Ble mae graddau fy aseiniadau?

Fel rheol, nid yw aseiniadau'n cael eu graddio'n awtomatig. Rhaid i'ch hyfforddwr raddio pob aseiniad a chyhoeddi'r radd a'r adborth.

Os oes angen i’ch hyfforddwr raddio eich aseiniad, bydd Heb ei raddio yn ymddangos yn adran Graddio panel ochr yr aseiniad.

Efallai bydd eich hyfforddwr yn dewis peidio dangos atebion cywir cwestiynau a farcir yn awtomatig nes i bob myfyriwr gyflwyno ei waith. Bydd baner yn ymddangos ar frig yr asesiad gyda’r wybodaeth hon. Ewch yn ôl yn nes ymlaen i weld a gafodd yr atebion eu datgelu.

Wrth i'ch hyfforddwyr gyhoeddi graddau, byddwch yn eu gweld yn eich ffrwd gweithgarwch. Dewiswch Gweld fy ngradd i ddangos eich gradd.

The activity stream of the Student's view is open with the "View my grade" button clicked and an example grade highlighted.

Rhagor am y ffrwd gweithgarwch

Gallwch hefyd gael mynediad at yr aseiniad yn eich cwrs er mwyn adolygu'ch gradd ac adborth mewn cyd-destun.

Mae'ch graddau hefyd yn ymddangos ar y tudalennau graddau cyffredinol a rhai'r cwrs.

Rhagor am gael mynediad at raddau

Rhagor am liwiau'r pils graddau

Mwy ar seroau a roddwyd i waith hwyr dyledus

Adolygu adborth gan hyfforddwyr yn Bb Annotate

Pan fyddwch yn cyflwyno atodiad ar gyfer aseiniad, byddwch yn gweld eich cyflwyniad yn y dangosydd Bb Annotate. Mae'r ddewislen yn darparu gwedd crynodeb bar ochr, gosodiadau gweld a gosodiadau tudalen, a galluoedd chwilio ac yn caniatáu i chi argraffu a lawrlwytho'r cyflwyniad. I adolygu'ch gradd ac adborth, dewiswch yr un ddolen yn eich cwrs rydych wedi'i defnyddio i gyflwyno'ch aseiniad. Os rydych wedi uwchlwytho ffeil, bydd yn agor yn awtomatig yn y porwr os yw gwylio mewnol ar waith.

Mae sawl math o ffeil yn agor yn y dangosydd, ond gall eich hyfforddwr anodi’r mathau o ffeiliau hyn yn unig:

  • Microsoft® Word (DOC, DOCX)
  • Microsoft® PowerPoint®(PPT, PPTX)
  • Microsoft® Excel®(XLS, XLSM, XLSX)
  • Dogfennau OpenOffice® (ODS, ODT, ODP)
  • Delweddau Digidol (JPEG, JPG, PNG, TIF, TIFF, TGA, BMP)
  • Delweddau Meddygol (DICOM, DICM, DCM)
  • PDF
  • PSD
  • RTF
  • txt
  • WPD

Cedwir y fformat gwreiddiol a delweddau sydd wedi eu plannu

Cefnogir Bb Annotate ar fersiynau cyfredol Firefox, Chrome, a Safari. Os nad yw'ch ffeil yn agor yn awtomatig yn y porwr, nid yw'ch sefydliad wedi galluogi gwylio mewnol neu ni chefnogir y ffeil.

Bb Annotate viewer, showing a crossed out sentence in blue and several comments from an instructor

Mae gennych nifer o opsiynau ar gyfer gweld adborth eich hyfforddwr yn Bb Annotate. Cyrchir opsiynau drwy eiconau. Hofranwch dros eicon i weld cyngor ar gyfer beth mae'r eicon yn ei wneud.

  • Bar ochr: Gweld golygon Mân-lun, Amlinelliad, Anodiad neu Nod Tudalen o’r cyflwyniad.

    Nid yw dewis anodiad yng ngwedd grynodeb y bar ochr yn ei nodi yn y ddogfen.

  • Tudalennau: Defnyddio’r saethau i neidio i dudalennau gwahanol yn y cyflwyniad.
  • Tremio: Symud y cyflwyniad ar y dudalen.
  • Chwyddo a Ffitio: Chwyddo i mewn ac allan o’r cyflwyniad neu addasu'r wedd i ffitio’r dudalen, ffitio'r lled, neu ddewis y ffit gorau.
  • Argraffu neu Lawrlwytho: Argraffu neu lawrlwytho’r cyflwyniad gyda'r anodiadau.

    Mae'n bosibl y bydd problem hysbys gyda dangosydd PDF mewnol rhai porwyr yn golygu na fydd pob un o'ch anodiadau'n dangos. Defnyddiwch wyliwr PDF brodorol fel Adobe Acrobat i edrych ar dogfennau PDF wedi'u hanodi.

  • Chwilio: Chwilio’r cyflwyniad am destun penodol..

Newidiadau i’r sgôr ar gwestiynau

Gall eich hyfforddwr wneud newidiadau i bwyntiau ar gyfer cwestiwn ar ôl cwblhau graddio. Mae'ch gradd a ddiweddarwyd hefyd yn ymddangos yn y ffrwd gweithgarwch ac ar eich tudalen Graddau.

Gall eich hyfforddwr hefyd roi credyd llawn ar gyfer cwestiwn nis trafodwyd yn llawn yn y ddarlith neu nis eglurwyd yn dda. Ar ôl cwblhau graddio, gallwch weld ar gyfer pa gwestiynau y rhoddodd eich hyfforddwr gredyd llawn. Ymddengys Rhoddwyd credyd llawn wrth ochr y bilsen radd a chaiff ei nodi yn yr adran atebion hefyd.

This is how students view full credit given for a question.

Gweld y cyfarwyddyd

Cyrchwch eich cyflwyniad wedi'i raddio ar dudalen Cynnwys y Cwrs er mwyn agor y panel Manylion a Gwybodaeth. Os ddefnyddiodd eich hyfforddwr gyfarwyddyd i raddio'ch cyflwyniad, dewiswch Graddiwyd yr eitem hon â chyfarwyddyd er mwyn agor y cyfarwyddyd wrth ochr yr aseiniad.

Image of an assignment with the option to view a rubric highlighted

Gallwch ehangu meini prawf unigol i adolygu'r lefelau cyrhaeddiad. Fe amlygir y lefelau cyrhaeddiad a ddyfarnwyd.

This is how students view their grades on a rubric.

Graddau ymgeisiau lluosog

Os yw'ch hyfforddwr yn caniatáu, gallwch wneud mwy nag un cyflwyniad ar gyfer aseiniad. Eich hyfforddwr sy'n dewis sut i gyfrifo'ch radd ar gyfer cyflwyniadau lluosog:

  • Cyfartaledd yr holl ymgeisiau
  • Yr ymgais cyntaf a raddiwyd
  • Yr ymgais olaf a raddiwyd
  • Yr ymgais a raddiwyd uchaf
  • Yr ymgais a raddiwyd isaf

Ym mhanel Manylion a Gwybodaeth yr aseiniad, gallwch hefyd weld eich radd bresennol a'r dull cyfrifo. Dewiswch eich gradd i weld y manylion ac i adolygu'ch cyflwyniadau.

Yn y panel Cyflwyniad, gallwch weld pa ymgeisiau sydd â graddau ac adborth. Dewiswch yr ymgais rydych eisiau gweld. Bydd eich cyflwyniad yn agor, a gallwch weld y radd a sut gafodd ei chyfrifo. Gallwch adolygu'ch gwaith ac ehangu'r panel Adborth os adawyd sylwadau gan eich hyfforddwr.

Rhagor am raddau ac adborth grŵp

Rhagor am recordiadau adborth

Os yw’ch hyfforddwr wedi gadael adborth ar gyfer ymgeisiau lluosog, gallwch ddarllen adborth pob ymgais. Mae neges yn ymddangos os yw'ch hyfforddwr wedi gwrthwneud gradd derfynol yr eitem.

Example of a grade override from the student view

Os cyflwynoch eich gwaith ar ôl y dyddiad cyflwyno, bydd rhybudd hwyr yn ymddangos yn y panel Cyflwyniad ac ar dudalen yr aseiniad.

Gallwch hefyd weld sawl ymgais sydd gennych ar dudalen Graddau Cwrs. Gallwch weld pa gyflwyniadau a gyflwynoch cyn y dyddiad cyflwyno ac a oes unrhyw gyflwyniadau sy'n hwyr neu rai a fydd yn hwyr.

Rhagor am y dudalen Graddau Cwrs


Gwylio fideo am adborth ar aseiniadau

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.



Fideo: Mae adborth ar aseiniadau yn esbonio sut i adolygu eich adborth ar aseiniadau.