Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Gallwch greu ffolderi ac is-ffolderi Ffeiliau Cwrs i gadw trefn ar eich ffeiliau. Mae creu system ffeilio resymegol yn ei gwneud yn hawdd i leoli a chysylltu â ffeiliau pan fyddwch yn creu cynnwys yn eich cwrs. Mae'r strwythur ffolderi yn Ffeiliau Cwrs ar wahân i ffolderi mewn ardal gynnwys yn eich cwrs a does ganddi dim effaith ar gyflwyniad y cynnwys.

Mae ffolderi hefyd yn gallu ei gwneud lawer haws i reoli caniatâd ar gyfer eich cynnwys. Os ydych chi eisiau rhoi caniatâd i ddefnyddwyr penodol ddarllen, ysgrifennu neu dynnu eitemau, gallwch eu grwpio mewn un ffolder a golygu caniatâd ar gyfer y ffolder yn hytrach nag ar gyfer eitemau unigol.

Creu ffolder

Gallwch greu ffolderi yn ffolder lefel uchaf Ffeiliau Cwrs neu y tu mewn i ffolder arall.

  1. Ewch i'r ardal Ffeiliau Cwrs lle rydych eisiau creu ffolder newydd.
  2. Dewiswch Creu Ffolder a theipiwch enw.
  3. Dewiswch deitl y ffolder i greu un is-ffolder neu ragor er mwyn trefnu cynnwys ymhellach.

Golygu gosodiadau ffolder

Gallwch olygu enw unrhyw ffolder heblaw am ffolder ID y cwrs lefel uchaf. Nid yw newid enw ffolder yn torri unrhyw ddolenni i gynnwys yn eich cwrs. Agorwch ddewislen ffolder a dewiswch Golygu Gosodiadau.


Dileu ffolder

Gallwch ddileu unrhyw ffolder heblaw am ffolder ID y cwrs lefel uchaf. Os ydych yn dileu ffolder, dilëir cynnwys y ffolder yn barhaol a thorrir y dolenni i'r cynnwys hwnnw yn eich cwrs. Mae'r system yn eich hysbysu y bydd gweithred Dileu yn arwain at dorri dolenni. Yn eich cwrs, mae dolenni wedi torri yn ymddangos gyda datganiad "Ffeil Annilys" nesaf atynt.

  1. Agorwch ddewislen ffolder a dewiswch Dileu. Gallwch hefyd ddewis blwch ticio ffolder a dewis Dileu.
  2. Mae rhybudd yn ymddangos. Dewiswch Iawn i gadarnhau'r dilead.
  3. Ar dudalen Rhestru Ffeiliau a Ffolderi gyda Dolenni, mae'r system yn rhoi gwybod i chi os yw'r ffolder neu unrhyw ffeiliau yn y ffolder yn gysylltiedig mewn cwrs. Gallwch wagio'r blychau ticio ar gyfer eitem nad ydych am eu dileu. Gallwch hefyd weld adroddiad gwedd 360° i weld yn union lle mae'r eitemau'n ymddangos yn eich cwrs.
  4. Dewiswch Cyflwyno.