Beth yw Asesiadau Ansoddol gan Gyfoedion?

Mae asesiadau gan gyfoedion yn adnodd cyffredin sy'n caniatáu i fyfyrwyr adolygu gwaith eu cyd-fyfyrwyr trwy werthusiad yn seiliedig ar feini prawf. Mae'n hawdd i hyfforddwyr a myfyrwyr ei ddefnyddio.

Pam defnyddio Asesiadau Ansoddol gan Gyfoedion?

  • Mae'n caniatáu i fyfyrwyr roi a derbyn adborth adeiladol.
  • Mae'n ategu ac yn ymarfer dealltwriaeth o'r deunydd pwnc.
  • Mae'n magu sgiliau dadansoddi a dysgu myfyrwyr.
  • Mae'n annog datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol myfyrwyr.
  • Mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer beirniadu myfyrwyr eraill mewn ffordd broffesiynol.
  • Mae'n caniatáu mesur sgiliau dadansoddi a chyfathrebu myfyrwyr.
  • Mae'n helpu i rannu'r baich gwaith.
  • Mae'n sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn adborth gan sawl unigolyn, gyda sawl safbwynt.


Enghreifftiau o gwestiynau a meini prawf

Mae cwestiynau'n darparu strwythur a chynnwys i'r asesiad. Gallant fod yn syml ("Beth yw 2 a 2?") neu'n gymhleth ("Disgrifiwch y prif reswm dros gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig.").

Mae'r meini prawf a ddaw gyda phob cwestiwn yn darparu modd o werthuso'r ymatebion i'r cwestiynau. Mae nifer y meini prawf hefyd yn gallu amrywio o un ("Ai'r ateb oedd = 4?") i nifer:

  • A yw’r ymateb yn gosod y mater o fewn cyd-destun ehangach y pwnc?
  • A yw’r ymateb wedi ei drefnu’n dda a’i osod allan yn glir?
  • A brawfddarllenwyd yr ymateb yn ofalus? A oedd yn rhydd o unrhyw wallau gramadegol, sillafu neu deipio sylweddol?

Mae cyfarwyddiadau hefyd ar gael i hwyluso proses gwerthuso myfyrwyr a'ch helpu, fel hyfforddwr, i gadw llygad ar gyflawniadau myfyrwyr yn well. Gallwch raddio â chyfarwyddyd a bydd modd i'ch myfyrwyr weld y cyfarwyddyd y gallech ei ddefnyddio i raddio.

Gall adolygwyr cyfoedion weld cyfarwyddiadau i arwain eu hadborth, ond dim ond chi, fel hyfforddwr, sy'n gallu defnyddio cyfarwyddiadau ar gyfer sgorio.


Creu Asesiad Adolygiad gan Gyfoedion

Gallwch greu Adolygiad Ansoddol gan Gyfoedion ar gyfer aseiniadau yn y Wedd Cwrs Ultra.

The Assignment settings panel is open with 1) the "Peer review" checkbox selected and highlighted, 2) the "Select peer settings" option selected and highlighted, 3) the Peer review settings panel opened with the "Reviews per student", "Assessment due date", and "Peer review due date" options on screen, and 4) the Peer review section displayed with the updated information.
  1. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu aseiniad. Yn y ddewislen, dewiswch Creu i agor y panel Creu Eitem a dewiswch Aseiniad. Bydd y dudalen Aseiniad Newydd yn agor.
  2. O banel Gosodiadau'r Aseiniad, dewiswch Adolygu gan gyfoedion. Bydd y dewis yn effeithio ar feysydd eraill yn awtomatig, megis y nifer o ymgeisiau a ganiateir, er mwyn cydymffurfio â'r gosodiadau sydd eu hangen i warantu proses adolygu gan gyfoedion lwyddiannus.
  3. Dewiswch Gosodiadau adolygu gan gyfoedion islaw Adolygu gan gyfoedion. Yn y panel wedi'i ehangu, gallwch osod y nifer o Adolygiadau fesul myfyriwr, Dyddiad cyflwyno'r asesiad (ar gyfer cyflwyno'r aseiniad) a Dyddiad cyflwyno'r adolygiad gan gyfoedion (ar gyfer cwblhau'r adolygiad gan gyfoedion).
  4. Dewiswch Cadw.
  5. Diweddarir yr adran Adolygu gan gyfoedion o fewn Gosodiadau'r Aseiniad i ddangos eich dewisiadau ar gyfer y nifer o adolygwyr a dyddiad cyflwyno adolygiadau gan gyfoedion. 
    The Assignment settings panel is open with the "Due date", "Peer review", and "Grading rubric" options displayed.
  6. Gallwch ychwanegu gosodiadau eraill at eich aseiniad, megis Cyfarwyddyd graddio  i gwblhau'r asesiad.
  7. Caewch y panel Gosodiadau'r Aseiniad a pharhau i ychwanegu cynnwys at eich aseiniad a chyfarwyddiadau ar gyfer eich myfyrwyr.
  8. Sicrhewch fod yr aseiniad ar gael i'ch myfyrwyr pan fyddwch yn barod.

I neilltuo adolygiadau gan gyfoedion o fewn grŵp, gallwch osod mwy nag un aseiniad gydag Adolygu gan Gyfoedion wedi'i alluogi a gosod Argaeledd Amodol yn ôl aelodaeth grŵp. Trwy wneud hyn, bydd adolygwyr cyfoedion wedi'i neilltuo o fewn grŵp myfyriwr bob tro.

Mae gan Aseiniadau ag Adolygiad gan Gyfoedion hysbysiad testun unigol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys pob pwnc a chwestiwn y bydd rhaid i fyfyrwyr ymateb iddynt a derbyn adborth arnynt mewn un hysbysiad.

Mwy am atodi ffeiliau


Llinell amser Asesiad Ansoddol gan Gyfoedion

  • Creu a defnyddio: Gosod y cyflwyniad a dyddiadau cyflwyno'r adolygiad, y nifer o adolygwyr gofynnol, a gwneud yn siŵr y gall myfyrwyr weld yr aseiniad.
  • Cyfnod cyflwyno: Yr amser cyn dyddiad cyflwyno'r cyflwyniad pan ddisgwylir i fyfyrwyr gyflwyno'r aseiniad.
  • Adolygiad gan Gyfoedion: Ar ôl dyddiad cyflwyno'r cyflwyniad a chyn dyddiad cyflwyno'r adolygiad gan gyfoedion pan ddisgwylir i fyfyrwyr adolygu gwaith cyd-fyfyrwyr a rhoi adborth iddynt.
  • Olrhain tasgau: Gall hyfforddwyr olrhain cyflwyniadau a chynnydd y broses adolygu yn y llyfr graddau.
  • Graddio: Ar ôl dyddiad cyflwyno'r adolygiad gan gyfoedion, bydd hyfforddwyr yn graddio'r gweithgaredd gan ystyried cyflwyniadau'r myfyrwyr ac adolygiadau eu cyd-fyfyrwyr.

Cyfnod cyflwyno

Yn ystod y cyfnod cyflwyno, gall myfyrwyr:

  • Gweld cyfarwyddiadau'r aseiniad.
  • Adolygu unrhyw gyfarwyddyd dewisol sydd wedi'i gysylltu â'r aseiniad
  • Dechrau cyflwyniad drafft, a
  • Chwblhau ymgais cyflwyno.

Fel gydag aseiniadau eraill, gall myfyrwyr awduro'n uniongyrchol yn yr aseiniad ac atodi ffeiliau.

Dim ond un ymgais wedi'i gwblhau y gellir ei gyflwyno. Mae hyn er mwyn atal myfyriwr rhag gweld beth ysgrifennodd myfyrwyr eraill a chyflwyno'r Aseiniad eto. Os oes gan fyfyriwr broblem gydag ymgais wedi'i gyflwyno, gallwch ddileu'r ymgais er mwyn i'r myfyriwr gyflwyno eto.

Dosbarthu a threfnu cyflwyniadau i gyfoedion ar hap

Dosbarthir cyflwyniadau i fyfyrwyr yn awtomatig ac ar hap. Nid yw myfyrwyr yn cael eu neilltuo i gyfoedion o'r blaen ond maent yn parhau i fod yng nghronfa aseiniadau gan gyfoedion posibl. Wrth i fyfyriwr ddewis dechrau adolygiad gan gyfoedion newydd, dewisir cyflwyniad myfyriwr arall ar hap o'r gronfa. Mae'r dull hwn yn caniatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer derbyn a thrin cyflwyniadau ac adolygiadau gan gyfoedion hwyr.

Ni all myfyrwyr weld hunaniaeth cyfoedion, ond bydd modd i chi, fel hyfforddwr, weld pwy ydynt.

Dechrau'r cyfnod adolygu gan gyfoedion

Mae'r cyfnod adolygu yn dechrau yn awtomatig ar ôl dyddiad cyflwyno'r cyflwyniad. Ar yr adeg honno, gall myfyrwyr fynd yn ôl i'r aseiniad a dechrau adolygu. Cyn dechrau'r cyfnod adolygu, rhoddir gwybod i fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno eu haseiniadau pan fydd modd iddynt ddechrau adolygu gwaith eu cyd-fyfyrwyr.

The Assigned Peer Reviews panel is open. The "Start peer reviews" and "View submission" buttons are displayed.

Oherwydd sut mae adolygiadau yn cael eu neilltuo a'u dosbarthu, ni all y cyfnod adolygu ddechrau nes bod isafswm o gyflwyniadau.

Erbyn y dyddiad cyflwyno, yr isafswm o gyflwyniadau ar gyfer dechrau'r cyfnod adolygu yw'r nifer o adolygwyr rydych yn eu gosod ac un cyflwyniad ychwanegol. Er enghraifft, os ydych wedi gosod 3 adolygwr fesul myfyriwr, bydd rhaid cael 4 cyflwyniad cyn bod modd dechrau'r cyfnod adolygu. Mae hyn yn sicrhau bod digon o gyflwyniadau ar gyfer y myfyrwyr sy'n dechrau eu hadolygiadau yn gyntaf, er mwyn iddynt gwblhau pob un o'r adolygiadau gofynnol ar unwaith os hoffant wneud hynny.

Os yw dyddiad cyflwyno'r cyflwyniadau wedi bod ac nid oes digon o gyflwyniadau er mwyn dechrau'r cyfnod adolygu, rhoddir gwybod i chi ar y dudalen Gosodiadau'r Aseiniad.

Fel arall, gallwch newid y gosodiadau gwreiddiol a lleihau'r nifer o adolygwyr gofynnol neu addasu dyddiad cyflwyno'r cyflwyniadau.

Cuddir enwau myfyrwyr rhag myfyrwyr eraill bob tro. Os ydych eisiau i'ch myfyrwyr wybod pwy maent yn ei werthuso, gallwch ofyn iddynt ychwanegu eu henwau at eu cyflwyniadau cyfatebol. Nid oes modd cuddio enwau myfyrwyr rhagoch.

Ni ddangosir adolygiadau i'r myfyriwr nes bod gradd aseiniad yr adolygiad gan gyfoedion wedi'i chyhoeddi.

Ni allwch ddefnyddio gwirio gwreiddioldeb â SafeAssign ar aseiniad sydd ag Adolygiadau gan Gyfoedion wedi'u galluogi.

An assignment's Content and Settings page is open with 1) the "Peer reviews were not started because there were not enough submissions. Please review your assignment settings" message highlighted and 2) the "Edit settings" option selected and highlighted.

Cyflwyniadau ac adolygiadau hwyr

Yn union fel aseiniadau eraill, gall myfyrwyr gyflwyno gwaith yn hwyr. Dangosir yr hwyrni yn y llyfr graddau a'r llifau gwaith graddio os nad oes ganddynt gymhwysiad dyddiad cyflwyno.

Mae cyflwyniad hwyr myfyriwr yn mynd i'r gronfa sydd ar gael wrth gyflwyno'r gwaith, a gall cyfoedion sy'n dechrau adolygu'r cyflwyniad wedi hynny ei ddewis i'w werthuso. Er bod modd delio â chymwysiadau dyddiadau cyflwyno, nid oes modd cael eithriadau o ran dyddiadau cyflwyno ar gyfer myfyrwyr unigol ar gyfer aseiniadau sydd ag adolygiadau gan gyfoedion wedi'u galluogi ar hyn o bryd oherwydd y gallai effeithio ar gyfnod adolygu myfyrwyr eraill.

Mae cyflwynwyr ac adolygwyr hwyr yn parhau i fod yn rhan o'r broses fel cyfranogwyr gweithredol, a gallwch chi, fel hyfforddwr, weld pwy sy'n hwyr bob tro ac olrhain cynnydd myfyrwyr tuag at gwblhau'r gwaith.

Os yw myfyrwyr yn cyflwyno gwaith yn hwyr iawn ac mae pob myfyriwr arall wedi gorffen adolygu, mae'n bosibl na fydd y myfyriwr hwyr iawn hwn yn derbyn unrhyw adolygiadau gan gyfoedion ond efallai bydd modd i'r myfyriwr hwn adolygu gwaith myfyrwyr eraill.

Os nad oes rhagor o gyflwyniadau ar gael yn y gronfa pan fydd y myfyriwr hwyr hwn yn dechrau adolygu, neilltuir cyflwyniadau eraill gan fyfyrwyr i'r myfyriwr hwn, felly efallai bydd rhai myfyrwyr yn derbyn adolygiadau ychwanegol sy'n fwy na'r nifer o adolygiadau gan gyfoedion a neilltuwyd. Cuddir yr adolygiadau ychwanegol hyn rhag y myfyriwr sy'n derbyn yr adolygiadau yn ddiofyn er mwyn iddo beidio â chael ei ddrysu na theimlo ei fod wedi cael ei "or-werthuso".

Gall fod amgylchiadau lle nid yw myfyriwr sydd wedi cyflwyno gwaith a gorffen adolygu ar amser yn derbyn y nifer llawn o adolygiadau gan gyfoedion erbyn dyddiad cyflwyno adolygiadau. Mae hyn yn golygu bod adolygiadau ar y gweill nad yw myfyrwyr eraill wedi'u gorffen.

Olrhain cyflwyniadau ac adolygu statws

Ar dudalen Cyflwyniad yr aseiniad, mae modd adolygu statws pob myfyriwr, a ydynt wedi cyflwyno gwaith, y nifer o adolygiadau gan gyfoedion maent wedi'u gorffen, ac a oeddent yn hwyr gyda'r cyflwyniad neu'r adolygiadau.

Ni ddangosir adolygiadau i'r myfyriwr nes bod gradd aseiniad yr adolygiad gan gyfoedion wedi'i chyhoeddi.

The Submissions page is open with the submissions list on screen and all student's statuses (whether they’ve submitted, the number of peer reviews they’ve completed, and whether they were late with either the submission or their reviews).

Gall eich myfyrwyr a chi ddysgu am newidiadau perthnasol yng nghyflwyniadau trwy'r Ffrwd Gweithgarwch. Byddwch yn derbyn hysbysiadau pan fydd adolygiadau newydd, a bydd eich myfyrwyr yn eu derbyn ar ôl i'w hadolygiadau gael eu graddio.

Graddio

Yn y llif gwaith graddio, gallwch chi neu raddiwr penodedig arall weld cyfarwyddiadau'r aseiniad gwreiddiol, cyflwyniad myfyriwr a'r adolygiadau mae'r myfyriwr hwn wedi rhoi i'w gyd-fyfyrwyr, a'r adborth mae'r myfyriwr hwn wedi'i dderbyn gan ei gyd-fyfyrwyr. Gallwch hefyd roi adborth i'r myfyriwr yma a rhoi sgôr neu ddefnyddio cyfarwyddyd i raddio. Yn union fel aseiniadau eraill, gallwch weld ac anodi'r ddogfen a gyflwynwyd yn fewnol.

Gallwch sensro unrhyw adolygiad gan gyfoedion sy'n anaddas yn eich barn chi drwy glicio ar yr eicon Dangos/Cuddio wrth ei ochr. Byddwch chi ac unrhyw raddiwr cymeradwy arall yn gweld yr holl adborth a roddwyd. Os yw myfyriwr wedi derbyn adborth ychwanegol gan adolygwyr hwyr yn ogystal ag adolygiadau'r dasg a neilltuwyd, cuddir yr adolygiadau hynny yn ddiofyn. Gallwch ddewis a ydych eisiau eu dangos i'r myfyriwr a adolygwyd gan ddefnyddio'r togl Dangos/Cuddio.

Mae Aseiniadau ag Adolygiadau gan Gyfoedion yn cefnogi gradd a chyfarwyddyd unigol ar gyfer cyflwyniad myfyriwr ac adolygiadau gan gyfoedion. Gallwch nodi sgoriau gwahanol ar gyfer pob rhan o'r broses yn yr adborth, os ydych yn dewis gwneud hynny.

An example student's grading panel is open with 1) the "Reviews by students" option displayed, 2) the feedback icon selected, and 3) the text box for adding feedback and the feedbacks from peers on screen.

Ni ddangosir adolygiadau i'r myfyriwr nes bod gradd aseiniad yr adolygiad gan gyfoedion wedi'i chyhoeddi.


Nodweddion defnyddiol

Swp-olygu

Gallwch olygu eitemau adolygiadau gan gyfoedion mewn sypiau. Gallwch addasu dyddiad cyflwyno eitemau gwahanol ar yr un pryd drwy oedi'r dyddiad neu ddod â'r dyddiad ymlaen mewn swp penodol.

Ewch i Cynnwys y Cwrs -> Y ddewislen tri dot -> Swp-olygu

The Course Content panel is open with three dots menu highlighted and the "Batch Edit" option selected.

Cysylltu cyflwyniadau

Gallwch gael mynediad at y cyflwyniadau a adolygwyd gan eich myfyrwyr yn syth o banel graddio myfyriwr penodol. Gallwch ddewis cyflwyniad penodol a graddio adolygiad myfyriwr mewn cyd-destun yn hawdd.

An example review by student is open with a link highlighted. The anchor text from the link is a student's name.

Dolenni calendr

Mae gan eich myfyrwyr fynediad uniongyrchol at y cyflwyniadau sydd ar gael i'w hadolygu o'r gweddau Dyddiad Cyflwyno neu Calendr. Mae hyn yn ei gwneud yn haws iddynt weithredu wrth adolygu eu tasgau sydd ar y gweill.

The "Due Date" and "Calendar" views from the Student's view is open with two available submissions highlighted.

Aseiniadau adolygiadau gan gyfoedion ar gyfer myfyrwyr wedi'u hanalluogi ac ymgeisiau wedi'u dileu

Pan fydd hyfforddwr yn dileu cyflwyniad myfyriwr sy'n cynnwys adolygiadau gan gyfoedion, byddant yn gweld rhybudd, gan y byddant yn colli'r adolygiadau hynny. Bydd y rhestr o fyfyrwyr y bydd yn effeithio arnynt yn weladwy.

Wrth raddio neu weld adolygiadau gan gyfoedion, bydd cyflwyniad myfyriwr wedi'i analluogi neu nad yw ar gael yn parhau i fod ar gael.

Os yw myfyriwr wedi dechrau neu gwblhau adolygiad ar gyflwyniad myfyriwr nad yw ar gael bellach (gan ei fod yn perthyn i fyfyriwr wedi'i analluogi neu nad yw ar gael), byddant yn gweld nad oes ganddynt fynediad ato bellach. Gall y myfyriwr ddechrau adolygiad arall os hoffent wneud hynny neu os yw hyfforddwr yn gofyn iddynt wneud hynny. Gall hyfforddwr weld pan fydd myfyriwr wedi cwblhau adolygiad nad yw ar gael bellach, sy'n rhoi'r cyfle iddynt roi gwybod i'r myfyriwr nad oes rhaid iddynt gwblhau adolygiad arall os yw hynny'n well gan yr hyfforddwr.

The Assignment panel from a Student's view is open with 1) a "One or more submissions for your peer reviews are no longer available" warning message displayed and highlighted, and 2) a "This submission is no longer available" warning message highlighted.