Cychwyn arni gyda SafeAssign

Gall hyfforddwyr ddefnyddio gwasanaeth SafeAssign i wirio aseiniadau a gyflwynwyd am eu gwreiddioldeb. Mae SafeAssign yn cymharu eich aseiniadau a gyflwynwyd yn erbyn cyfres o bapurau academaidd i nodi’r meysydd sy’n gorgyffwrdd rhwng yr aseiniadau a gyflwynwyd a gweithiau presennol.

Proses SafeAssign

Mae SafeAssign yn seiliedig ar algorithm paru testun unigryw sy’n gallu nodi cydweddu union ac anunion rhwng papur a deunydd ffynhonnell.

Cymharir aseiniadau yn erbyn sawl cronfa ddata gwahanol yn cynnwys miliynau o erthyglau yn dyddio o’r 1990au hyd heddiw. Wedi’r gymhariaeth, crëir adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth fanwl am y cyfatebiadau a ganfuwyd.

Mae’ch hyfforddwr yn defnyddio SafeAssign os gwelwch ddatganiad SafeAssign a rhestr o fathau o ffeiliau a gefnogir ar y dudalen gyflwyno.

Mwy ar sut i gyflwyno gwaith gyda SafeAssign


Diogelu'ch gwaith

Gallwch ddiogelu’ch gwaith eich hun trwy gyflwyno copïau o’ch papurau i’r Global Reference Database. Mae papurau o sefydliadau eraill yn cael eu gwirio yn erbyn eich papur. Mae hyn yn diogelu gwreiddioldeb eich gwaith ar draws sefydliadau. Mae’r Global Reference Database yn gronfa ddata ar wahân i gronfa ddata eich sefydliad. Pan fyddwch yn cyflwyno’ch papurau’n wirfoddol i’r gronfa ddata, rydych yn cytuno i beidio dileu papurau yn y dyfodol. Rydych yn rhydd i ddewis yr opsiwn i wirio eich papurau heb eu cyflwyno i’r Global Reference Database. Nid yw Blackboard yn hawlio perchnogaeth ar bapurau a gyflwynwyd.


Adroddiadau gwreiddioldeb SafeAssign

Ar ôl i ymgais gael ei brosesu, caiff adroddiad ei gynhyrchu yn rhoi manylion am ganran y testun yn y cyflwyniad sy'n cyfateb â ffynonellau sy'n bodoli eisoes. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos y ffynonellau a amheuir ar gyfer pob adran sy’n dychwelyd canlyniad cyfatebol. Pan fydd y papur yn barhad o waith a gyflwynwyd yn flaenorol, gall eich hyfforddwr ddileu ffynonellau sy’n cyfateb o’r adroddiad a’i brosesu eto.

Nid yw'r Adroddiad Gwreiddioldeb yn nodi a yw ymadrodd sy'n cyd-fynd â ffynhonnell wedi cael ei gyfeirnodi'n gywir. Rhaid i’ch hyfforddwr ddarllen yr adroddiad ac yn pennu a ddefnyddioch ddyfyniadau cywir.

Eich hyfforddwr sy’n penderfynu a allwch weld yr adroddiad.

Dysgu rhagor am yr Adroddiad Gwreiddioldeb