Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Gallwch ychwanegu ffeiliau a ffolderi at Ffeiliau Cwrs mewn sawl ffordd, gan gynnwys pan fyddwch yn creu cynnwys cwrs.

Nid yw ffeiliau myfyrwyr wedi'u cadw mewn Ffeiliau Cwrs, ac ni allant uwchlwytho eitemau yma. Pan fyddant yn cymryd rhan mewn cwrs, gallant bori ac atodi ffeiliau o'u cyfrifiaduron yn unig.

Gallwch lwytho i fyny ffeil unigol, ffeiliau lluosog, neu un neu fwy o ffolderi i Ffeiliau'r Cwrs. Caiff cynnwys y ffolderi ei uwchlwytho a bydd yn ymddangos yn unigol yn y rhestr uwchlwytho. Ar ôl uwchlwytho, gallwch symud y cynnwys i ffolderi eraill fel y bo angen.

I ddewis ffeiliau a ffolderau lluosog mewn rhestr ar beiriant Windows, gwasgwch y bysell Shift a dewiswch yr eitemau cyntaf ac olaf. I ddewis ffeiliau a ffolderau allan o ddilyniant, gwasgwch y bysell Ctrl a dewiswch bob eitem. Os ydych yn defnyddio Mac, defnyddiwch y bysell Command yn lle'r bysell Ctrl.


Ychwanegu ffeiliau

Gallwch ychwanegu cynnwys mewn pedair ffordd:

  • Uwchlwytho ffeiliau a ffolderi at Ffeiliau'r Cwrs gan ddefnyddio'r swyddogaethau llusgo-a-gollwng neu bori.
  • Uwchlwytho ffeiliau o'ch cyfrifiadur wrth i chi greu cynnwys â Pori Fy Nghyfrifiadur.
  • Creu eitemau HTML yn Ffeiliau Cwrs ac uwchlwytho ffeiliau.
  • Defnyddio WebDAV ar gyfer uwchlwytho uniongyrchol, golygu a rheoli ffeiliau yn Ffeiliau Cwrs o'ch cyfrifiadur bwrdd gwaith neu drwy rhaglenni a allai ddefnyddio WebDAV.

Rhagor am arferion gorau atodi ffeiliau


Llusgo ffeiliau i'w huwchlwytho

  1. Yn y ffolder Ffeiliau Cwrs lle rydych am uwchlwytho’r ffeiliau, pwyntiwch at Uwchlwytho a dewiswch Uwchlwytho Ffeiliau.
  2. Ar eich cyfrifiadur, agorwch y ffolder sy'n cynnwys y ffeiliau a ffolderi i'w huwchlwytho.
  3. Llusgwch ffeiliau o'ch cyfrifiadur i'r "ddolen glicio" yn ardal Atodi Ffeiliau. Os yw'ch porwr yn ei ganiatáu, gallwch hefyd lusgo ffolder o ffeiliau. Bydd y ffeiliau'n uwchlwytho'n unigol.
  4. Gallwch ddefnyddio enw'r ffeil neu roi enw arall i'r ffeil.
  5. Dewiswch Peidiwch â’i atodi yn rhes unrhyw ffeiliau nad ydych am eu huwchlwytho.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Ni fyddwch yn gallu llusgo ffeiliau i'w huwchlwytho os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard Learn.


Pori am ffeiliau

  1. Yn y ffolder Ffeiliau Cwrs lle rydych am uwchlwytho’r ffeiliau, pwyntiwch at Uwchlwytho a dewiswch Uwchlwytho Ffeiliau.
  2. Ar y dudalen Uwchlwytho Ffeiliau, dewiswch Pori ac agorwch y ffolder ar eich cyfrifiadur â'r ffeiliau a'r ffolderi i'w huwchlwytho. Dewiswch y ffeiliau.
  3. Bydd y ffeiliau a ffolderi yn ymddangos yn y blwch uwchlwytho. I ddileu ffeil yn y rhestr, dewiswch X yn y golofn Dileu. Bydd cynnwys ffolderau'n ymddangos yn unigol yn y rhestr uwchlwytho, ond ar ôl iddynt gael eu huwchlwytho, maent wedi'u cynnwys yn eu rhiant ffolderau.
  4. Dewiswch Cyflwyno. Mae bar statws yn arddangos cynnydd y llwytho i fyny.

Uwchlwytho ffeiliau lleol wrth greu cynnwys

Pan fyddwch yn creu cynnwys yn eich cwrs, gallwch bori am ffeil ar eich cyfrifiadur a chysylltu â hi. Mae ffeiliau a uwchlwythwch gyda'r swyddogaeth Pori fy Nghyfrifiadur wedi'u cadw yn y ffolder lefel uchaf yn Ffeiliau Cwrs. Nid oes gennych opsiwn i ddewis ffolder gwahanol pan fyddwch yn uwchlwytho ffeil. Yn ddiofyn, rhoddir caniatâd darllen i bob defnyddiwr cofrestredig ar gyfer ffeiliau rydych yn eu huwchlwytho i'ch cwrs gyda'r dull hwn.

Os byddwch yn uwchlwytho ffeil sydd â'r un enw â ffeil sydd eisoes yn y ffolder lefel uchaf, cedwir y ffeil newydd gyda rhif wedi'i atodi i'r enw. Er enghraifft, daw Project Guidelines.pdf yn Project Guidelines(1).pdf.

Ni fydd rhai ffeiliau a uwchlwythir i'ch cwrs yn cael eu cadw yn Ffeiliau'r Cwrs, megis wrth greu tudalennau wiki. Am restr gyflawn, gweler Ynghylch Ffeiliau a Ychwanegir yn Awtomatig at Ffeiliau Cwrs.

  1. Yn yr adran Atodiadau ar y dudalen Creu Eitem, dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i chwilio am ffeil.
  2. Teipiwch Teitl Dolen. Dyma'r testun y mae myfyrwyr yn ei weld fel dolen i'r ffeil. Dewiswch Peidio ag atodi i dynnu'r ffeil a ddewiswyd.
  3. Dewiswch Cyflwyno ar ôl i chi orffen creu'r eitem.

Mae'r ffeil sydd wedi'i huwchlwytho i'r eitem gynnwys yn ymddangos fel dolen yn yr ardal gynnwys ac yn cael ei chadw mewn Ffeiliau Cwrs yn y ffolder lefel uchaf. Gallwch symud y ffeil i ffolder gwahanol mewn Ffeiliau Cwrs ac ni fydd y ddolen yn eich cwrs yn torri.


Atodi ffeiliau gyda’r golygydd

Gallwch ddefnyddio'r swyddogaethau golygydd i greu dolenni i ffeiliau hefyd. Mae ffeiliau rydych yn eu uwchlwytho'n cael eu cadw mewn Ffeiliau Cwrs yn y ffolder lefel uchaf.

Mae creu dolen i ffeil gyda'r golygydd yn cynnig mwy o reolaeth dros ble mae dolen ffeil yn ymddangos mewn perthynas â thestun arall. Mae testun amgen yn ymddangos pan fydd defnyddiwr yn symud cyrchwr y llygoden dros ddolen ac mae'n cael ei darllen gan ddarllenwyr sgrîn.

I ychwanegu ffeil neu greu dolen yn y golygydd, dewiswch yr eicon Ychwanegu Cynnwys. Mae ffenestr newydd yn ymddangos er mwyn i chi ychwanegu'ch cynnwys.


Uwchlwytho pecyn zip i Ffeiliau Cwrs

Mae gennych ddau opsiwn wrth uwchlwytho pecyn zip i Ffeiliau Cwrs:

  • Dad-sipio'r cynnwys, gan gadw strwythur y ffolder a’r dolenni yn gyfan—yr opsiwn Uwchlwytho Pecyn Zip.
  • Cadw'r ffeil wedi’i sipio—yr opsiwn Uwchlwytho Ffeiliau.

Dad-sipio'r ffeil wrth uwchlwytho

Gallwch greu casgliad o ffeiliau neu wers gyfan, gan gynnwys taflenni dull rhaeadru (CSS), ei sipio i mewn i becyn, a'i lwytho i fyny i mewn i Ffeiliau'r Cwrs o'ch cyfrifiadur.

Enghraifft: Efallai y byddwch am ddefnyddio, ewch i'r opsiwn hwn os yw'n well gennych greu gwers sydd â nifer o dudalennau cysylltiedig gyda llywio, delweddau, dolenni gwe, a dogfennau. Gallwch gywasgu'r cynnwys mewn pecyn zip a'i uwchlwytho i Ffeiliau Cwrs gyda'r opsiwn Uwchlwytho Pecyn Zip. Pan fyddwch yn llwytho ffeil i fyny a sipiwyd yn y modd hwn, mae'r system yn dadsipio ei cynnwys. Pan fyddwch yn creu cynnwys yn eich cwrs, gallwch greu dolen i'r pecyn wedi'i ddadsipio yr ydych wedi'i uwchlwytho trwy ddewis tudalen dechrau. Yn eich cwrs, bydd myfyrwyr yn dewis y ddolen tudalen dechrau ac yn gweld y wers rydych wedi'i huwchlwytho.

Crëwch ffolder yn Ffeiliau'r Cwrs ar gyfer cynnwys y pecyn a ddadsipiwyd, os oes angen. Wrth ddadsipio pecyn gyda sawl ffeil a ffolder, gall fod yn ddefnyddiol cynnwys y cynnwys mewn ffolder.

Mantais: Gallwch olygu unrhyw ran o gynnwys y wers a disodli'r ffeil neu ffeiliau a olygwyd yn unig heb dynnu ac uwchlwytho ffeil newydd wedi'i sipio. Bydd yr holl ddolenni'n aros yn gyflawn yn eich cwrs.

Rhagor am sut i ddisodli ffeil yn Ffeiliau Cwrs

  1. Yn Ffeiliau Cwrs, ewch i'r ffolder rydych eisiau ychwanegu'r pecyn zip ati.
  2. Dewiswch Uwchlwytho > Uwchlwytho Pecyn Zip.
  3. Porwch am y ffeil a dewiswch y math o amgodio, os yn berthnasol.
  4. Dewiswch Cyflwyno.
  5. Ewch i ardal y cwrs rydych eisiau ychwanegu'r ffeil iddi. Yn y rhestr Adeiladu Cynnwys, dewiswch Ffeil.
  6. Defnyddiwch y swyddogaeth Pori Cyrsiau i chwilio am y dudalen dechrau ar gyfer y cynnwys wedi'i ddadsipio.

Bydd myfyrwyr yn dewis y ddolen ar gyfer tudalen dechrau'r wers a gallant weld cynnwys y wers mewn trefn gyda'r holl ddolenni'n gyflawn. Gallwch ailenwi dolen y tudalen cychwynnol a rheoli caniatâd ar gyfer y ffeiliau a'r ffolderi yn y pecyn a ddadsipiwyd.

Os yw disgrifiad neu gyfarwyddiadau yn ofynnol ac ni all teitl gyfleu'r ystyr hwnnw, gallwch greu math o gynnwys eitem yn lle ffeil. Wrth greu eitem, defnyddiwch y swyddogaeth Mewnosod Ffeil yn y golygydd cynnwys i ddewis y dudalen dechrau er mwyn i chi ddewis yr opsiwn Agor Mewn Ffenestr Newydd.

Cadw'r ffeil yn gyflawn ar ôl uwchlwytho

Efallai y byddwch am gadw ffolder cywasgedig yn gyflawn pan fyddwch yn ei uwchlwytho i'ch cwrs. Er enghraifft, os ydych am gynnwys nifer o ddelweddau i fyfyrwyr eu defnyddio mewn cyflwyniad.

Defnyddiwch yr opsiwn Uwchlwytho Ffeiliau, nid Uwchlwytho Pecyn Zip, i uwchlwytho’r pecyn a sipiwyd i Ffeiliau Cwrs. Mae'r ffeil yn aros wedi ei sipio. Pan fyddwch yn creu cynnwys yn eich cwrs, gallwch greu dolen i'r ffeil a sipiwyd. Yn eich cwrs, bydd myfyrwyr yn dewis y ddolen i'r ffeil wedi'i sipio, ei lawrlwytho i'w cyfrifiaduron, dadsipio'r pecyn, ac yn gallu defnyddio'r cynnwys.