Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Gall cwestiynau gael eu hysgrifennu all-lein mewn ffeil tesun arbennig a’i llwytho i fyny i brofion, arolygon a chronfeydd cwestiwn.

Ar ôl ichi uwchlwytho ffeil, mae modd ichi olygu’r cwestiynau a’u defnyddio nhw yn union fel y cwestiynau rydych chi wedi’u creu o fewn eich cwrs.


Cyn ichi ddechrau arni

  • Rhaid i’r cwestiynau a’r ffeiliau rydych chi am eu huwchlwytho fodloni’r canllawiau sydd wedi’u nodi ar gyfer y pwnc hwn.
  • Bydd cwestiynau sy'n cynnwys gwall yn methu uwchlwytho. Bydd cwestiynau heb wallau yn llwytho i fyny'n llwyddiannus.
  • Dydy’r system ddim yn gwirio am gwestiynau dyblyg.
  • Mae’r cwestiynau a gaiff eu huwchlwytho yn derbyn y gwerth pwyntiau sydd wedi’i bennu ar eu cyfer yn awtomatig ar ôl cael eu huwchlwytho. Os wnaethoch chi ddim pennu gwerth ar gyfer y cwestiynau, caiff sero ei bennu yn werth pwyntiau awtomatig. Bydd angen i chi ychwanegu gwerth pwyntiau ar gyfer pob cwestiwn.

Llunio ffeil cwestiwn er mwyn ei uwchlwytho

Canllawiau fformat y ffeil

Rhaid i bob ffeil sy’n cynnwys cwestiynau i’w huwchlwytho gydymffurfio â’r canllawiau hyn:

  • Rhaid i bob ffeil fod yn ffeil TXT wedi'i gwahanu gyda thabiau. Mae modd ichi olygu’r ffeil hwn gyda Microsoft® Excel® neu gyda golygydd testun.
  • Mae Blackboard yn argymell na ddylai pob ffeil swp fod yn hwy na 500 o gofnodion, a hynny oherwydd cyfyngiadau ar faint o amser y mae’r rhan fwyaf o borwyr yn ei ganiatáu wrth uwchlwytho ffeiliau.
  • Peidiwch â chynnwys pennawd yn y ffeil.
  • Peidiwch â chynnwys llinellau gwag rhwng cofnodion. Bydd y llinell wag yn cael ei phrosesu ac yn dychwelyd gwall.
  • Cynhwyswch un cwestiwn yn unig y rhes.
  • Mae’r maes cyntaf ym mhob rhes yn diffinio math y cwestiwn.
  • Dylech chi sicrhau bod pob maes mewn rhes yn ymddangos ar wahân gan ddefnyddio TAB.
  • Mae rhaid i correct, incorrect, true, false a geiriau eraill sy'n nodi atebion fod yn Saesneg.

Canllawiau ar fformat y cwestiynau

Fel bod modd ei uwchlwytho’n llwyddiannus, rhaid i’r cwestiwn yn y ffeil testun gyfateb â’r canllawiau yn y tabl hwn.

Wrth uwchlwytho cwestiwn i arolwg, mae'r dynodiad ateb correct|incorrect yn cael ei anwybyddu, ond mae rhaid i’r ffeil ddilyn yr un fformat a ddisgrifiwyd ar gyfer profion a chronfeydd.

Bydd cwestiynau sy'n cynnwys gwall yn methu uwchlwytho. Bydd cwestiynau heb wallau yn llwytho i fyny'n llwyddiannus.

Canllawiau ar fformat y cwestiynau
Math o Gwestiwn Strwythur
Amlddewis MC TAB question text TAB answer text TAB correct|incorrect TAB answer two text TAB correct|incorrect

Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Amlddewis. Yr uchafswm o atebion yw 100.
Ateb Lluosog MA TAB question text TAB answer text TAB correct|incorrect TAB answer two text TAB correct|incorrect

Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Amlateb. Yr uchafswm o atebion yw 100.
Gwir/Gau TF TAB question text TAB true|false
Traethawd ESS TAB question text TAB [example]

Mae testun mewn [ ] yn ddewisol. Mae modd ichi ddewis cynnwys sampl neu adael y maes hwn yn wag.
Trefnu ORD TAB question text TAB answer text TAB answer two text

Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Trefnu. Yr uchafswm o atebion yw 100. Y drefn sydd wedi’i nodi yn y ffeil yw’r drefn gywir. Bydd y system yn trefnu'r atebion ar hap.
Cyfatebol MAT TAB question text TAB answer text TAB matching text TAB answer two text TAB matching two text

Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Cyfatebu. Yr uchafswm o atebion yw 100. Bydd y system yn trefnu'r atebion a'u cwestiwn ar hap. Wrth uwchlwytho cwestiwn cyfatebol, rhaid i chi sicrhau bod cysylltiad un-i-un rhwng y cwestiynau a’r atebion. Os nad oes, gall atebion cywir gael eu marcio'n anghywir os yw'n gwerth gan fwy nag un ateb.
Llenwch y Bylchau FIB TAB question text TAB answer text TAB answer two text

Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Llenwi'r Bwlch. Yr uchafswm o atebion yw 100.
Llenwi Cwestiwn Llenwi Bylchau FIB_PLUS TAB question text TAB variable1 TAB answer1 TAB answer2 TAB TAB variable2 TAB answer3

Mae’r fformat yn cynnwys rhestr o atebion newidiol lle mae pob ateb newidiol yn cynnwys enw’r newidyn a rhestr o atebion cywir ar gyfer y newidyn hwnnw. Caiff atebion newidiol eu cyfyngu gan faes gwag.

Uchafswm nifer y newidynnau yw 10.
Ymateb Ffeil FIL TAB question text
Ymateb Rhifol NUM TAB question text TAB answer TAB [optional]tolerance
Ateb Byr SR TAB question text TAB sample answer
Graddfa Barn/Tebygolrwydd OP TAB question text

Yr uchafswm o atebion yw 100.
Brawddeg Anghyflawn JUMBLED_SENTENCE TAB question text TAB choice1 TAB variable1 TAB choice2 TAB TAB choice3 TAB variable2

Mae'r fformat yn cynnwys rhestr o ddewisiadau ateb. Mae pob ateb dewisol yn cynnwys dewis, wedi’i ddilyn gan restr o newidynnau lle mae’r dewis hwnnw yn ateb cywir. Mae maes gwag yn dynodi diwedd y dewis o atebion. Mae dewis sydd â maes gwag yn syth ar ei ôl yn nodi bod y dewis ddim yn ateb cywir ar gyfer unrhyw newidyn.

Yr uchafswm o atebion yw 100.
Bowlen Gwis QUIZ_BOWL TAB question text TAB question_word1 TAB question_word2 TAB phrase1 TAB phrase2

Mae’r fformat yn cynnwys rhestr o eiriau cwestiwn dilys wedi’u dilyn gan faes gwag a rhestr o ymadroddion ateb dilys.

Uchafswm nifer y geiriau gofynnol yw 103.

Uchafswm nifer yr ymadroddion ateb yw 100.

Ffeil cwestiynau enghreifftiol


Uwchlwytho ffeil cwestiynau

  1. O’r prawf, arolwg neu gasgliad, dewiswch Uwchlwytho Cwestiynau.
  2. Dewiswch Pori er mwyn dod o hyd i’r ffeil.
  3. Mae modd ichi ddewis nodi rhif yn y blwch Pwyntiau fesul cwestiwn er mwyn gosod gwerth diofyn ar gyfer pob cwestiwn. Os byddwch chi’n gadael y maes hwn yn wag, yna sero fydd gwerth pob cwestiwn. Bydd modd ichi olygu’r gwerthoedd ar gyfer pob cwestiwn unigol nes ymlaen.
  4. Dewiswch Cyflwyno ac Iawn Mae’r cwestiynau yn ymddangos yn y prawf, yr arolwg neu’r casgliad. Gallwch olygu’r cwestiynau a newid eu trefn.