Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Sylwer: Mae WebFolders dim ond yn gweithio ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt yn defnyddio darparwyr mewngofnodi ffederal ar gyfer dilysu. Oherwydd nad yw darparwyr mewngofnodi ffederal yn rhannu'r cyfrinair â Blackboard, nid oes modd dilysu wrth geisio ychwanegu ffolder we at gyfrifiadur Windows neu Mac.
Beth yw WebDAV?
Gallwch ddefnyddio WebDAV i rannu ffeiliau dros y rhyngrwyd. Mae WebDAV yn gydnaws â'r rhan fwyaf o systemau gweithredu. Wrth osod WebDAV, a elwir hefyd yn ffolder gwe, gallwch chi reoli pob un o’r ffeiliau ar gyfer eich cwrs.
Ar Mac, byddwch yn gosod ‘lleoliad a rennir’ yn hytrach na ffolder gwe.
Defnyddiwch ffolderi gwe i wneud y canlynol:
- Creu ffolderi a symud eitemau rhwng ffolderi yn hawdd
- Ailenwi ffeiliau a ffolderi a’u dileu
- Llusgo cynnwys o yriannau a ffolderi lluosog i mewn i'r ffolder gwe neu'r lleoliad a rennir.
- Gweld a golygu ffeil yn hawdd mewn ffolder gwe. Nid oes rhaid ichi lawrlwytho’r ffeil, ei golygu, a’i huwchlwytho eto.
Gwybodaeth am enwau ffeiliau
Mae'n dderbyniol defnyddio'r nodau hyn mewn enwau ffeiliau:
- a-z
- 0-9
- atalnod llawn '.'
- tanlinell '_'
Mae cefnogaeth hefyd ar gyfer holl nodau safonol ISO 8859. Ni chaniateir unrhyw nodau neu symbolau estron.
Newidir pob bwlch i danlinell '_' yn enw'r ffeil a lwythir i fyny. Ni chefnogir nodau arbennig mewn enwau ar ffeiliau.
Gosod ffolder we ar gyfer Microsoft Windows©
I gysylltu â ffolder gwe, defnyddiwch gyfeiriad gwe ffolder y Course Files ac enw defnyddiwr a chyfrinair dilys.
- Yn Ffeiliau Cwrs, dewiswch Sefydlu Ffolder Gwe ar gyfer y ffolder lefel uchaf. Mae dechrau o'r lleoliad hwn yn sicrhau bod gan WebDAV fynediad at yr holl ffolderi a gynhwyswyd yn Ffeiliau Cwrs. Gallwch chi ddewis unrhyw ffolder yn Ffeiliau Cwrs, ond mae’n rhaid i lwybr y ffolder gwe fod yn llai na 240 o nodau. Mae gan bob ffolder gyfeiriad gwahanol.
- Ar dudalen Defnyddio Ffolderi Gwe, de-gliciwch a chopïwch yr URL sy’n ymddangos ar gyfer Cyfeiriad Gwe cyfredol. Byddwch yn gludo'r cyfeiriad yn nes ymlaen.
- O'r ddewislen Cychwyn yn Windows, dewiswch Dogfennau > Dogfennau Personol. Dewiswch Fy Lleoliadau Rhwydwaith yn y ffrâm ar y chwith.
- Dewiswch Add a network place o ddewislen Network Tasks.
- Ar ddewin Add Network Place, dewiswch Choose another network location i greu llwybr byr.
- Gludwch URL y ffolder gwe a gopïoch chi yn gynharach a phwyswch Next.
- Os gofynnir i chi, teipiwch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar gyfer Blackboard Learn. Rhowch enw ar y lle yn y rhwydwaith a phwyswch Next. Pwyswch Finishi gau’r dewin. Mae'n bosibl y gofynnir i chi eto am enw defnyddiwr a chyfrinair.
- Bydd y ffolder gwe yn agor a dangos y ffeiliau a ffolderi yn ffolder Ffeiliau Cwrs.
Symud ffeiliau i’r ffolder gwe
- Ar ôl agor y ffolder gwe, ewch i’r ffolder yr hoffech gadw ffeiliau neu ffolderi ynddi.
- Mewn ffenestr ar wahân, dewch o hyd i’r ffolder ar eich cyfrifiadur sy’n cynnwys y ffeiliau a’r ffolderi yr hoffech eu trosglwyddo.
- Ar ôl agor y ffolder a’ch ffolder gwe, bydd modd llusgo a gollwng ffeiliau neu ffolderi i symud eitemau rhyngddynt. Dewiswch eitem a’i llusgo i’r ffolder gyrchfan. Gollyngwch hi yn y ffolder gan ryddhau botwm y llygoden. Caiff ffeiliau a ffolderi a symudir i’r ffolder gwe eu copïo i Ffeiliau Cwrs.
- Os yw’n well gennych, gallwch chi ddefnyddio copïo a gludo i symud ffeiliau rhwng y ffolder gwe a lleoliad ar eich cyfrifiadur.
- Yn Ffeiliau Cwrs, dewiswch Adnewyddu i weld y ffeiliau a uwchlwythwyd.
Ar ôl i chi gopïo pob ffeil a ffolder, datgysylltwch o'r ffolder gwe. Os na fyddwch yn datgysylltu, bydd y cysylltiad yn aros ar agor tan ichi gau’r cyfrifiadur. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur y mae pobl eraill yn ei ddefnyddio, bydd ganddynt fynediad at bopeth yn Ffeiliau Cwrs.
Pan fydd angen ichi ddefnyddio’r ffolder gwe yn y dyfodol, ewch i My Network Places a dewiswch lwybr byr y ffolder gwe a greoch chi.
Creu lleoliad a rennir ar gyfer Mac©
I gysylltu â ffolder gwe, o'r enw lleoliad a rennir ar Mac, defnyddiwch gyfeiriad gwe ffolder y Course Files gydag enw defnyddiwr a chyfrinair dilys.
- Yn Ffeiliau Cwrs, dewiswch Sefydlu Lleoliad a Rennir ar gyfer y ffolder lefel uchaf. Mae dechrau o'r lleoliad hwn yn sicrhau bod gan WebDAV fynediad at yr holl ffolderi a gynhwyswyd yn Ffeiliau Cwrs. Gallwch chi ddewis unrhyw ffolder yn Ffeiliau Cwrs, ond mae’n rhaid i lwybr y lleoliad a rennir fod yn llai na 240 o nodau. Mae cyfeiriad gwahanol gan bob ffolder a ddewisir.
- Ar y dudalen Defnyddio Lleoliad a Rennir, copïwch yr URL sy'n ymddangos ar gyfer Cyfeiriad Gwe cyfredol. Byddwch yn gludo'r cyfeiriad yn nes ymlaen.
- Finder, dewiswch Go > Connect to Server. Ar y bar
- Yn y ffenestr Connect to Server, gludwch yr URL a gopïoch yng ngham 2 i'r blwch Server Address. Dewiswch Cysylltu.
Cliciwch ar y symbol plws wrth ymyl y cyfeiriad a ludwyd i’w gynnwys ym mlwch Favorite Servers. Pan fyddwch yn cadw cyfeiriad fel hoff weinydd, ni fydd yn rhai i chi ei gopïo a gludo bob tro. Yn y dyfodol, dechreuwch gyda cham 3 i gysylltu â'r lleoliad hwn a rennir.
- Os bydd ffenestr WebDAV File System Authentication yn ymddangos, teipiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Blackboard Learn. Dewiswch Iawn.
- Ar ôl i chi gael eich cysylltu â'r lleoliad a rennir, mae eicon rhwydwaith Mac yn ymddangos ar eich bwrdd gwaith. Dwbl-gliciwch yr eicon i agor y lleoliad a rennir. Bydd y lleoliad a rennir yn dangos y ffeiliau a ffolderi yn Ffeiliau Cwrs.
Symud ffeiliau i’r lleoliad a rennir
- Ar ôl agor y lleoliad a rennir, ewch i’r ffolder yr hoffech gadw ffeiliau neu ffolderi ynddi.
- Mewn ffenestr ar wahân, ewch i’r ffolder ar eich cyfrifiadur sy’n cynnwys y ffeiliau a’r ffolderi yr hoffech eu trosglwyddo.
- Ar ôl agor y ffolder a’ch lleoliad a rennir, bydd modd llusgo a gollwng ffeiliau neu ffolderi i symud eitemau rhyngddynt. Dewiswch eitem a’i llusgo i’r ffolder gyrchfan. Gollyngwch hi yn y ffolder gan ryddhau botwm y llygoden. Caiff ffeiliau a ffolderi a symudir i’r lleoliad a rennir eu copïo i Ffeiliau Cwrs.
- Os yw’n well gennych, gallwch chi ddefnyddio copïo a gludo i symud ffeiliau rhwng y lleoliad a rennir a lleoliad arall ar eich cyfrifiadur.
- Yn Ffeiliau Cwrs, dewiswch Adnewyddu ar y ‘bar gweithrediadau’ i weld y ffeiliau a uwchlwythwyd.
Ar ôl defnyddio’r lleoliad a rennir, mae’n bosibl y bydd rhai ffeiliau’n ymddangos ag enwau ffeil dyblyg gyda "._" neu ".DS Store." Gallwch eu dileu'n ddiogel o Ffeiliau'r Cwrs.
Pan fyddwch wedi copïo pob ffeil a ffolder, caewch y ffenestr a llusgwch eicon rhwydwaith Mac i'r sbwriel i ddatgysylltu o'r lleoliad a rennir. Os na fyddwch yn datgysylltu, bydd yr eicon a’r cysylltiad yn aros ar agor tan ichi gau’r cyfrifiadur. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur y mae pobl eraill yn ei ddefnyddio, bydd ganddynt fynediad at bopeth yn Ffeiliau Cwrs.