Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Ynglŷn â chyraeddiadau

Gall hyfforddwyr greu cyfleoedd i chi ennill cydnabyddiaeth ar gyfer eich cyraeddiadau. Gelwir y cyfleoedd hyn yn gyflawniadau. Pan fyddwch yn eu cwblhau, rydych yn ennill gwobr ar ffurf bathodyn a thystysgrif.

Gallwch weld pa wobrau rydych wedi'u hennill a beth sydd angen ei gwneud er mwyn derbyn mwy o wobrau. Cewch flas ar y dilyniant dysgu tuag at alluoedd a ddiffinnir. Efallai byddwch yn gallu cyhoeddi bathodynnau ar Badge Backpack a mynd â thystiolaeth o'ch dysgu â chi y tu allan i Blackboard Learn.

Mwy ar fathodynnau

Hyfforddwyr sy'n dewis sut rydych yn cael mynediad at y cyraeddiadau hyn:

  • Tudalen Offer Cwrs
  • Dolen offer ar ddewislen y cwrs
  • Dolen mewn ardal gynnwys

Tudalen Fy Nghyraeddiadau

Ar dudalen Fy Nghyraeddiadau, gallwch weld y cyraeddiadau a enillwyd gennych ac unrhyw gyraeddiadau heb eu hennill sy'n weladwy. Ar dop y dudalen, gallwch hidlo'r rhestr o gyraeddiadau.

Os ydych wedi ennill cyraeddiadau newydd ers y tro diwethaf i chi ymweld â thudalen Fy Nghyraeddiadau, bydd hysbysiad yn ymddangos ar dop y dudalen. Pan fyddwch yn derbyn gwobrau cyrhaeddiad, byddwch yn cael hysbysiad ar unwaith ar dop y dudalen rydych yn ei darllen ar y pryd. Mae myfyrwyr hefyd yn gallu gweld hysbysiadau yn yr ardaloedd hyn:

  • Ar y tudalennau Hysbysiadau
  • Gydag eitem y cyrhaeddiad yn y cwrs

Mae tudalen Gweld y Gofynion cyrhaeddiad yn dangos y meini prawf sydd angen eu bodloni er mwyn ennill y wobr a'ch cynnydd cyfredol tuag at ei gyflawni. O fewn cyrhaeddiad, gallwch weld rhagor o wybodaeth, megis manylion y wobr.

Gallwch weld ac argraffu'r tystysgrifau a ddyfernir i chi gan eich hyfforddwr. Gyda'r bathodynnau yr enillwch, gallwch weld a chyhoeddi'r bathodynnau yn eich Badge Backpacks, os yw'ch hyfforddwr a'ch sefydliad yn caniatáu i chi wneud hynny. I gyhoeddi bathodynnau, mae rhaid i gyfeiriad e-bost y myfyriwr a ddefnyddir ar gyfer eich Badge Backpack gyd-fynd â'r un a ddefnyddir ar gyfer Blackboard Learn. 

Os yw hyfforddwr yn dewis dileu cyrhaeddiad yr ydych wedi ennill gwobr ar ei gyfer, bydd y wobr gysylltiedig hefyd yn cael ei dileu.