Beth yw'r gwahaniaeth rhwng prawf ac arolwg?
Mae hyfforddwyr yn defnyddio profion i asesu eich gwybodaeth am gynnwys ac amcanion cwrs. Mae'ch hyfforddwr yn pennu gwerthoedd pwyntiau i gwestiynau mewn prawf. Rydych yn cyflwyno'ch prawf i gael ei raddio a chaiff y canlyniadau eu cofnodi. Gallwch weld eich graddau pan fydd eich hyfforddwr yn trefnu eu bod ar gael i chi.
Gall hyfforddwyr ddefnyddio arolygon at ddibenion pleidleisio a gwerthuso. Nid yw arolygon yn cael eu graddio, ond maen nhw'n ymddangos fel cyflawn neu anghyflawn. Mae eich ymatebion i gwestiynau arolwg yn ddienw.
Ble ydw i'n cael mynediad at brofion ac arolygon?
Gallwch ddod o hyd i brofion ac arolygon mewn unrhyw ardal gynnwys, modiwl dysgu, cynllun gwers neu ffolder.
Awgrymiadau ar wneud profion
Dechreuwch eich prawf cyn gynted ag y medrwch. Os yw'ch hyfforddwr yn trefnu bod prawf ar gael am dri diwrnod, dylech fwriadu cymryd y prawf ar y diwrnod cyntaf. Os oes gennych broblem, bydd gennych amser i gysylltu â chymorth technegol a'ch hyfforddwr.
Darllenwch yr holl gyfarwyddiadau. Os cewch unrhyw drafferth gyda'ch prawf neu'n deall cwestiynau'r prawf, cysylltwch â'ch hyfforddwr ar unwaith.
Gwiriwch eich cysylltiad â'r we.
- Mae cysylltiad wedi'i wifro fel arfer yn fwy dibynnol na chysylltiad di-wifr.
- Gwiriwch gyda'ch hyfforddwr a sefydliad cyn i chi gymryd prawf gyda chysylltiad data ffôn symudol. Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn eich cynghori i osgoi defnyddio cysylltiad data ffôn symudol. Eithriadau: Os yw'r sefydliad yn safle Blackboard a alluogwyd yn symudol gydag ap Blackboard ar gael a bod eich hyfforddwr wedi creu prawf sy'n gydnaws â ffonau symudol.
Peidiwch ag adnewyddu'r dudalen, cau'r ffenestr, neu ddefnyddio botwm yn ôl y porwr tra byddwch yn cymryd prawf. Os cewch unrhyw drafferth yn ystod prawf, cysylltwch â'ch hyfforddwr ar unwaith.
Cymryd prawf neu arolwg
Llywiwch i'r prawf neu arolwg a dewiswch y teitl. Ar y dudalen nesaf, dewiswch Dechrau. Efallai bydd eich hyfforddwr angen i chi deipio cyfrinair i ddechrau. Os oes angen, teipiwch y cyfrinair a dewiswch Cyflwyno. Bydd y system yn parhau i ofyn am gyfrinair dilys nes i chi roi'r un cywir.
Peidiwch â defnyddio botwm yn ôl y porwr yn ystod prawf neu arolwg oherwydd gallai hyn arwain at golli data. Os cewch unrhyw drafferth yn ystod prawf, cysylltwch â'ch hyfforddwr ar unwaith.
Tudalen Cymryd Prawf neu Arolwg
Gweld y manylion. Ar dop pob prawf neu arolwg, gallwch weld gwybodaeth am ymgeisiau lluosog, yr amserydd, llywio ac unrhyw ddisgrifiad a chyfarwyddiadau dewisol. Byddwch hefyd yn cael eich hysbysu os oes rhaid i chi gwblhau'r prawf neu arolwg ar ôl i chi ei agor. Dewiswch y saethau nesaf at yr adran wybodaeth i'w gwympo neu ehangu.
Mwy ar gwblhau dan orfod a dim mynd yn ôl
Os yw'ch prawf neu arolwg wedi'i amseru, cewch eich hysbysu am ddewis yr hyfforddwr. Mae'r bar statws amser yn rhoi gwybod i chi faint o amser sy'n weddill.
- Awto-gyflwyno: Mae'r prawf neu arolwg yn cadw ac yn cyflwyno'n awtomatig pan ddaw'r amser i ben. Bydd y dudalen Cyflwynwyd yn ymddangos.
-NEU-
- Parhau y tu hwnt i'r terfyn amser: Ni fyddwch yn derbyn cosb awtomatig os byddwch yn parhau y tu hwnt i'r terfyn amser. Fodd bynnag, eich hyfforddwr fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ar eich sgôr. Siaradwch â'ch hyfforddwr os oes gennych gwestiynau am y gosodiad hwn. Caiff cyfanswm yr amser a dreuliwch chi ar brawf neu arolwg ei gofnodi ac mae ar gael i'ch hyfforddwr pan fyddwch yn cyflwyno.
Os byddwch yn cadw ac yn gadael, mae'r amserydd yn parhau i redeg. Er enghraifft, rydych yn dechrau ar ddydd Mawrth, yn cadw ac yn gadael, ac yn cwblhau'r prawf ar ddydd Iau. Bydd yr amserydd yn dangos y cymeroch chi 48 awr i gwblhau.
Gweld cwestiynau a gwblhawyd. Mae adran Statws Cwblhad Cwestiynau yn dangos eicon gadw ar gyfer pob cwestiwn rydych wedi eu hateb. Gallwch ddewis rhif cwestiwn i neidio i'r cwestiwn hwnnw. Dewiswch y saethau nesaf at adran statws i'w gwympo neu ehangu.
Clirio eich atebion Dewis Lluosog. Os ydych yn ansicr o'ch dewis mewn cwestiwn amlddewis, gallwch ddwbl-glicio i glirio'ch dewis o ateb.
Caiff eich atebion eu cadw'n awtomatig. Gallwch hefyd ddewis Cadw Ateb nesaf at bob cwestiwn neu Cadw Pob Ateb wrth i chi weithio. Pan fyddwch yn cadw ateb, bydd Cadwyd yn ymddangos yn rhes y cwestiwn.
Barod i gyflwyno? Pan rydych wedi gorffen, dewiswch Cadw a Chyflwyno. Efallai byddwch yn gweld eich sgôr ar unwaith os yw'r holl gwestiynau'n cael eu graddio'n awtomatig a bod eich hyfforddwr yn rhyddhau'r wybodaeth hon. Fodd bynnag, rhaid i'ch hyfforddwr raddio rhai mathau o gwestiynau yn bersonol, traethodau er enghraifft.
Mwy ynghylch graddau ac adborth
Gweld cwestiwn prawf gyda chyfeireb
Os yw'ch hyfforddwr wedi cysylltu cyfarwyddyd gyda Thraethawd, Ymateb Ffeil, neu gwestiwn Ateb Byr, dewiswch Gweld y Cyfarwyddyd. Gallwch weld y meini prawf graddio cyn i chi ateb y cwestiwn.
Bar statws yr amserydd
Pan fyddwch yn cymryd prawf neu arolwg a amserir, mae'r amser sy'n weddill yn ymddangos ar far statws. Defnyddiwch y saethau nesaf at yr amserydd i'w ehangu neu gwympo.
Bydd rhybuddion yn ymddangos am yr amserydd pan fydd hanner yr amser, 5 munud, 1 funud a 30 eiliad yn weddill. Pan fydd yr amser sy'n weddill yn ymddangos fel 1 munud, 30 eiliad, mae'r bar statws yn troi'n felyn. Ar 1 munud, bydd y rhybudd yn goch, ac ar 30 eiliad, bydd y bar statws yn ogystal â'r rhybudd yn goch. Os byddwch yn cwympo'r amserydd, ni fyddwch yn gweld y lliw yn newid.
Opsiynau cyflwyno
Yn yr adran wybodaeth ar y prawf neu arolwg, fe gewch eich hysbysu am yr opsiynau cyflwyno a ddewisodd eich hyfforddwr.
Os yw gorfodi cwblhad wedi'i alluogi, bydd rhaid i chi gwblhau'r prawf neu arolwg y tro cyntaf i chi ei agor. Ni allwch adael y prawf neu arolwg a dychwelyd nes ymlaen. Mae opsiwn Cadw ar gael er mwyn i chi gadw'ch atebion, ond ni allwch chi adael ac ail-ddychwelyd.
Os yw mynd yn ôl wedi'i wahardd, ni allwch fynd yn ôl i gwestiynau rydych eisoes wedi'u hateb. Bydd gwall yn ymddangos pan fyddwch yn ceisio defnyddio opsiwn Yn ôl o fewn y prawf neu arolwg.
Gall eich hyfforddwr ddewis cyflwyno'r holl gwestiynau gyda'i gilydd neu un ar y tro.
Gyda'r opsiwn cyntaf, caiff yr holl gwestiynau eu dangos ar yr un pryd. Mae'r opsiynau hyn ar gael:
- Storio atebion. Dewiswch Cadw'r Holl Atebion. Mae adran Statws Cwblhad Cwestiynau yn dangos eicon gadw ar gyfer pob cwestiwn rydych wedi eu hateb. Gallwch newid atebion ar ôl i chi eu cadw.
- Gorffen y prawf neu arolwg. Dewiswch Cadw a Chyflwyno. Byddwch yn derbyn cadarnhad a thudalen derbyn yn nodi bod y prawf neu arolwg wedi'i gwblhau.
Mae prawf un ar y tro yn cyflwyno cwestiynau ar wahân. Un cwestiwn yn unig sy'n ymddangos ar y sgrîn ar y tro. Chi sy'n penderfynu pryd rydych yn barod i symud ymlaen i'r cwestiwn nesaf. Mae'r opsiynau hyn ar gael:
- Llywio drwy'r cwestiynau. Defnyddiwch y saethau llywio (<<, <, >, neu >>). Mae'r adran Statws Cwblhau'r Cwestiwn yn dangos y lleoliad presennol yn y prawf a chyfanswm nifer y cwestiynau. Pan mae mynd yn ôl wedi'i wahardd, nid yw'r saethau'n ymddangos.
- Cadw atebion. Dewiswch Cadw'r Holl Atebion. Cedwir cwestiynau a ateboch hyd at y pwynt hwn.
- Gorffen y prawf neu arolwg. Dewiswch Cadw a Chyflwyno. Byddwch yn derbyn cadarnhad a thudalen derbyn yn nodi bod y prawf neu arolwg wedi'i gwblhau.
Ail-gymryd prawf neu arolwg
Pan fyddwch yn agor prawf neu arolwg am y tro cyntaf, byddwch yn cael gwybod os oes gennych ymgeisiau lluosog. Os gosododd eich hyfforddwr ffin ar y nifer o ymgeisiau, nodir y nifer. Gallwch hefyd weld pa ymgais rydych yn ei ddechrau.
Pan fyddwch yn dychwelyd i brawf neu arolwg i ddechrau cyflwyniad arall, gallwch weld sawl ymgais sy'n bodoli a'r nifer rydych wedi'i ddefnyddio.
Eich hyfforddwr sy'n penderfynu pa sgôr y dyfernir ar gyfer eich prawf, er enghraifft cyfartaledd pob ymgais neu'r sgôr uchaf o blith eich ymgeisiau.
Graddau ac adborth
Awto-raddir y mwyafrif o gwestiynau mewn profion. Eich hyfforddwr sy'n pennu'r atebion cywir ac yn aseinio pwyntiau i bob cwestiwn. Bydd y system yn dilysu'ch atebion ac yn aseinio'r sgôr.
Nid yw cwestiynau Traethawd, Ymateb i Ffeil, neu Ateb Byr yn cael eu graddio'n awtomatig. Rhaid i'ch hyfforddwr raddio'r mathau hyn o gwestiynau â llaw. Caiff y graddau ar gyfer y mathau hyn o gwestiynau eu rhyddhau ar ôl i'ch hyfforddwr orffen graddio a chaniatáu i hynny ddigwydd.
Gall eich hyfforddwr ddefnyddio cyfarwyddyd i raddio cwestiynau Traethawd, Ymateb i Ffeil, neu Ateb Byr a threfnu bod y cyfarwyddyd ar gael i chi. Dewiswch Gweld y Cyfarwyddyd pan fyddwch yn adolygu'r prawf a raddiwyd i weld y meini prawf ar gyfer y cwestiwn.
Efallai byddwch yn gweld eich sgôr ar unwaith pan fyddwch yn cwblhau'r prawf os caiff yr holl gwestiynau eu graddio'n awtomatig a bod eich hyfforddwr yn rhyddhau'r wybodaeth hon. Efallai bydd eich hyfforddwr yn dewis dyddiad yn y dyfodol i ryddhau sgorau profion tra bod eich cyd-fyfyrwyr yn gwneud y prawf.
Ar ôl i chi gwblhau prawf, bydd y canlyniadau perfformiad a dderbyniwch yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd gan eich hyfforddwr. Er enghraifft, gall eich hyfforddwr ddangos y sgôr derfynol ar gyfer un prawf yn unig, tra ar gyfer prawf arall arddangosir y sgôr derfynol a'r atebion cywir. Mae adborth yn cynnwys un neu ragor o'r eitemau hyn:
- Sgôr derfynol ar gyfer y prawf
- Atebion a gyflwynwyd
- Atebion cywir
- Adborth ar gyfer y cwestiynau
I gael mynediad at adborth a gwybodaeth graddio, dewiswch y prawf yn yr ardal gynnwys neu Fy Ngraddau. Ar y dudalen Gweld Ymgeisiau, dewiswch ddolen y radd yn y golofn Gradd a Gyfrifwyd i gael mynediad at eich prawf ac unrhyw adborth gan yr hyfforddwr.