Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.
Defnyddio sgemâu graddio
Yn eich cyrsiau, mae graddau yn cael eu dangos yn y llyfr graddau, yn ogystal ag ar y dudalen cyflwyniadau ar gyfer eich asesiadau. Gallwch ddewis dangos y graddau mewn ffyrdd gwahanol â sgemâu graddio. Mae sgema'n cymryd y pwyntiau a sgoriwyd ar gyfer eitem ac yn eu cymharu â chyfanswm y pwyntiau posibl ar gyfer yr eitem er mwyn cael canran. Wedyn, caiff y ganran hon ei mapio i ystod o sgoriau a'i dangos fel gradd, megis llythyren (A, B, C) neu Llwyddo/Methu.
Y sgemâu graddio diofyn sydd ar gael yw:
- Pwyntiau.
- Canran.
- Cyflawn/Anghyflawn.
- Llythyren.
Yn lle dangos graddau, mae'r sgema cyflawn/anghyflawn yn dangos a yw myfyriwr wedi cwblhau'r asesiad.
Mae pob sgema graddio diofyn a phersonol yn eich cwrs yn ymddangos yn y ddewislen Graddio gan ddefnyddio pan fyddwch yn creu eitemau a raddir ac yn yr eitemau a raddir sydd eisoes yn bodoli.
Os yw mewnbwn gradd yn annilys, bydd y radd yn dychwelyd i'w chyflwr neu werth blaenorol.
Rheoli sgemâu graddio
O'r Llyfr Graddau, gallwch wneud newidiadau i'r sgemâu graddio yn eich cwrs. Dewiswch yr eicon Gosodiadau i agor panel gosodiadau'r Llyfr Graddau. Dewiswch yr opsiwn Rheoli Sgemâu Graddio i weld y sgemâu sydd ar gael yn eich cwrs. Diffinnir enw a gwerthoedd y sgema diofyn gan y gweinyddwr ond gallwch greu sgemâu graddio newydd a phersonoli sgemâu sydd eisoes yn bodoli.
Os wnewch newidiadau, byddant dim ond yn effeithio ar y cwrs rydych ynddo.
Os yw eich sefydliad yn gwneud newidiadau i'r sgema graddio diofyn, ni chaiff y newidiadau eu hadlewyrchu yn eich cwrs. Bydd y sgema a olygwyd yn effeithio ar gyrsiau newydd a grëwyd ar ôl y newidiad yn unig.
Gallwch ailenwi'r sgema diofyn yn eich cwrs a gwneud newidiadau i'r Amrediadau Gradd yn ôl eich anghenion. Bydd y newidiadau a wnewch i'r sgema graddio diofyn dim ond yn effeithio ar eich cwrs.
Nifer o sgemâu graddio
Gallwch gael hyd at 100 sgema graddio fesul cwrs, sy'n rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen arnoch i ddefnyddio'r sgema graddio mwyaf priodol ar gyfer pob gweithgaredd a asesir yn eich cwrs.
A. Dewiswch yr opsiwn Ychwanegu i ychwanegu sgema graddio newydd. Cewch eich annog i roi enw'r sgema. Gall enwau sgemâu gynnwys hyd at 64 nod. Dewiswch y botwm Ychwanegu i greu sgema graddio newydd yn eich cwrs sy'n cynnwys dwy res yn ddiofyn. Mae gan bob rhes enw gradd ac amrediad gradd.
B. Dewiswch ddewislen opsiynau sgema graddio i'w gopïo neu ei ddileu. Mae'r opsiwn dileu dim ond ar gael ar gyfer sgemâu nad ydynt yn cael eu defnyddio.
C. I fewnosod rhes, dewiswch yr arwydd plws (+) sy'n ymddangos dan bob rhes, ac eithrio cyn y rhes gyntaf ac ar ôl y rhes olaf. Mae terfyn 32 nod ar enwau graddau.
Gallwch hefyd olygu'r amrediadau gradd drwy ddewis y gwerthoedd. Dechreuwch o'r rhes isaf a gweithio i fyny. Golygwch y gwerth a symud i'r rhes nesaf. Gallwch wneud y gwerth uchaf yn uwch na 100%. Er enghraifft, os bydd myfyrwyr yn cael 100% neu fwy, gallwch neilltuo A+.
Ch. Mae gan bob rhes ddewislen opsiynau. Dewiswch y ddewislen opsiynau i ddangos yr opsiynau Golygu a Dileu. Mae rhaid i o leiaf ddwy res aros er mwyn i'r sgema fod yn ddilys, ac ni allwch ddileu'r rhes olaf.
Pan fyddwch yn ychwanegu neu'n dileu rhesi neu'n golygu gwerthoedd yn y sgema, bydd y gwerthoedd sy'n weddill yn cael eu haddasu'n awtomatig. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw fylchau rhifol yn bodoli yn y sgema.
Copïo eitemau a chyrsiau
Os byddwch yn copïo asesiadau a gweithgareddau o gyrsiau eraill rydych yn eu dysgu, byddant yn cadw eu sgemâu graddio. Os byddwch yn copïo cwrs cyfan, bydd yn cynnwys yr holl sgemâu graddio hyd yn oed os nad ydynt wedi'u halinio ag eitemau a raddir.
Cyfrifiadau'r llyfr graddau a sgemâu graddio
Mae sgema'r cyfrifiad yn dangos graddau fel pwyntiau, llythrennau (A, B, C), neu ganran gyda'r sgema graddio rydych yn ei ddewis ar gyfer pob asesiad. Mae'r sgema'n cymryd y pwyntiau a sgoriwyd ar gyfer eitem ac yn eu cymharu â chyfanswm o bwyntiau posibl yr eitem er mwyn cael canran. Mae'r ganran hon wedi'i mapio i ystod o sgoriau ac yn dangos gradd, megis llythyren.
Enghraifft:
Ar gyfer y radd cyfanswm, sgôr rhif crai myfyriwr yw 88 allan o 100 pwynt posibl. Mewn sgema graddio lle mae canran o 87 i lai na 90 yn cyfateb i B+, bydd sgôr myfyriwr o 88 yn arwain at B+.
Ar yr adeg hon, heb ystyried yr amrediad o werthoedd y gallwch ei ddefnyddio yn eich sgema, nid yw lliwiau'r pils gradd a'r canrannau cyfatebol yn newid o'r cynllun lliwiau Ultra. Ymddengys eich gradd gywir, ond mae'r lliw yn cyfateb i'r cynllun lliwiau Ultra. Fodd bynnag, gall eich sefydliad analluogi’r sgema lliwiau ar gyfer pob cwrs. Ewch i'r pwnc Aseinio Graddau i ddysgu rhagor.
Rhagor am golofnau gradd a'r radd gyffredinol