Cael mynediad at storfa cwmwl yn eich cwrs

Gallwch gael mynediad at eich ffeiliau storfa cwmwl i’w defnyddio ar gyfer eich aseiniadau, profion, trafodaethau, dyddlyfrau, negeseuon a sgyrsiau.

Er enghraifft, mewn aseiniad, dewiswch Ychwanegu Cynnwys i agor y golygydd a dewiswch Mewnosod o Storfa'r Cwmwl. Os ydych yn edrych ar y golygydd ar sgrin lai, dewiswch yr eicon plws i weld y ddewislen opsiynau.

Ar ddyfeisiau bychain, gallwch gysylltu'r ap Blackboard â Google Drive, OneDrive a Dropbox er mwyn cael mynediad sydyn at eich ffeiliau o fewn yr ap.


Ychwanegu ffeiliau o storfa cwmwl

Pan fyddwch yn ychwanegu ffeiliau o storfa cwmwl, bydd y system yn gwneud copïau o'r ffeiliau yn eich cwrs. Nid yw'r ffeiliau wedi eu cysylltu. Ni fydd unrhyw newid a wnewch i ffeil o fewn eich cwrs yn berthnasol i'r ffeil yn y storfa cwmwl.

  1. Cael mynediad at y golygydd. O’r ddewislen Mewnosod cynnwys , dewiswch Mewnosod o Storfa’r Cwmwl.
  2. Yn ffenestr naid y storfa cwmwl, dewiswch raglen gwe o'r ddewislen a dewiswch un ffeil neu ragor. Neu, cliciwch ar deitl ffolder i weld ei gynnwys a’i ddewis. Gallwch ddewis ffeil ZIP — pecyn o ffeiliau cywasgedig. Bydd ffeiliau ZIP yn parhau i fod yn ffeiliau cywasgedig ar ôl i chi eu hychwanegu.
  3. Bydd y botwm Dewis yn dangos y nifer o ffeiliau a ddewiswyd (e.e. Dewis 2) i chi a bydd yn caniatáu i chi fwrw ymlaen â'r broses.
  4. Bydd rhagolwg o'r ffeiliau a ddewiswyd yn ymddangos. Dewiswch Mewngludo i ychwanegu'r ffeiliau at yr eitem o gynnwys fel atodiadau.
  5. Dewiswch Mewngludo i ychwanegu'r ffeiliau at y dudalen.
    Learn Ultra import files using the Cloud Storage Service

Gallwch barhau i fewngludo ffeiliau i'ch eitemau o Storfa'r Cwmwl gan ddefnyddio'r botwm arwydd plws a dewis yr opsiwn Uwchlwytho o Storfa'r Cwmwl.

Learn Ultra create or update content using files uploaded from Cloud Storage

Golygu'ch cynnwys

Ar ôl i chi ychwanegu cynnwys, ewch i'r ddewislen a dewiswch Golygu i wneud newidiadau neu ychwanegu mwy o gynnwys.

Gallwch olygu'r gosodiadau ar gyfer y ffeiliau a ychwanegoch. Dewiswch ffeil yn y golygydd ac wedyn dewiswch yr eicon Golygu Atodiad yn y rhes o swyddogaethau'r golygydd. Gallwch ychwanegu Enw Arddangos a Thestun Amgen. Mae testun amgen yn disgrifio'r ddelwedd ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenyddion sgrin neu'n ymweld â thudalennau gwe gyda delweddau wedi'u diffodd.

Hefyd gallwch ddewis p'un ai i fewnosod y ffeil fel dolen yn y golygydd neu i fewnosod y ffeil yn uniongyrchol fel ei bod yn ymddangos yn unol â chynnwys arall rydych wedi'i ychwanegu.

Barod? Dewiswch Cyflwyno a byddwch wedi gorffen!

Rhagor am gyflwyno aseiniadau

Storfa cwmwl a chyfrifiaduron a rennir

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan eraill, dilëwch eich cwcis a data gwefannau ar ôl i chi allgofnodi. Trwy wneud hyn, ni all defnyddwyr eraill gael mynediad at ffeiliau sydd wedi eu cadw ar eich storfa cwmwl.