Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Gallwch gyflwyno aseiniad sy'n mynnu cael adolygiad ansoddol gan gyfoedion.
- O brif dudalen eich cwrs, dewch o hyd i enw'r adran lle mae'r aseiniad wedi'i leoli. Gofynnwch i'ch hyfforddwr os nad ydych yn gwybod enw'ch adran:
Gallwch hefyd gael mynediad at y cyflwyniadau sydd ar gael i'w adolygu yn uniongyrchol o'r wedd Dyddiad Cyflwyno neu Calendr. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i chi weithredu wrth adolygu eich tasgau sydd ar y gweill
- Dewiswch yr aseiniad i weld y dyddiad cyflwyno, y nifer o adolygiadau gan gyfoedion y mae angen i chi eu cwblhau a dyddiad cyflwyno'r adolygiadau gan gyfoedion. Efallai byddwch yn gweld cyfarwyddyd hefyd, os ychwanegoch eich hyfforddwr gyfarwyddyd ar gyfer yr aseiniad hwn.
Cofiwch:
- Bydd gennych un ymgais yn unig i gyflwyno eich gwaith er mwyn gwarantu gwreiddioldeb eich ymatebion.
- Ni allwch ddechrau eich adolygiad gan gyfoedion cyn cyflwyno eich gwaith eich hun, hyd yn oed os yw'r cyfnod adolygu gan gyfoedion wedi dechrau.
- Ni allwch ddechrau eich adolygiad gan gyfoedion os nad oes digon o gyflwyniadau i'w hadolygu neu os nad yw'r cyfnod adolygu gan gyfoedion wedi dechrau.
- Gallwch gyflwyno eich aseiniad ac adolygiadau gan gyfoedion ar ôl eu dyddiadau cyflwyno ond fe'u marcir fel cyflwyniadau hwyr. Byddwch yn parhau i fod yn rhan o'r broses ond efallai na fyddwch yn derbyn yr isafswm o adolygiadau gan gyfoedion ar eich cyfer eich hun.
- Dewiswch Gweld yr Asesiad. Gallwch ddechrau gweithio ar eich aseiniad ac uwchlwytho atodiadau a ffeiliau eraill iddo. Dewiswch Cadw a Chau os ydych eisiau cymryd saib wrth gwblhau eich gwaith unrhyw bryd a chyflwyno eich aseiniad yn nes ymlaen. Gallwch ddod yn ôl a bwrw ymlaen â'r gwaith unrhyw bryd.
- Pan fyddwch wedi gorffen pob un o'ch tasgau ac rydych yn hapus gyda'r gwaith, cyflwynwch eich aseiniad. Bydd angen i chi gadarnhau eich cyflwyniad cyn iddo fod wedi'i orffen.
- Ar ôl cyflwyno, gallwch naill ai dewis Gweld y cyflwyniad i weld eich gwaith eto, neu Dechrau'r adolygiad gan gyfoedion os oes adolygiadau sydd ar gael i chi. Bydd yr opsiwn Adolygu gan Gyfoedion yn parhau i fod yn anweithredol nes bod adolygiadau ar gael i chi eu gwirio.
- Pan fydd adolygiadau gan gyfoedion ar gael, dewiswch Dechrau'r adolygiadau gan gyfoedion. Os nad yw'r opsiwn hwn ar gael, mae'n golygu nad yw digon o aseiniadau adolygu gan gyfoedion yn barod. Gallwch roi cynnig arall arni yn nes ymlaen neu gysylltu â'ch hyfforddwr i gael rhagor o wybodaeth.
- Ysgrifennwch eich adborth ar gyfer eich cyd-fyfyriwr yn yr ardal ar ochr chwith y sgrin. Gallwch naill ai Cadw eich sylwadau neu gwblhau'r adborth a defnyddio Cyflwyno i'w gyflwyno. Yn y cam hwn, ni fyddwch yn gweld enw eich cyd-fyfyriwr oni bai bod eich hyfforddwr wedi dweud wrthych am gynnwys eich enw yng nghynnwys yr aseiniad.
Ar ôl i chi gyflwyno eich adborth, defnyddiwch y carwsél i symud i'r adolygiad nesaf gan gyfoedion. - Wrth i chi symud ymlaen yn y broses, bydd modd i chi gweld statws eich cyflwyniadau a mynd yn ôl i'r rhai y mae angen i chi eu cwblhau.
Pan fyddwch wedi gorffen pob un o'ch adolygiadau, bydd modd i chi weld eich cyflwyniad eich hun a'r adborth rydych wedi'i roi, ond ni fydd modd i chi ei olygu.
- Byddwch yn gweld diweddariadau a'r cynnwys gwahanol yng nghyflwyniad eich aseiniad wrth i chi roi a derbyn adborth. Gall eich hyfforddwr, cyd-fyfyrwyr a chi ddysgu am newidiadau perthnasol yng nghyflwyniadau trwy'r Ffrwd Gweithgarwch.
Bydd eich hyfforddwr yn derbyn hysbysiadau pan fydd adolygiadau newydd, a byddwch yn eu derbyn ar ôl i'ch adolygiadau gael eu graddio.
- Os ydych yn cyflwyno eich aseiniad neu adolygiadau gan gyfoedion yn hwyr, gallwch barhau i fod yn rhan o'r broses ond bydd ychydig o gyfyngiadau. Er enghraifft, efallai na fydd modd cwblhau'r isafswm o adolygiadau gan gyfoedion ar gyfer eich aseiniad neu efallai byddwch yn achosi i un neu fwy o'ch cyd-fyfyrwyr golli o leiaf un adolygiad gan gyfoedion.