Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Gallwch gael mynediad at y Dangosfwrdd Nodau Perfformiad i gael gwell dealltwriaeth o'ch perfformiad mewn cwrs. Mae'r dangosfwrdd yn dangos nodau'r cwrs a'r asesiadau sy'n mapio iddynt. Gall myfyriwr weld yn uniongyrchol sut mae'u graddau unigol yn cyfrannu at gyflawni amcanion y cwrs.

Gallwch gael mynediad at y Dangosfwrdd Nodau Perfformiad mewn dwy ffordd.

Agorwch y dangosfwrdd o'r ddewislen My Blackboard

Ewch i ddewislen Fy Blackboard ar ôl i chi fewngofnodi. Yn y ddewislen Offer, dewiswch Nodau Perfformiad.

Ar y dangosfwrdd, gallwch weld rhagor o wybodaeth am eich nodau a chyraeddiadau. Dewiswch nod i weld y gwahanol elfennau ohono. Penderfynwch os oes gennych le i wella a lle rydych yn gwneud yn dda.


Agorwch y dangosfwrdd mewn cwrs

Am ddadansoddiad mwy manwl o'ch nodau, agorwch y Dangosfwrdd Nodau Perfformiad o fewn cwrs penodol.

Yn newislen y cwrs, dewiswch Offer > Nodau Perfformiad. Mae'r wedd hon o'r dangosfwrdd yn dangos nodau cwrs a'r aseiniadau a mathau eraill o waith cwrs sy'n alinio â phob nod. Pan mae'ch hyfforddwyr yn creu aseiniadau, gallant ddewis cwestiynau sy'n dangos cyrhaeddiad tuag at nod. Yn seiliedig ar eich perfformiad ar yr aseiniadau hyn, mae Blackboard Learn yn cyfrifo'ch cynnydd tuag at eich nod ac yn ei ddangos yn y dangosfwrdd.

Mae'r dangosfwrdd yn dangos sawl cwestiwn mewn asesiad sy'n mapio i nod penodol, a sut mae'ch perfformiad ar y cwestiynau hynny o'i gymharu â'r nod cyffredinol. Gallwch weld y raddfa ar gyfer pob nod. Pwyntiwch at y bar cynnydd neu dewiswch Gweld y Raddfa ar frig y dangosfwrdd.