Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Gallwch lwytho ffeiliau i fyny i Ffeiliau'r Cwrs mewn dwy ffordd:
- Llwytho ffeiliau i fyny'n uniongyrchol i mewn i Ffeiliau'r Cwrs. Pan fyddwch yn creu cynnwys yn eich cwrs, gallwch gysylltu â'r ffeiliau.
- Llwythwch ffeiliau wrth greu cynnwys yn eich cwrs. Cedwir y rhan fwyaf o ffeiliau'n awtomatig yn Ffeiliau'r Cwrs.
Pan fyddwch yn defnyddio Pori Fy Nghyfrifiadur i lwytho ffeiliau i fyny o'ch cyfrifiadur, cedwir y rhan fwyaf o ffeiliau'n awtomatig yn Ffeiliau'r Cwrs. Os byddwch yn eu llwytho i fyny i mewn i faes cwrs, nid oes angen i chi lwytho'r un ffeiliau'n uniongyrchol i Ffeiliau'r Cwrs. Mae'r ffeil yn ymddangos fel dolen yn yr eitem gynnwys ac mae'n cael ei chadw'n awtomatig hefyd yn Ffeiliau'r Cwrs yn y ffolder lefel uchaf. Gallwch gysylltu â’r ffeil eto mewn un neu fwy o feysydd cwrs, ond nid mewn cyrsiau eraill rydych yn eu dysgu.
Ffeiliau a Ychwanegir yn Awtomatig
Pan fyddwch yn llwytho ffeil fel rhan o gynnwys cwrs mewn maes cwrs, mae'r rhan fwyaf o ffeiliau’n cael eu cadw’n awtomatig mewn Ffeiliau Cwrs, fel y mathau hyn:
- Ffeiliau a lwythir i fyny i fathau o gynnwys o'r gwymplen Adeiladu Cynnwys, fel eitem, ffeil, URL, delwedd, sain, fideo, maes llafur, a dolen cwrs.
- Ffeiliau a lwythir i fyny pan fyddwch yn creu aseiniadau
- Ffeiliau a lwythir i fyny pan fyddwch yn creu cyhoeddiadau
- Ffeiliau a lwythir i ddisgrifiadau, cyfarwyddiadau a chwestiynau mewn profion.
- Mae ffeiliau baneri cwrs yn uwchlwytho i bwynt mynediad y cwrs.
- Ffeiliau a lwythir i fyny gan ddefnyddio'r swyddogaethau yn y golygydd ar gyfer dyddlyfrau a phynciau blogiau, ac wrth i chi greu wiki
- Ffeiliau a lwythir i fyny at y bwrdd trafod gyda'r golygydd neu’r adran Atodiadau
- Ffeiliau a lwythir i fyny pan fyddwch yn creu gwrthrychau HTML
Mae'r rhestr hon hefyd yn berthnasol i ffeiliau a gynhwysir mewn pecyn cwrs. Os ydych yn mewngludo pecyn cwrs, ychwanegir y mathau hyn o ffeiliau at Ffeiliau’r Cwrs.
Ffeiliau nas ychwanegir yn awtomatig
Wrth i chi greu cynnwys, nid yw rhai ffeiliau'n cael eu cadw'n awtomatig yn Ffeiliau'r Cwrs oherwydd problemau preifatrwydd posibl neu'r math o ffeil, fel y mathau hyn:
- Ffeiliau Hunanasesiad ac Asesiad gan Gyfoedion
- Ffeiliau a lwythir i fyny i ddyddlyfrau a chofnodion blog yn yr adran Ffeiliau Cofnod Dyddlyfr/Blog
- Ffeiliau a lwythir i fyny i dudalennau wiki a hafan wiki
- Ffeiliau SCORM
- Ffeiliaug geirfa
- Ffeiliau myfyrwyr a lwythir i fyny wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau cwrs, fel llwytho dogfen aseiniad i fyny neu atodi ffeiliau wrth greu cofnodion dyddlyfr.