Cael mynediad at eich aseiniadau

Gallwch gael mynediad at aseiniadau yn y ffrwd gweithgarwch neu yn y calendr os yw'ch hyfforddwr wedi ychwanegu dyddiadau cyflwyno.

New assignment notification displayed in the activity stream of the Student's view.

Os yw'r dyddiad cyflwyno wedi pasio ar gyfer aseiniad, byddwch yn cael eich hysbysu yn adran Pwysig y ffrwd gweithgarwch.

Rhagor am waith hwyr

Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch aseiniadau ar y dudalen Cynnwys y Cwrs. Efallai bydd eich hyfforddwr hefyd yn trefnu aseiniadau mewn ffolderi a modiwlau dysgu.

Efallai bydd eich hyfforddwr yn gofyn i chi weithio ar aseiniad gyda grŵp.

Rhagor am aseiniadau grŵp

Ar ôl i chi ddewis aseiniad, bydd y panel Manylion a Gwybodaeth yn ymddangos. Gweld y dyddiad cyflwyno, nifer yr ymgeisiau a ganiateir, y terfyn amser os oes un ynghyd â nodau a chyfarwyddyd ar gyfer graddio o bosib. Gwirio os yw'r dyddiad cyflwyno wedi bod ac os oes unrhyw gyflwyniadau hwyr neu unrhyw rai a fydd yn hwyr.

Cod mynediad

Efallai y bydd eich hyfforddwr yn gofyn i chi fewnbynnu cod mynediad 6 digid i gael mynediad i'r aseiniad. Gall hyfforddwyr ddosbarthu codau mynediad, ond efallai byddant yn gofyn i rywun arall, fel proctor, ddosbarthu'r codau. Ar ôl teipio’r cod, gallwch agor yr aseiniad. Gallwch ddefnyddio'r cod i barhau i weithio ar aseiniad rydych wedi’i gadw. Nid oes angen cod arnoch i weld eich graddau nac adborth a gyhoeddwyd gan eich hyfforddwr. Os yw’ch hyfforddwr yn newid y cod rhwng ymgeisiau, bydd angen i chi ofyn amdano eto.

Gall eich hyfforddwr hefyd ddiogelu aseiniad â'r LockDown Browser. Mae angen i chi roi'r cod mynediad cywir cyn i’r LockDown Browser gael ei lansio.

Dechrau eich ymgais

Os nad oes terfyn amser, gallwch weld aseiniad ac nid oes rhaid i chi ei gyflwyno. Pan fyddwch yn dewis Dechrau ymgais, gallwch weld yr aseiniad a dechrau gweithio ar eich cyflwyniad. Ddim yn barod i gyflwyno? Dewiswch Cadw a chau i gadw'ch gwaith a chau'r aseiniad. Bydd modd i chi fynd yn ôl i'r aseiniad yn nes ymlaen i barhau â'ch gwaith. Yn y senario hwn, dewiswch Parhau â'r ymgais i barhau i weithio arno. Peidiwch ag anghofio Cyflwyno eich gwaith unwaith eich bod yn barod i wneud hynny. 

Os yw'ch hyfforddwr wedi ychwanegu terfyn amser, mae'n ymddangos gyda manylion eraill yr aseiniad ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Byddwch hefyd yn gweld y terfyn amser ar banel Manylion a Gwybodaeth yr aseiniad ac o fewn yr aseiniad wrth i chi weithio arno. 
 

Start attempt


Pan fyddwch yn dewis Dechrau ymgais, byddwch yn gweld ffenestr naid i ddechrau'r amserydd cyn i chi allu mynd i'r aseiniad. Os nad ydych yn barod i weithio, dewiswch Canslo. Ar ôl i chi ddechrau, caiff yr aseiniad ei gyflwyno'n awtomatig pan ddaw'r amser i ben.

Os yw eich hyfforddwr wedi galluogi'r opsiwn Gwahardd Cyflwyniadau Hwyr, caiff yr aseiniad ei gyflwyno'n awtomatig ar y dyddiad cyflwyno os nad ydych eisoes wedi'i gyflwyno eich hun

Rhagor am derfynau amser
 

 

Parhau i weithio ar eich ymgais presennol. Os ydych wedi cadw drafft, bydd y botwm Parhau â'r ymgais yn dangos pa ymgais rydych yn gweithio arno ar hyn o bryd.

Continue attempt

Gweld eich cyflwyniadau. Unwaith eich bod wedi defnyddio'ch holl ymgeisiau, dewiswch y botwm Gweld cyflwyniadau i adolygu eich cyflwyniadau a gwblhawyd.

 

View submissions


Gwaith hwyr

Os byddwch yn agor aseiniad ar ôl i'r dyddiad dyledus basio, cewch eich hysbysu y bydd eich cyflwyniad yn cael ei farcio'n hwyr. Gallwch weld y rhybudd yn y panel Manylion a Gwybodaeth, ar dudalen yr aseiniad, ac yn y ffenestr cadarnhau cyflwyniad. Yn y panel Manylion a Gwybodaeth, gallwch hefyd weld a oes unrhyw gyflwyniadau hwyr neu unrhyw rai a fydd yn hwyr.

Yn y panel, gallwch ddewis eich cyflwyniad yn yr adran Graddio a hefyd gweld eich bod wedi gwneud cyflwyniad hwyr.

Os yw’ch hyfforddwr wedi’i gosod, mae'n bosibl y byddwch yn gweld seroau ar gyfer gwaith nad ydych wedi'i gyflwyno ar ôl i'r dyddiad cyflwyno fynd heibio. Gallwch dal i gyflwyno ymgeisiau er mwyn diweddaru'ch gradd. Eich hyfforddwr sy'n pennu cosbau gradd ar gyfer gwaith hwyr.

Mwy ar seroau a roddwyd i waith hwyr dyledus

Rhagor am raddau ymgeisiau lluosog

Gwylio fideo am Sut i Gyflwyno aseiniad

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.

Fideo: Sut i Gyflwyno aseiniad mewn Cwrs Ultra


 

Gweld ffeiliau a atodwyd

Efallai bydd eich hyfforddwr yn atodi ffeiliau y mae angen i chi eu darllen neu eu defnyddio i gwblhau aseiniad. Eich hyfforddwr sy'n penderfynu sut mae ffeiliau'n ymddangos, megis yn fewnol neu fel atodiadau.

Yn y rhan fwyaf o borwyr, gallwch ddewis y lleoliad mae’r ffeiliau rydych yn eu hagor mewn cyrsiau yn cael eu lawrlwytho iddo. Er enghraifft, yn Chrome, llywiwch i Settings > Advanced > Downloads. Gallwch ddewis y lleoliad ar gyfer lawrlwytho ffeiliau a dewis os ydych eisiau i'r porwr ofyn bob tro. Yn Safari, mae gennych yr un galluoedd. Llywiwch i Preferences > General > File download location. Gallwch chwilio ar y rhyngrwyd i ddysgu am ddewisiadau lawrlwytho ffeiliau ym mhorwyr eraill.

Ar gyfer ffeiliau fideo a sain sy'n ymddangos yn fewnol, dewiswch y teitl i'w hagor mewn ffenestri newydd. Byddwch yn gallu rheoli'r chwarae, y rhewi a'r sain. Ar gyfer ffeiliau fideo, gallwch weld y fideo mewn sgrin lawn. Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffeil.

Ar gyfer ffeiliau fformat cyfrwng sy’n ymddangos fel atodiadau, agorwch y ddewislen. Dewiswch Lawrlwytho'r Ffeil Wreiddiol i lawrlwytho delweddau, dogfennau Word, ffeiliau PDF, neu gyflwyniadau sleidiau i'ch cyfrifiadur. Dewiswch Rhagolwg o'r Ffeil i agor y ffeil ar dudalen y cwrs, megis delwedd.

Ar gyfer ffeiliau delweddau sy'n ymddangos yn fewnol, gallwch ddewis delwedd i'w gweld ar wahân.

 


Cyflwyno aseiniad

Bydd eich hyfforddwr yn darparu'r holl wybodaeth a ffeiliau sydd eu hangen arnoch i gwblhau aseiniad.

Cadwch lygad ar yr amser. Os yw'ch hyfforddwr wedi rhoi terfyn amser ar yr aseiniad, gallwch gadw golwg ar faint o amser sy'n weddill. Bydd cloc sy'n cyfrif i lawr yn ymddangos yng nghornel chwith uchaf eich sgrin ac yn eich rhybuddio wrth i ddiwedd y terfyn amser agosáu.

Bydd yr amserydd yn parhau i gyfrif i lawr pan fyddwch yn cadw drafft neu'n gadael ymgais ar ei hanner.

You can drag and drop files from your computer directly onto the Submission box.

Crëwch eich cyflwyniad. Gallwch lusgo a gollwng ffeiliau o'ch cyfrifiadur yn uniongyrchol i'r blwch Cyflwyniad. Gallwch hefyd ddewis y blwch Cyflwyniad i ddangos y golygydd testun WYSIWYG. I uwchlwytho ffeil, gallwch naill ai llusgo a gollwng ffeiliau yn uniongyrchol yn y blwch Cyflwyniad, neu gallwch ddewis yr eicon clip papur o'r bar offer yn y golygydd WSYIWYG.

You can also select the Submission box to display the WYSIWYG text editor

Cedwir eich atebion yn awtomatig ddwy eiliad ar ôl i chi stopio teipio. Cedwir atebion cwestiynau traethawd bob 10 eiliad wrth i chi deipio ac eto 2 eiliad ar ôl i chi stopio teipio. Bob tro mae ateb yn cael ei gadw'n awtomatig, byddwch yn gweld hysbysiad Cadwyd diwethaf ar waelod yr asesiad.

Last saved notification during a timed assignment


Os byddwch yn colli'ch cysylltiad â'r rhyngrwyd, byddwch yn cael rhybudd Collwyd y cysylltiad. Peidiwch ag adnewyddu'r dudalen na defnyddio botwm yn ôl eich porwr, a gwiriwch eich bod wedi cysylltu â'r rhyngrwyd.

Connection lost warning

Bydd y rhybudd yn diflannu ar ôl 20 eiliad. Os nad ydych wedi ailgysylltu â'r rhyngrwyd erbyn hynny, bydd rhybudd arall yn rhoi gwybod i chi na chafodd eich gwaith diweddaraf ei gadw.
 

Connection lost and progress not saved warning

Cedwir eich gwaith ar ôl i chi ailgysylltu â'r rhyngrwyd a rhoddir gwybod am hynny i chi.
 

Connection restored and progress saved alert

Nid yw cadw'n awtomatig yn dibynnu ar weithred Dadwneud eich porwr. Pan fyddwch yn defnyddio'r weithred Dadwneud, caiff y cynnwys ei newid yn unol â gosodiadau eich porwr. Cedwir unrhyw newidiadau a wnaed oherwydd gweithred Dadwneud yn awtomatig. 

I uwchlwytho ffeil, gallwch naill ai ei llusgo o'ch cyfrifiadur a'i gollwng yn y blwch Cyflwyniad neu ddewis Atodiad - wedi'i gynrychioli gan eicon clip papur- a phori am ffeil o'ch cyfrifiadur. Mae ffenestr statws yn ymddangos i ddangos cynnydd uwchlwytho'r ffeil. Bydd eich aseiniad yn cael ei gadw'n awtomatig ar ôl 2 eiliad. Ar yr adeg hon byddwch hefyd yn cael rhagolwg o'ch ffeil cyn ei chyflwyno.

Os ydych yn penderfynu ychwanegu ffeiliau ac mae terfyn amser, gwnewch yn siŵr y byddant yn gorffen uwchlwytho cyn i'r amser ddod i ben. Os na fydd hynny'n digwydd, ni chânt y ffeiliau eu cynnwys yn eich cyflwyniad.
 

Bydd y rhagolwg yn digwydd yn awtomatig fel rhan o'r weithred cadw'n awtomatig.

Your assignment will be automatically saved and previewed if you select anywhere outside the Submission box.

Fformatio testun ac atodiadau. Gallwch ddefnyddio'r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun a phlannu delweddau ac atodi ffeiliau. Ewch i'r ddolen flaenorol i weld gwedd wedi'i hehangu o opsiynau'r golygydd a chyfarwyddiadau manwl.

Os ydych yn edrych ar y golygydd ar sgrin lai, dewiswch yr eicon plws i weld y ddewislen opsiynau. Byddwch yn gweld yr opsiwn i atodi ffeil at eich aseiniad.

Dim ond eich hyfforddwr sy'n gallu gweld y cynnwys a ychwanegwch.

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.

Mewnosod o Storfa'r Cwmwl: Gallwch gysylltu â sawl ap gwe lle rydych yn storio’ch ffeiliau, megis One Drive ® a Google Drive™, yn syth bin. Bydd y ffeiliau a ychwanegwch yn gopïau. Os gwnewch newidiadau i ffeil yn y storfa cwmwl, bydd angen i chi uwchlwytho copi newydd ohoni i’ch cwrs. Os yw’ch porwr yn ei ganiatáu, bydd ffeiliau cyfryngau yr ydych yn eu hychwanegu o’r storfa cwmwl yn cael eu dangos yn fewnol.

Rhagor am storfa cwmwl

Ychwanegwch at y sgwrs. Os yw'ch hyfforddwr wedi galluogi sgyrsiau, dewiswch eicon Agor sgwrs dosbarth. Gall unrhyw un wneud cyfraniad i'r sgwrs ar yr aseiniad, gan gynnwys eich hyfforddwr.

Rhagor am sgyrsiau

Ddim yn barod i gyflwyno? Dewiswch Cadw a Chau i gadw'ch gwaith a pharhau nes ymlaen. Bydd eich testun, sylwadau a ffeiliau'n cael eu cadw ar y dudalen. Pan fyddwch yn dychwelyd, gallwch ailddechrau gweithio.

Cyflwyno'ch aseiniad. Wedi gorffen? Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch yn barod i'ch hyfforddwr raddio'ch gwaith. Pan fyddwch yn cyflwyno gwaith, bydd panel yn ymddangos gyda dyddiad ac amser eich cyflwyniad. Dewiswch y ddolen Gweld y cyflwyniad ar waelod y panel i adolygu'ch cyflwyniad.

Bydd y botwm Cyflwyno yn ymddangos fel ei fod wedi'i analluogi nes i chi ychwanegu cynnwys neu ateb o leiaf un cwestiwn.

Copïwch a chadwch y rhif cadarnhau cyflwyniad unigryw ar gyfer eich cofnodion. Mae'r cadarnhad hwn yn cadarnhau y cyflwynwyd yr asesiad i'r system yn llwyddiannus.

Os yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu un ymgais yn unig, ni allwch olygu'ch gwaith ar ôl cyflwyno. Os yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu ymgeisiau lluosog a'ch bod yn cyflwyno ymgais ar ôl y dyddiad dyledus, bydd yr ymgais yn cael ei nodi fel un hwyr. Ni fydd unrhyw ymgeisiau a gyflwynwch chi cyn y dyddiad dyledus yn cael eu nodi fel rhai hwyr.

Pan fyddwch yn gorffen eich aseiniad, rhaid i chi ddewis Cyflwyno. Os nad ydych yn gwneud hynny, ni fydd eich hyfforddwr yn derbyn eich aseiniad wedi'i gwblhau.

Cyfrif geiriau yn y golygydd

Wrth i chi deipio yn y golygydd ar gyfer cwestiynau Traethawd ac yn yr ardal cyflwyno, mae'r cyfrif geiriau yn ymddangos dan y golygydd. Ar ôl i chi gadw, nid ymddengys y cyfrif geiriau bellach.

Cynhwysir yr eitemau hyn yn y cyfrif geiriau:

  • Geiriau unigol
  • Dolenni Gwe
  • Testun yn rhestrau â bwledi neu rifau, ond ni chynhwysir y bwledi neu rifau eu hunain
  • Testun uwchysgrif ac isysgrif nid yw'n rhan o air

Nid yw'r eitemau nac elfennau ffurfweddu hyn yn effeithio ar y cyfrif geiriau:

  • Delweddau, fideos ac atodiadau ffeil
  • Fformiwlâu mathemateg
  • Bylchau a llinellau gwag
  • Testun amgen

Pan ddefnyddiwch atalnodi i atodi geiriau neu rifau, bydd effaith ar y cyfrif. Er enghraifft, caiff "Aethom ni...hebddoch chi" ei gyfrif fel tri gair. Cyfrifir y geiriau neu rifau ar bob ochr yr atalnodi fel un gair.

Golygu'ch cynnwys

Ar ôl i chi ychwanegu cynnwys, agorwch y ddewislen a dewiswch Golygu i wneud newidiadau neu ychwanegu rhagor o gynnwys.

Gallwch olygu'r gosodiadau ar gyfer y ffeiliau a ychwanegoch. Dewiswch ffeil yn y golygydd ac yna dewiswch eicon Golygu Atodiad yn y rhes o swyddogaethau'r golygydd. Gallwch ychwanegu Enw Arddangos a Thestun Amgen. Mae testun amgen yn disgrifio'r ddelwedd ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenyddion sgrin neu'n ymweld â thudalennau gwe gyda delweddau wedi'u diffodd.

Hefyd gallwch ddewis p'un ai i fewnosod y ffeil fel dolen yn y golygydd neu i fewnosod y ffeil yn uniongyrchol fel ei bod yn ymddangos yn unol â chynnwys arall rydych wedi'i ychwanegu.

Aildrefnu'ch testun a ffeiliau

Pwyntiwch at floc o destun neu ffeil er mwyn cael mynediad at eicon Symud. Pwyswch a llusgwch y bloc o destun neu ffeil i leoliad newydd.

Gallwch ddefnyddio'ch bysellfwrdd i symud eitem.

  1. Tabiwch i eicon Symud eitem.
  2. Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
  3. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
  4. Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.

Gweld y cyfarwyddyd

Os yw'ch hyfforddwr wedi ychwanegu cyfarwyddyd ar gyfer graddio aseiniad, gallwch ei weld cyn i chi agor yr aseiniad ac ar ôl i chi ddechrau'r ymgais. Dewiswch Mae'r eitem hon wedi'i graddio gan ddefnyddio cyfarwyddyd i weld y cyfarwyddyd.

This is how students view a rubric before they open a gradable item or after they start the attempt.

Os ydych eisiau, gallwch weld y cyfarwyddyd ochr yn ochr â chyfarwyddiadau'r aseiniad. Gallwch ehangu pob un o feini prawf y cyfarwyddyd i weld y lefelau cyrhaeddiad a threfnu'ch ymdrechion i fodloni gofynion y gwaith a raddir.

You can view the rubric alongside the assignment instructions

Aseiniadau a raddir yn ddienw

Pan fyddwch yn agor aseiniad, cewch eich hysbysu os gaiff eich cyflwyniad ei raddio'n ddienw:

Caiff yr asesiad hwn ei raddio'n ddienw. Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol, megis eich enw.

Student view of an assignment with the anonymous alert.

Ni fydd eich hyfforddwr yn gweld eich enw wrth raddio. Efallai bydd eich hyfforddwr yn dewis graddio'n ddienw er mwyn cael gwared ar ragfarn. Nid yw'ch hyfforddwr yn gallu galluogi graddio dienw ar gyfer aseiniadau grŵp.

Ni ddylech gynnwys unrhyw wybodaeth a ellid ei defnyddio i'ch adnabod gyda'ch cyflwyniad. Peidiwch ag ychwanegu'ch enw i'r ffeiliau y byddwch yn eu huwchlwytho neu ddefnyddio'ch enw yn y sylwadau.

Ni fyddwch yn gweld unrhyw arwydd o raddio dienw ar eich tudalen Graddau. Nes i'ch hyfforddwr bostio graddau, byddwch yn gweld Heb ei raddio yn y golofn Graddau. Os yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu ymgeisiau lluosog, byddwch hefyd yn gweld Heb ei raddio ar gyfer pob ymgais rydych wedi'u cyflwyno.

The Submission page from the Student's view is open with two attempts on screen. One of it has a "Not graded" message and the other one has a "100/100" grade.

Aseiniadau wedi’u hamseru

Gall eich hyfforddwr gyfyngu ar faint o amser sydd gennych i gyflwyno'ch aseiniad. Os oes gennych derfyn amser, mae'n ymddangos gyda manylion eraill yr aseiniad ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Byddwch hefyd yn gweld y terfyn amser ar banel Manylion a Gwybodaeth yr aseiniad ac o fewn yr aseiniad, wrth i chi weithio arno. Byddwch yn gweld cloc sy'n cyfrif i lawr yng nghornel chwith uchaf y sgrin a fydd yn rhoi gwybod i chi am yr amser sy'n weddill mewn munudau ac, yn ystod y munud olaf,  yr amser sy'n weddill hyd at yr eiliad olaf.

 

View of the assigment settings

 

Last saved notification during a timed assignment

 

Pan fyddwch yn dewis Dechrau ymgais, byddwch yn gweld ffenestr naid i ddechrau'r amserydd cyn i chi allu mynd i'r aseiniad. Os nad ydych yn barod i weithio, dewiswch Canslo.

Os ydy Gweld yr aseiniad yn cael ei ddangos yn lle Cychwyn ar yr ymgais , nid ydy’r aseiniad yn cael ei amseru. Nid oes rhaid i chi gyflwyno aseiniad heb derfyn amser pan fyddwch yn ei agor.

Os yw'ch hyfforddwr yn caniatáu i chi gyflwyno ymgeisiau lluosog, mae'r terfyn amser yn berthnasol i bob ymgais.

Mae'r amserydd yn parhau i redeg os ydych yn gweithio'n weithredol ar yr aseiniad ai peidio. Os byddwch yn cadw drafft neu'n gadael ffenestr yr aseiniad, bydd yr amserydd yn parhau i gyfrif i lawr a bydd eich gwaith yn cael ei gadw a'i gyflwyno pan fydd yr amser ar ben. Pan fyddwch yn dewis Cadw a Chau i ddychwelyd i'r aseiniad yn nes ymlaen, byddwch yn cael eich atgoffa y bydd yr amserydd yn parhau.

Mae'r amserydd yn ymddangos ar waelod y ffenestr i roi gwybod i chi faint o amser sy'n weddill. Caiff eich gwaith ei gadw a'i gyflwyno'n awtomatig pan ddaw'r amser i ben.

Hysbysiadau amser sy'n weddill. Pan fyddwch yn gwneud asesiad a amserir, byddwch yn cael hysbysiadau sy'n dweud faint o amser sy'n weddill i gyflwyno eich gwaith. Bydd yr hysbysiadau yn dibynnu ar faint o amser mae eich hyfforddwr wedi'i neilltuo ar gyfer yr asesiad: 

  • 10 munud hyd at 1 awr: Byddwch yn cael un hysbysiad pan fydd 10% o'r amser yn weddill. Er enghraifft, ar gyfer asesiad â therfyn amser deg munud, bydd yr hysbysiad yn ymddangos pan fydd un munud yn weddill. 
  • 1 awr neu fwy: Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd 50% o'r amser yn weddill ac ail hysbysiad pan fydd 10% o'r amser yn weddill. Er enghraifft, ar gyfer asesiad â therfyn amser un awr, bydd yr hysbysiadau'n ymddangos pan fydd 30 munud yn weddill a phan fydd 6 munud yn weddill. 

Ni fyddwch yn gweld hysbysiadau amser sy'n weddill os: 

  • Oes gan eich asesiad derfyn amser sy'n llai na 10 munud.
  • Rydych yn fyfyriwr sydd â chymhwysiad amser diderfyn.
Time remaining notification during a timed assignment

 

Respondus LockDown Browser

Myfyriwr - Asesiad Diogel

Gall eich hyfforddwr gyflawni aseiniadau a phrofion yn ddiogel. Mae asesiadau diogel yn helpu hyrwyddo uniondeb academaidd a gonestrwydd yng nghyflwyniadau myfyrwyr. Efallai bydd eich sefydliad yn defnyddio offer Respondus i weinyddu asesiadau diogel.

Am Respondus

Mae Respondus LockDown Browser yn atal eich mynediad at unrhyw ddeunyddiau eraill, gan gynnwys porwyr y rhyngrwyd neu feddalwedd arall, tra bod gennych asesiad ar agor. Ni allwch gyfeirio at wybodaeth allanol neu gopïo deunydd o'r ffynonellau hynny wrth wneud yr asesiad. O fewn ffenestr LockDown Browser, bydd yr asesiad yn ymddangos fel unrhyw asesiad arall yn Ultra.

Mae Respondus Monitor yn defnyddio'ch gwe-gam i atal eich mynediad at ddeunyddiau corfforol yn ystod yr asesiad. Efallai bydd eich hyfforddwr yn gofyn i chi alluogi eich gwe-gam neu ddangos eich cerdyn adnabod i gadarnhau mai chi sy'n cyflwyno'r gwaith.

Ewch i'r Respondus Knowledgebase am gymorth

Beth na allaf ei wneud yn ystod asesiad diogel?

Os yw’ch hyfforddwr wedi gosod diogelwch asesiadau, ni allwch wneud y gweithredoedd hyn:

  • Agor yr asesiad mewn ffenestr porwr safonol
  • Agor rhaglenni eraill neu ffenestri porwr
  • Fynd i wefan eraill
  • Gopïo a gludo
  • Printio
  • Ychwanegu ffeiliau, dolenni, neu fideos at gynnwys eich cyflwyniad
  • Defnyddio rhai llwybrau byr bysellfwrdd penodol
  • Defnyddio'ch ffôn i gyflwyno ymgeisiau

    Efallai bydd eich hyfforddwr yn caniatáu i chi ddefnyddio ap iPad Respondus. Fel arall, mae rhaid i chi gyflwyno asesiad diogel gyda'r feddalwedd bwrdd gwaith.

Lawrlwytho'r offer

Mae rhaid bod gennych Respondus LockDown Browser wedi'i lawrlwytho ar eich cyfrifiadur i agor asesiad diogel yn Blackboard Learn. Os nad ydych wedi lawrlwytho'r offer ac yn ceisio agor yr asesiad, ymddengys neges gyda dolenni i'w lawrlwytho. Dewiswch y ddolen i ddechrau arni.

Cynhwysir Respondus Monitor ym meddalwedd LockDown Browser. Mae gan eich sefydliad ddolen lawrlwytho a rhaglen LockDown Browser unigryw. Gall eich hyfforddwr neu ddesg gymorth eich sefydliad ddarparu'r URL lawrlwytho.

Agor asesiad diogel

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gallwch weld yr offer sydd eu hangen arnoch i agor asesiadau diogel a chyflwyno ymgeisiau. Pan fyddwch yn agor asesiad diogel, bydd panel Manylion a Gwybodaeth yn ymddangos i ddarparu rhagor o fanylion am y radd, nifer yr ymgeisiau a gosodiadau eraill. Byddwch yn gweld pa offer sydd eu hangen arnoch i barhau.

Cyn dechrau ymgais, gwnewch yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho'r feddalwedd ofynnol. Neges Atgoffa: Os nad ydych wedi lawrlwytho'r offer ac yn ceisio agor yr asesiad, ymddengys neges gyda dolenni i'w lawrlwytho.

Dewiswch Gweld asesiad. Mae LockDown Browser yn lansio mewn ffenestr newydd. Os gofynnodd eich hyfforddwr am Respondus Monitor, bydd y broses cychwyn yn dechrau.

Ychwanegu testun ac ateb cwestiynau yn yr asesiad yn union fel rydych mewn porwr safonol. Gallwch gadw drafftiau o'ch gwaith a mynd yn ôl yn nes ymlaen i barhau gyda'r gwaith neu ei gyflwyno. Neges Atgoffa: Ni allwch ychwanegu ffeiliau, dolenni, neu fideos at y golygydd pan fyddwch yn cyflwyno asesiad diogel.

Gweld ymgais

Bydd rhaid i chi hefyd ddefnyddio Respondus Lockdown Browser i weld ymgeisiau a gyflwynwyd ar gyfer asesiadau diogel. Ar ôl i'ch hyfforddwr gyhoeddi'ch gradd, gallwch ddod o hyd iddi mewn nifer o lefydd heb feddalwedd ychwanegol.

I weld yr atebion cywir ar gyfer eich cyflwyniad, bydd angen cael Respondus LockDown Browser. Agorwch eich ymgais a dewiswch Adolygu canlyniadau yn Respondus LockDown Browser i lansio'r offeryn.

Cyflwyniadau All-lein (Myfyriwr)


Cyflwyniadau heb gyswllt

Gall eich hyfforddwr ychwanegu asesiadau nad ydynt yn gofyn ichi uwchlwytho cyflwyniad.

Enghreifftiau o waith all-lein:

  • Cyflwyniadau llafar
  • Prosiectau ffair gwyddoniaeth
  • Perfformiadau actio
  • Gwaith celf wedi'i gyflwyno'n bersonol
  • Ymarferion adeiladu tîm wyneb yn wyneb, trafodaethau panel a thrafodaethau

Gallwch weld yr asesiad ochr yn ochr â'r cynnwys arall ar dudalen Cynnwys y Cwrs ac ar eich tudalennau graddau cyffredinol a chwrs. Pan fyddwch yn cyrchu'r asesiad o'r meysydd cwrs hyn, cewch eich hysbysu na allwch gyflwyno gwaith ar-lein. Gall eich hyfforddwr ychwanegu cyfarwyddiadau, ffeiliau, cyfarwyddyd, a nodau i'ch helpu paratoi ar gyfer y gwaith all-lein. Gallwch hefyd gymryd rhan yn sgyrsiau'r asesiad os ydynt wedi'u galluogi.

The Course content panel from the Student's view is open with 1) an example assignment selected and 2) the "Grading rubric" and "Goals standards" options highlighted.

Ar gyfer cyflwyniadau all-lein, ni allwch gyflwyno ymgeisiau lluosog ac ni all eich hyfforddwr ychwanegu terfyn amser.

Pan fydd eich hyfforddwr yn aseinio gradd, cewch eich hysbysu yn eich ffrwd gweithgarwch.

Ar eich tudalen Graddau Cwrs, ymddengys eich gradd gyda Cyflwynwyd all-lein. Os defnyddiodd eich hyfforddwr gyfarwyddyd i raddio, bydd y bilsen radd yn dangos eicon cyfarwyddyd.