Cwestiynau Cyffredin Ymwelwyr Am Ally Ar Gyfer Gwefannau

Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?

Mae Ally yn darparu fformatau amgen ar gyfer y mathau hyn o gynnwys:

  • Ffeiliau PDF
  • Ffeiliau Microsoft® Word
  • Ffeiliau Microsoft® Powerpoint® 
  • Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
  • Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
  • Cynnwys a grëir yn offeryn golygu'r dudalen we (WYSIWYG)

Gellir cynhyrchu'r fformatau amgen hyn:

  • Fersiwn OCR (ar gyfer dogfennau wedi'u sganio)
  • PDF wedi'i dagio (ar gyfer ffeiliau Word, PowerPoint ac Open Office/LibreOffice ar hyn o bryd)
  • HTML sy'n addas ar gyfer dyfeisiau symudol
  • Sain
  • ePub
  • Braille Electronig
  • BeeLine Reader
  • Fersiwn Cyfieithiedig
    • Mae’r Fersiwn Cyfieithiedig wedi’i analluogi yn ddiofyn. Gall gweinyddwyr gyflwyno cais am gymorth i’w alluogi.

Rhagor am fformatau amgen

A gynhyrchir fformatau amgen ar ôl cyflwyno cais i lawrlwytho?

Pan ofynnir am fformat amgen ar gyfer eitem o gynnwys am y tro cyntaf, bydd Ally yn cynhyrchu’r fformat ar alw. Ar gyfer y rhan fwyaf o achosion, fe’i cynhyrchir o fewn 1-2 funud.

Ar ôl ei gynhyrchu, lawrlwythir y fformat amgen. Wedyn, mae Ally yn cadw'r canlyniad yn y storfa, er mwyn cynhyrchu a lawrlwytho ceisiadau ychwanegol ar gyfer yr un fformat amgen o'r storfa ar unwaith.

Cwestiynau Braille

Cwestiynau Cyffredin Ally Braille

Pa god Braille mae Ally yn ei ddefnyddio ar gyfer y Fformat Braille Electronig?

Mae Ally yn defnyddio'r ffeil Braille .brf (Braille Ready File) fel y fformat Braille electronig. Mae'r cod braille a ddefnyddiwyd yn dibynnu ar iaith y ddogfen. Ar gyfer dogfennau Saesneg, mae Ally yn defnyddio Gradd 2 Braille Saesneg Safonol (cywasgedig).

Rhagor am Braille Saesneg Safonol ar wefan UKAAF

A ellir argraffu Fformat Braille Electronig Ally gan ddefnyddio argraffydd Braille?

Gellid defnyddio fformat .brf (Braille Ready File) ar gyfer dangosyddion braille electronig a boglynwyr braille (argraffyddion).

Bydd rhaid ichi wirio a yw boglynnwr/argraffydd Braille penodol yn cefnogi'r fformat .brf.

Rhagor am BRF ar wefan Accessible Instructional Materials

 

Pam ydw i'n gweld "Mae'r fformatau amgen ar gyfer y ffeil hon wedi'u hanalluogi"?

Gall gweinyddwyr ddiffodd fformatau amgen ar gyfer tudalennau gwe a ffeiliau unigol. 

Beth fydd angen i olygyddion cynnwys ei wneud i gynhyrchu fformatau amgen hygyrch ar gyfer eitem o gynnwys?

Dim byd. Bydd Ally yn sylwi ar unrhyw ddeunydd presennol neu newydd yn awtomatig, yn ei rhedeg trwy'r rhestr wirio hygyrchedd, ac yn gwneud y fersiynau amgen ar gael i'r ymwelwyr a'r golygydd.

Oes terfyn maint ffeil?

Nid yw Ally yn gorfodi maint ffeil mwyaf. Efallai bydd achosion lle mae'r algorithm yn methu â chynhyrchu fformatau amgen ar gyfer rai ffeiliau mawr.

  • Cadwch y cynnwys gwreiddiol yn fyrrach na 100 o dudalennau i gynhyrchu fformat OCR ar gyfer dogfennau wedi'u sganio.
  • Cyfyngwch gynnwys i 100,000 o nodau ar gyfer y fformat sain. Mae’r terfyn nodau hyn fel arfer yn cyfateb i o leiaf 30 tudalen neu nifer o oriau o sain.
  • Cyfyngwch gynnwys i 30,000 o nodau ar gyfer y fformat wedi’i gyfieithu.
  • Cyfyngwch ffeiliau wedi’u trwsio sy’n cael eu huwchlwytho drwy banel Adborth i Hyfforddwyr i 50MB.

Sut mae Ally yn trin cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair?

Mae Ally yn canfod cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair, yn rhoi sgôr hygyrchedd 0% i’r cynnwys ac yn darparu arweiniad i help tynnu'r cyfrinair trwy'r panel adborth i olygyddion cynnwys. Nid yw Ally yn cynhyrchu unrhyw fformatau amgen ar gyfer cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair, gan na allwn gael mynediad at y cynnwys ei hun.

A allaf analluogi fformatau amgen?

Gallwch, gall gweinyddwyr analluogi fformatau amgen.

 

Panel adborth i olygyddion cynnwys

Cwestiynau Cyffredin am Adborth i Hyfforddwr

Sut ydw i'n gweld yr holl broblemau?

Dewiswch Pob broblem i weld pob problem yn y ffeil. Mae'r olwg hon yn dangos ichi faint y gall y sgôr wella trwy atgyweirio pob problem. Canfyddwch y broblem rydych am ddechrau ei atgyweirio a dewiswch Atod.

Pa drothwy sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer lliw'r dangosydd hygyrchedd?

Rydym yn darparu sgôr hygyrchedd i bob dogfen, sef sgôr ganran sydd i fod i adlewyrchu pa mor hygyrch yw eitem, faint o bobl y gall effeithio arnynt, pa mor ddifrifol mae'n effeithio arnynt, ac ati. I gyfrifo'r sgôr hygyrchedd ar gyfer dogfen, rydym yn cymryd cyfartaledd pwysedig o'r gwahanol reolau/gwiriadau hygyrchedd, gan fod rhai rheolau yn bwysicach/mwy sylweddol nag eraill.

O fewn y Rhyngwyneb Defnyddiwr, rydym yn defnyddio trothwyon ar gyfer penderfynu lliw'r dangosydd.

Eiconau Sgôr Hygyrchedd Ally

Mae sgoriau yn amrywio o Isel i Perffaith. Po uchaf y sgôr po leiaf y problemau.

  • Isel (0-33%): Angen help! Mae problemau hygyrchedd difrifol.
  • Canolig (34-66%): Ychydig yn well. Mae'r ffeil rhywfaint yn hygyrch ac mae angen gwella.
  • Uchel (67-99%): Bron yna! Mae'r ffeil ar gael ond mae rhagor o welliannau yn bosibl.
  • Perffaith (100%): Perffaith! Ni nododd Ally unrhyw broblemau hygyrchedd ond efallai y bydd gwelliannau pellach yn bosibl o hyd.

Mae hygyrchedd yn sbectrwm lle mae gwelliannau pellach yn bosibl bob amser, felly mae'n anodd darparu pwynt lle mae'r eitem yn dod yn "hygyrch". Fodd bynnag, unwaith y bydd eitem yn y parth gwyrdd dylai fod yn gwneud yn rhesymol dda.

Ar gyfer pa fathau o gynnwys mae rhagolygon yn y porwr ar gael?

Mae rhagolygon yn y porwr ar gael ar gyfer y ffeiliau hyn ar hyn o bryd:

  • Delweddau
  • Dogfennau PDF
  • Dogfennau Word
  • Cyflwyniadau PowerPoint
  • Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice (Writer ac Impress)
  • Cynnwys WYSIWYG a grëwyd yn eich LMS

Wedyn, defnyddir y rhagolygon hyn i nodi ble gallwch ddod o hyd i broblemau hygyrchedd penodol yn y ddogfen. Darparir amlygiadau ar hyn o bryd ar gyfer y problemau hyn:

  • Delweddau heb ddisgrifiad amgen priodol
  • Darnau o destun â chyferbyniad annigonol
  • Tablau heb benawdau tabl

Bydd adborth ar gyfer problemau hygyrchedd eraill ond yn dangos y rhagolwg o gynnwys heb amlygiadau.

Rhagor am ragolygon


Fideos YouTube

Beth mae Ally yn ei wneud â fideos YouTube?

Mae Ally yn gwirio fideos YouTubeTM am gapsiynau ac yn cyflwyno'r wybodaeth hon yn yr adroddiadau hygyrchedd. Nid ystyrir capsiynau YouTube a gynhyrchwyd yn awtomatig i fod yn gapsiynau dilys. Ystyrir unrhyw fideo YouTube sydd â chapsiynau a gynhyrchwyd yn awtomatig i fod ‘heb gapsiwn’ yn yr Adroddiad Sefydliadol.

Mae Ally yn gwirio am fideos YouTube wedi’u plannu a dolenni i fideos YouTube.

Yn yr adroddiad, mae’r golofn "HTML: Mae’r cynnwys HTML yn cynnwys fideos heb gapsiynau" yn amlygu'r nifer o gynnwys a ffeiliau HTML sydd â fideos YouTube heb gapsiynau. Yn ffeil allgludo'r Adroddiad Sefydliadol, enw’r golofn yw HtmlCaption:2.

Nid yw'r broblem hon yn cyfrannu i'r sgôr cyffredinol gan na all Ally ddilysu manwl gywirdeb capsiynau a gynhyrchwyd yn awtomatig eto.

Nid oes unrhyw adborth na fformatau amgen ar gael ar yr adeg hon ar gyfer fideos.