Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Mae derbynebau cyflwyniadau yn ddefnyddiol os oes angen i chi brofi eich bod wedi cyflwyno eich gwaith, a dyna pam ei bod yn bwysig eu cadw bob amser. 

Bob tro byddwch yn cyflwyno aseiniad neu brawf, bydd ffenestr yn ymddangos gyda rhif cadarnhau cyflwyniad. Gan ddefnyddio'r rhif cadarnhau, gall eich hyfforddwr ddod o hyd i'r cyflwyniad i'w wirio.

The submission receipt modal displays the confirmation number, which students must save.

Mae'r dderbynneb yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: 

  • Enw'r cwrs a rhif adnabod y cwrs.
  • Enw'r asesiad. 
  • Gradd yr asesiad. 
  • Nifer yr ymgeisiau ar gyfer asesiad. 
  • Y myfyriwr a gyflwynodd yr asesiad. 
  • Maint unrhyw ffeil sydd wedi'i chynnwys gyda'r cyflwyniad, sy'n rhoi syniad i hyfforddwyr o beth gwnaethoch ei atodi. 
  • Stamp amser a dyddiad y cyflwyniad. 
  • Dangosydd cyflwyno'n awtomatig - Bydd yn ymddangos pan fydd yr asesiad yn cael ei gyflwyno'n awtomatig gan Learn fel rhan o asesiad a amserir neu osodiad Atal Cyflwyniad Hwyr yr asesiad.

Gallwch lawrlwytho ffeil .txt gyda gwybodaeth y dderbynneb yn uniongyrchol o'r ffenestr. Byddwch hefyd yn cael copi o dderbynneb y cyflwyniad mewn cadarnhad awtomatig drwy e-bost.