rhyddhau addasol Blackboard Learn, gan gynnwys yr eitemau hyn:

  • Ymgeisiau ar brofion, arolygon, ac aseiniadau
  • Graddau ar brofion, arolygon, ac aseiniadau
  • Postiadau trafod a raddir, wikis a raddir, blogiau a raddir, a dyddlyfrau a raddir
  • Colofnau Canolfan Raddau a grëir â Llaw
  • Statws wedi eu hadolygu a farciwyd ar gynnwys y cwrs
  • Aelodaeth grŵp neu ddefnyddwyr penodol
  • Dyddiad dechrau i ennill cyflawniad

Os byddwch yn gosod dyddiad Dangos ar ôl, nid yw myfyrwyr yn gallu ennill y wobr cyn y dyddiad hwnnw, hyd yn oed os ydynt eisoes wedi bodloni'r meini prawf. Nid yw Dangos ar ôl yr un fath â dyddiad gorffen ac nid yw'n derfyn amser.

I greu rheol, rhowch enw iddi a gosodwch y meini prawf hanfodol er mwyn bodloni gofynion y cyrhaeddiad. Defnyddiwch y swyddogaethau ychwanegu i greu meini prawf ychwanegol ar gyfer statws graddio ac adolygu.

Enghraifft:

Os oes rhaid i fyfyrwyr gwblhau pedwar arholiad yn eich cwrs a chael gradd derfynol o 70%, byddwch yn creu'r rhain:

  1. Ymgais ar arholiad A
  2. Ymgais ar arholiad B
  3. Ymgais ar arholiad C
  4. Ymgais ar arholiad CH
  5. Graddio ar gyfer colofn y cyfanswm cyson o leiaf 70%

Os oes meini prawf gwahanol yn bosib, dewiswch Ychwanegu Rheol Arall. Gall hyn hefyd fod yn werthfawr os oes gennych grŵp o ddysgwyr sydd angen cymwysiadau ac sydd â gwahanol ofynion perfformiad i dderbyn y wobr hon.

I ddyfarnu cyrhaeddiad eich hun, defnyddiwch opsiynau'r meini prawf aelodaeth i ddewis y derbynyddion. Er enghraifft, gallwch ddyfarnu bathodyn maer i fyfyrwyr sy'n arwain trafodaethau.

Defnyddiwch Dewis y Wobr i barhau.


Dewis y wobr

Ar y dudalen olaf, dewiswch y wobr, sy'n seiliedig ar y math o gyrhaeddiad:

  • Cwblhau Cwrs: Gofynnir am y wobr tystysgrif. Mae bathodyn ychwanegol yn opsiynol.
  • Carreg Filltir: Mae'r wobr ar ffurf bathodyn.
  • Personol: Mae'r wobr ar ffurf bathodyn, tystysgrif, neu'r ddau.

Gallwch rhagolygu sut y bydd tystysgrif yn ymddangos i fyfyrwyr. Mae'r dystysgrif yn cynnwys eich sefydliad, enw'r myfyriwr, enw'r cwrs a'r dyddiad a cyflawnwyd y meini prawf.

Ar gyfer bathodynnau, gallwch ddewis delwedd o'r catalog neu lwytho delwedd wedi ei haddasu i fyny. Mae delwedd bathodyn wedi ei llwytho i fyny ar gael i'w hailddefnyddio o fewn eich cwrs. Os uwchlwythoch chi delwedd a bod angen i chi ei dynnu, gallwch ddileu'r ffeil o ystorfa eich cwrs yn y cyfeiriadur cyraeddiadau. Ailfeintir delweddau wedi eu llwytho i fyny yn awtomatig.

Caiff enw'r cyhoeddwr ei gwblhau ymlaen llaw yn seiliedig ar osodiadau'r gweinyddwr. Os caniateir, gallwch addasu enw'r cyhoeddwr. Gallwch hefyd bennu dyddiad dod i ben ar gyfer y bathodyn. Os caniateir, gallwch wneud bathodynnau ar gael i'w cyhoeddi i Badge Backpacks y derbynyddion.

Dewiswch Cyflwyno i gyhoeddi'r cyrhaeddiad.

Gan ddibynnu ar eich fersiwn, efallai bydd rhai adrannau o fewn Learn yn cyfeirio at gyhoeddwr Badge fel Mozilla yn hytrach na Badgr.


Gweld cyraeddiadau a'r derbynyddion

Yn yr offeryn cyraeddiadau, gallwch weld yr holl gyraeddiadau a ddiffiniwyd yn eich cwrs, yn ogystal â'r nifer sydd wedi derbyn pob cyrhaeddiad.

Dewiswch Derbynyddion am fanylion ar y myfyrwyr hynny sydd wedi ennill pob un o'r cyraeddiadau. Dewiswch enw myfyriwr ar gyfer gwedd y myfyriwr hwnnw o dudalen Fy Nghyraeddiadau.

Mae'r Dyddiad Derbyn yn dangos pryd welodd y myfyrwyr yr hysbysiad yn dweud eu bod wedi ennill cyrhaeddiad. Mewn achosion lle caniateir graddio gan hyfforddwr neu ddyfarniad â llaw, y dyddiad derbyn yw pryd dangoswyd y gwobrau cyrhaeddiad i'r myfyrwyr.


Dileu cyraeddiadau

I ddileu cyrhaeddiad, ewch i ddewislen a dewiswch Dileu.

Os byddwch yn dewis dileu cyrhaeddiad sydd eisoes wedi cael ei ennill gan fyfyriwr, bydd y wobr gysylltiedig hefyd yn cael ei ddileu.


Gwedd myfyriwr

Gall myfyrwyr gael mynediad at yr offeryn cyraeddiadau ar dudalen Offer, o ddolen offer yn newislen y cwrs, neu o ddolen yn yr ardal gynnwys.

Ar y dudalen Derbynyddion, dewiswch enw myfyriwr i weld gwedd y myfyriwr o dudalen Fy Nghyraeddiadau.

Gallwch ymweld â phwnc y myfyriwr i weld sut maen nhw'n gweld cyraeddiadau. Defnyddiwch swyddogaeth yn ôl eich porwr i ddychwelyd i'r pwnc hwn.


Nodau ac alinio nodau

Gallwch alinio nodau i'r eitemau o gynnwys a grëwyd gyda'r offeryn cyraeddiadau, a byddant yn ymddangos yn adroddiadau Sylw ar Nodau.

Mewn ardal gynnwys, dewiswch ddewislen cyrhaeddiad a dewiswch Ychwanegu Aliniadau.

Rhagor am nodau


Prosesau copïo, mewngludo, allgludo, archifo ac adfer

Yng nghopi'r cwrs, nid yw'r prosesau copïo, mewngludo, allgludo, archifo ac adfer yn cael eu trin fel gwrthrychau gwahanol. Mae cyraeddiadau'n dibynnu ar gynnwys a rheolau rhyddhau addasol. Os byddwch yn copïo cynnwys yn unig rhwng cyrsiau, caiff y rheolau sbarduno eu colli. Os na fyddwch yn cynnwys y cynnwys wrth gopïo neu allgludo/mewngludo, nid yw'r cyraeddiadau'n cael eu cipio. Cyhyd â'ch bod yn dewis cynnwys a rheolau rhyddhau addasol yn y broses, bydd y cyraeddiadau'n cael eu trin yn gywir.