Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Gallwch bennu bod detholiad o gwestiynau ar hap yn cael ei gyflwyno bob tro mae myfyriwr yn cymryd asesiad.
Pan fyddwch yn creu asesiad, gallwch ddefnyddio cronfeydd cwestiynau er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn derbyn fersiwn gwahanol o'r asesiad.
Terminoleg asesiadau'r Wedd Cwrs Ultra a’r Wedd Cwrs Gwreiddiol
Mae’r tabl hwn yn rhestru enwau nodweddion cwestiynau asesiadau yn y ddwy wedd cwrs.
Gwedd Cwrs Ultra | Gwedd Cwrs Gwreiddiol |
---|---|
Cronfa gwestiynau | Bloc ar hap a set cwestiynau |
Banc cwestiynau | Cronfa gwestiynau |
Dadansoddi cwestiynau | Dadansoddi eitemau |
Ynghylch cronfeydd cwestiynau
Ar y dudalen Ychwanegu Cronfa Gwestiynau, gallwch bori, rhagweld, hidlo a dewis cwestiynau o asesiadau a banciau cwestiynau eraill yn y cwrs presennol. Gallwch weld y cwestiynau, ond ni allwch wneud newidiadau nes y byddwch yn ychwanegu'r gronfa gwestiynau at eich asesiad.
- Defnyddiwch allweddair i ddod o hyd i gwestiynau i’w hychwanegu.
- Chi sy'n dewis y nifer o gwestiynau o gronfa i'w dangos i myfyrwyr. Er enghraifft, gallwch ddangos 3 chwestiwn allan o 50. Caiff y cwestiynau eu dosbarthu ar hap felly bydd pob myfyriwr yn gweld gwahanol set o 3 chwestiwn.
- Gallwch ddangos pob cwestiwn mewn cronfa. Ymddengys cwestiynau mewn trefn ar hap ar gyfer pob myfyriwr.
- Ar ôl gwneud eich dewisiadau, rydych yn gosod yr un pwyntiau posib i'r holl gwestiynau yn y gronfa.
- Gallwch ddileu cwestiynau mewn cronfa. Tynnir y cwestiwn o'r gronfa, ond ni fydd yn cael ei dileu o'ch cwrs.
- I fyfyrwyr, mae cwestiynau a ddewiswyd ar hap o gronfa yn ymddangos yn union fel cwestiynau eraill. Ni fydd y myfyrwyr yn gwybod bod y cwestiynau yn dod o gronfa.
Ni allwch ychwanegu cronfeydd cwestiynau at asesiadau pan fydd y gosodiadau neu'r amgylchiadau hyn yn bodoli:
- Rydych wedi ychwanegu cyfarwyddyd at eich asesiad.
- Rydych wedi dewis casglu cyflwyniadau all-lein.
- Mae myfyrwyr wedi agor yr asesiad.
Ychwanegu cronfa gwestiynau
Mewn asesiad, dewiswch yr arwydd plws ac wedyn dewiswch Ychwanegu cronfa gwestiynau o'r ddewislen. Mewnosodir y gronfa gwestiynau yn y rhan hon o'r asesiad.
Tudalen Ychwanegu Cronfa Gwestiynau
Ar ddyfeisiau bach, mae'r panel Meini Prawf Hidlo wedi’i gau yn ddiofyn.
Ar y dudalen Ychwanegu Cronfa Gwestiynau, dewiswch Hidlo i agor y panel Meini Prawf Hidlo. Dewiswch yr asesiadau, banciau cwestiynau, a mathau o gwestiynau i'w cynnwys yn y gronfa. Wrth i chi wneud dewisiadau, bydd nifer yr eitemau a ddewiswyd yn ymddangos uwchben y panel wrth ochr Hidlo. Dewiswch yr X i gau'r panel a chynyddu'r ardal i weld cwestiynau.
Yn y panel Hidlo Meini Prawf, gallwch gyfer chwiliad sylfaenol yn ôl allweddair. Ar ôl i chi roi un allweddair, bydd maes arall yn ymddangos. Mae'n bosibl y bydd pob allweddair perthnasol yn cynyddu nifer y canlyniadau. Mae'r canlyniadau'n cynnwys ffurfiau unigol a lluosog geiriau ac amser y ferf. Ni fydd rhesymeg geiriau rhannol nac yn cynnwys yn gweithio gyda'r chwiliad sylfaenol hwn.
Gweld cwestiynau
Ar y dudalen Ychwanegu Cronfa Gwestiynau, gallwch ehangu cwestiynau i'w gweld.
Cwestiynau a ddewiswyd
Wrth i chi wneud dewisiadau yn y panel Meini Prawf Hidlo, bydd y nifer o eitemau a ddewisiwyd yn ymddangos wrth ochr Hidlo. Yn y maes hidlo gweithredol ar y dde, dewiswch y cwestiynau rydych am eu hychwanegu. Gallwch weld faint o gwestiynau rydych wedi'u dewis ar waelod y sgrîn.
Dewiswch Clirio popeth i glirio'r dewisiadau Meini Prawf Hidlo. Mae'r cwestiynau a ddewiswyd yn parhau i fod wedi'u dewis.
I dynnu'r cwestiynau a ddewiswyd, cliriwch eu blychau ticio. Neu defnyddiwch Dewis popeth a Clirio popeth i dynnu'r holl gwestiynau ar yr un pryd.
Nodiadau:
- Ni allwch olygu cwestiynau neu’r pwyntiau ar y dudalen Ychwanegu Cronfa Gwestiynau.
- Mae cwestiynau ag aliniadau nod yn ymddangos ag eiconau tlws wrth ochr y pwyntiau. Ychwanegir aliniadau nod â'r cwestiynau.
Dewiswch Ychwanegu Cwestiynau. Mae’r gronfa gwestiynau yn ymddangos yn eich asesiad. Rhowch y pwyntiau a’r nifer o gwestiynau i’w dangos i fyfyrwyr. Pennir y pwyntiau i bob cwestiwn yn y gronfa. Ni allwch bennu pwyntiau gwahanol ar gyfer cwestiynau unigol yn yr un gronfa.
Dewiswch Cadw i ychwanegu'r gronfa gwestiynau at eich asesiad.
Golygu pwyntiau
Gallwch olygu'r pwyntiau a bennir i bob cwestiwn yn y gronfa hyd yn oed ar ôl derbyn cyflwyniadau a sbarduno ailraddio.
Senario golygu pwyntiau pwysig:
Er enghraifft, rydych yn graddio cwestiwn Traethawd mewn cronfa sy’n werth 10 pwynt ac yn cyhoeddi'r graddau ar gyfer sawl myfyriwr. Rydych yn penderfynu newid y pwyntiau ar gyfer pob cwestiwn mewn cronfa i 5. Os ydych wedi pennu mwy na 5 pwynt am gwestiynau Traethawd sawl myfyriwr yn flaenorol, bydd y pwyntiau hynny yn berthnasol o hyd. Gallwch olygu pwyntiau pob myfyriwr am y cwestiwn Traethawd yn unigol.
Golygu cronfeydd cwestiynau a ddefnyddir mewn prawf
Cyn i fyfyrwyr agor asesiad, gallwch ychwanegu, tynnu, a golygu cwestiynau unigol mewn cronfa gwestiynau. Pan fyddwch yn tynnu cwestiwn mewn cronfa, ni ddilëir y cwestiwn o’r cwrs. Gallwch hefyd ddileu cronfa neu symud cronfa i leoliad newydd yn yr asesiad.
Dewiswch y botwm Llusgo i aildrefnu i symud rhes cronfa i leoliad newydd. Diweddarir rhifau’r cwestiynau’n awtomatig.
Gallwch ddefnyddio'ch bysellfwrdd i symud eitem:
- Tabiwch i fotwm Llusgo i aildrefnu eitem.
- Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
- Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
- Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.
- I weld cwestiynau yn y gronfa, dewiswch Gweld cwestiynau. Gallwch ychwanegu, tynnu, neu olygu cwestiynau. Agorwch y ddewislen a dewiswch Golygu i wneud newidiadau i’r gronfa megis pwyntiau'r cwestiynau.
- Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu cronfa gwestiynau arall.
- Dewiswch Dileu i dynnu'r gronfa o'r asesiad.
Ar y dudalen Cronfa Gwestiynau, rhestrir y nifer o gwestiynau yn y gronfa yn y maes i'r chwith ar frig y dudalen. Rhestrir asesiad ffynhonnell pob cwestiwn yn y gronfa.
Pan fyddwch yn dewis Golygu/Ailraddio, bydd hysbysiad yn ymddangos sy’n dweud faint o asesiadau eraill yr effeithir arnynt. Os ydych yn golygu cwestiwn mewn cronfa gwestiynau, bydd y golygiadau yn ymddangos ym mhobman lle defnyddir y cwestiwn. Mae'r un peth yn gywir am olygiadau rydych yn eu gwneud i gwestiynau mewn asesiad ffynhonnell. Bydd yr golygiadau hyn yn effeithio ar y cronfeydd cwestiynau lle mae’r cwestiwn yn ymddangos.
Ar ôl i fyfyrwyr agor asesiad neu gyflwyno gwaith, ni allwch ychwanegu na thynnu cwestiynau o gronfa neu ddileu cronfa o asesiad. Ni allwch hefyd symud cronfa i leoliad newydd yn yr asesiad. Gallwch olygu, ailraddio a rhoi credyd llawn am gwestiynau ar ôl derbyn cyflwyniadau. Er enghraifft, os ydych yn newid yr ateb cywir, ailraddir y cwestiwn ym mhob asesiad sy’n defnyddio'r cwestiwn.
Opsiwn rhoi credyd llawn
Gallwch roi credyd llawn i bawb ar gyfer cwestiwn nad ydych wedi ei esbonio'n glir neu nad yw'n adlewyrchu'ch darlith neu werslyfr yn iawn.
Gallwch roi credyd llawn am gwestiwn o'r ddolen Gweld cwestiynau mewn cronfa neu o dudalen cyflwyniadau myfyriwr. Os ydych yn rhoi credyd llawn am gwestiwn mewn asesiad ffynhonnell neu mewn cronfa gwestiynau, rhoddir credyd llawn am y cwestiwn hwnnw ym mhob asesiad lle mae’n ymddangos.
Ar ôl dewis Golygu/Ailraddio yn newislen cwestiwn, gallwch ddewis y blwch ticio ar gyfer Rhoi credyd llawn am gwestiwn. Ar ôl rhoi credyd llawn, gallwch glirio'r blwch ticio i ddychwelyd i'r radd awtomatig neu radd a aseiniwyd â llaw yn flaenorol.
Bydd eich diweddariad yn effeithio ar ymgeisiau sydd eisoes yn bodoli, ymgeisiau cyfredol a chyflwyniadau dilynol. Diweddarir graddau myfyrwyr, ond efallai ni fydd graddau newydd neu wrthdroad yn ymddangos yn syth.
Pan fyddwch yn rhoi credyd llawn, ni allwch newid sgoriau myfyrwyr am gwestiwn unigol. Gallwch wrthwneud sgôr asesiad pob myfyriwr i addasu'r pwyntiau.
Rhagor am olygu asesiadau a chwestiynau
Gwedd myfyrwyr o gredyd llawn
Ar ôl gorffen graddio ac ar ôl ichi ddangos yr atebion cywir i fyfyrwyr, gallant hefyd weld am ba gwestiynau rydych wedi rhoi credyd llawn. Ymddengys Rhoddwyd credyd llawn wrth ochr y bilsen radd a chaiff ei nodi yn yr adran atebion hefyd.
Asesiadau, ffolderi a banciau cwestiynau sydd eisoes yn bodoli
Ni allwch ddileu'r asesiadau ffynhonnell ar gyfer cronfeydd cwestiynau o'r adrannau hyn:
- Tudalen Cynnwys y Cwrs
- Gweddau'r Llyfr Graddau
Ni allwch ddileu'r eitemau hyn hefyd:
- Ffolderi sy’n cynnwys asesiadau ffynhonnell ar gyfer cronfeydd cwestiynau
- Banciau cwestiynau a ddefnyddir mewn cronfeydd cwestiynau
Beth sy'n digwydd i setiau o gwestiynau'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn y Wedd Cwrs Ultra?
Mae setiau o gwestiynau a blociau ar hap eich cwrs Gwreiddiol yn ymddangos fel cronfeydd cwestiynau ar ôl trosi'r cwrs. Mae mathau o gwestiwn heb gymorth yn cael eu tynnu. Os oes gan set o gwestiynau neu floc ar hap Gwreiddiol fathau o gwestiynau nas cefnogir yn unig, tynnir y set neu floc wrth drosi.
Gallwch ond gyrchu ffeiliau yn eich cronfeydd cwestiynau Ultra yn yr asesiad lle maent yn ymddangos.
Pan fyddwch yn trosi cwrs Gwreiddiol yn gwrs Ultra, mae dau le degol yn cario drosodd.
ULTRA: Gwylio fideo am gronfeydd cwestiynau
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Defnyddio cronfeydd cwestiynau yn esbonio sut i ychwanegu cronfa gwestiynau at asesiad yn y wedd cwrs Ultra.