Cyffredin Myfyrwyr am Aseiniadau yn Learn

Pam na allaf agor fy aseiniad?

Am gymorth gyda materion fel hyn, dylech gysylltu â'ch hyfforddwr neu ddesg gymorth eich ysgol. Os nad ydych chi'n siŵr sut i gysylltu â'r desg gymorth, edrychwch am y swyddfa dechnoleg ar wefan eich sefydliad. Gallwch hefyd chwilio ar y we am enw eich sefydliad + Blackboard + help neu cymorth. Hefyd, sicrhewch eich bod yn defnyddio porwr gwe a system weithredu a'u cefnogir ar gyfer y fersiwn o Blackboard a ddefnyddir gan eich ysgol.


Pam na allaf ddod o hyd i'm haseiniad?

Mae eich hyfforddwr yn rheoli'r dyddiad pan fydd aseiniadau'n dod ar gael. Efallai y bydd yn rhaid i chi fodloni meini prawf eraill hefyd er mwyn cael mynediad at yr aseiniad. Er enghraifft, efallai bydd angen i chi nodi darlith fel un a adolygwyd yn gyntaf. Cysylltwch â'ch hyfforddwr i gael mwy o wybodaeth.


Sut ydw i'n gwirio bod fy aseiniad wedi cael ei gyflwyno?

Pan rydych yn cyflwyno aseiniad yn llwyddiannus, mae'r dudalen Adolygu Hanes Cyflwyniadau yn ymddangos gyda manylion am yr aseiniad a gyflwynwyd gennych ynghyd â neges llwyddiant a rhif cadarnhau. Gallwch gopïo a chadw'r rhif hwn fel tystiolaeth o'ch cyflwyniad. Ar gyfer aseiniadau gydag ymgeisiau lluosog, byddwch yn derbyn rhif gwahanol ar gyfer pob cyflwyniad. Os yw'ch sefydliad wedi galluogi hysbysiadau e-bost ar gyfer derbyniadau cyflwyno, byddwch hefyd yn derbyn e-bost gyda'ch rhif cadarnhau a'r manylion bob tro i chi gyflwyno gwaith cwrs.

Gallwch gael mynediad at eich derbyniadau cyflwyno ar dab Cyflwynwyd ar dudalen Fy Ngraddau. Dewiswch y rhif nesaf at Derbyniadau Cyflwyno ar waelod y rhestr i weld eich hanes cyflwyno.

Ni fyddwch yn gallu gweld rhifau cadarnhau neu dderbyn derbynebau cyflwyno drwy e-bost os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard Learn.


Nid yw fy hyfforddwr wedi derbyn fy aseiniad. Beth rwy'n ei wneud?

Rhaid i chi drafod y mater hwn gyda'ch hyfforddwr.


Sut rwy'n golygu neu ailgyflwyno aseiniad?

Ni allwch olygu aseiniad a gyflwynwyd, ond efallai byddwch yn gallu ei ail-gyflwyno. Fodd bynnag, ni allwch ail-gyflwyno pob aseiniad. Gwiriwch os oes modd cyflwyno aseiniad mwy nag unwaith. Os nad oes modd i chi wneud hynny a'ch bod wedi gwneud camgymeriad, rhaid i chi gysylltu â'ch hyfforddwr i ofyn am gyfle i ail-gyflwyno'r aseiniad.

Yn y Wedd Cwrs Wreiddiol, os yw'ch hyfforddwr yn eich caniatáu i gyflwyno aseiniad mwy nag unwaith, mae swyddogaeth Cychwyn o'r Newydd yn ymddangos ar dudalen Adolygu Hanes Cyflwyniadau. Dewiswch ddolen yr aseiniad yn eich cwrs er mwyn cael mynediad at dudalen Adolygu Hanes Cyflwyniadau.


Sut ydw i'n gwybod os yw fy aseiniad wedi cael ei raddio?

Nid yw aseiniadau'n cael eu graddio'n awtomatig. Rhaid i'ch hyfforddwr raddio pob aseiniad a chyhoeddi'r radd a'r adborth.

Mae’r dudalen Fy Ngraddau yn dangos pob un o’ch graddau. Mae Fy Ngraddau yn aml wedi'i leoli yn newislen y cwrs. Mae dewislen y cwrs yn ymddangos ar ochr chwith ffenestr y cwrs. Os nad yw Fy Ngraddau ar ddewislen y cwrs, dewiswch Offer a dewis Fy Ngraddau. Os ydych chi wedi cyflwyno'ch aseiniad, ond ei bod heb gael ei raddio, fe welwch ebychnod nesaf at deitl yr aseiniad.

Os cyflwynwyd a graddiwyd eich aseiniad, mae'r radd yn ymddangos yn rhes yr aseiniad. I weld mwy o fanylion, dewiswch deitl yr aseiniad i gael mynediad at y dudalen Adolygu Hanes Cyflwyniadau.

Mwy ar Fy Ngraddau


A yw aseiniad grŵp yr un peth ag aseiniad rheolaidd?

Ddim yn union. Gall eich hyfforddwr greu aseiniadau i chi eu cyflwyno'n unigol neu fel rhan o ymdrech grŵp. Gallwch wneud yr un pethau i gyd gydag aseiniad grŵp fel gydag aseiniad rheolaidd. Mae un aelod yn cyflwyno’r aseiniad grŵp ar ran y grŵp cyfan. Mae'r radd a dderbyniwch yr un peth ag ar gyfer holl aelodau'r grŵp.

Mwy ar gael mynediad at aseiniadau grŵp a'u cyflwyno