Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?
Mae Ally yn darparu fformatau amgen ar gyfer y mathau hyn o gynnwys:
- Ffeiliau PDF
- Ffeiliau Microsoft® Word
- Ffeiliau Microsoft® Powerpoint®
- Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
- Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
- Cynnwys a grëir yn offeryn golygu'r dudalen we (WYSIWYG)
Gellir cynhyrchu'r fformatau amgen hyn:
- Fersiwn OCR (ar gyfer dogfennau wedi'u sganio)
- PDF wedi'i dagio (ar gyfer ffeiliau Word, PowerPoint ac Open Office/LibreOffice ar hyn o bryd)
- HTML sy'n addas ar gyfer dyfeisiau symudol
- Sain
- ePub
- Braille Electronig
- BeeLine Reader
- Fersiwn Cyfieithiedig
- Mae’r Fersiwn Cyfieithiedig wedi’i analluogi yn ddiofyn. Gall gweinyddwyr gyflwyno cais am gymorth i’w alluogi.
A gynhyrchir fformatau amgen ar ôl cyflwyno cais i lawrlwytho?
Pan ofynnir am fformat amgen ar gyfer eitem o gynnwys am y tro cyntaf, bydd Ally yn cynhyrchu’r fformat ar alw. Ar gyfer y rhan fwyaf o achosion, fe’i cynhyrchir o fewn 1-2 funud.
Ar ôl ei gynhyrchu, lawrlwythir y fformat amgen. Wedyn, mae Ally yn cadw'r canlyniad yn y storfa, er mwyn cynhyrchu a lawrlwytho ceisiadau ychwanegol ar gyfer yr un fformat amgen o'r storfa ar unwaith.
Cwestiynau Braille
Cwestiynau Cyffredin Ally Braille
Pa god Braille mae Ally yn ei ddefnyddio ar gyfer y Fformat Braille Electronig?
Mae Ally yn defnyddio'r ffeil Braille .brf (Braille Ready File) fel y fformat Braille electronig. Mae'r cod braille a ddefnyddiwyd yn dibynnu ar iaith y ddogfen. Ar gyfer dogfennau Saesneg, mae Ally yn defnyddio Gradd 2 Braille Saesneg Safonol (cywasgedig).
Rhagor am Braille Saesneg Safonol ar wefan UKAAF
A ellir argraffu Fformat Braille Electronig Ally gan ddefnyddio argraffydd Braille?
Gellid defnyddio fformat .brf (Braille Ready File) ar gyfer dangosyddion braille electronig a boglynwyr braille (argraffyddion).
Bydd rhaid ichi wirio a yw boglynnwr/argraffydd Braille penodol yn cefnogi'r fformat .brf.
Rhagor am BRF ar wefan Accessible Instructional Materials
Pam ydw i'n gweld "Mae'r fformatau amgen ar gyfer y ffeil hon wedi'u hanalluogi"?
Gall gweinyddwyr ddiffodd fformatau amgen ar gyfer tudalennau gwe a ffeiliau unigol.