Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Cael rhagolwg o Hunanasesiad ac Asesiad gan Gyfoedion

Gallwch weld safbwynt y myfyrwyr a sut maen nhw'n cwblhau asesiad a gwerthuso eu cyfoedion.

Gallwch gael rhagolwg o asesiad mewn fwy ffordd o dudalen Cynfas Asesiad:

  • Dewiswch Cyflwyniad i weld beth mae myfyrwyr yn ei weld pan maen nhw'n mynd i'r asesiad am y tro cyntaf. I weld rhagolwg o gwestiwn, dewiswch ei enw.
  • Dewiswch Gwerthusiad i weld beth mae myfyrwyr yn ei weld pan maen nhw'n gwerthuso asesiadau eu cyfoedion neu eu hasesiadau eu hunain.

Mae tudalennau rhagolwg ar gael i’w darllen yn unig. Ni allwch wneud newidiadau.

Tudalen Rhagolwg Gwerthusiad

Ar dudalen Rhagolwg Gwerthusiad, dewiswch enw defnyddiwr y gwerthuswr i ddangos y dudalen Gwerthusiad briodol. Mae pob cwestiwn yn ymddangos mewn grwpiau o dabiau. Llywiwch drwy'r tabiau i arddangos yr ymatebion a gyflwynir ar gyfer y cwestiwn hwnnw. Ym modd rhagolwg, mae'r statws bob tro'n ymddangos fel Heb Gychwyn.

Os yw'n bodoli, dewiswch Esiampl o Ymateb i agor yr esiampl ar gyfer y cwestiwn hwnnw.

Gallwch weld nifer y pwyntiau a roddir allan o'r cyfanswm sydd ar gael. Ym modd rhagolwg, mae pwyntiau'n ymddangos fel 0 / xxx.


Cwblhau asesiad

Mae myfyrwyr yn cael mynediad at asesiadau o ardal cwrs. Mae amrediadau dyddiad Cyflwyniadau a Gwerthusiad yn ymddangos gyda'r ddolen. Mae myfyrwyr yn gallu cyflwyno atebion yn uniongyrchol ar dudalen y cwestiwn ac uwchlwytho ffeiliau i gefnogi eu hatebion.

  1. Yn ardal y cwrs, dewiswch ddolen Gweld/Cwblhau Asesiad i gychwyn asesiad.
  2. Ar dudalen Gwneud yr Asesiad, dewiswch ddolen i gwestiwn a theipiwch ymateb.
  3. Fel arall, atodwch un ffeil neu ragor a theipiwch Teitl Dolen yn ôl yr angen.
  4. Dewiswch Nesaf.
  5. Ailadroddwch y camau tan i chi ateb yr holl gwestiynau.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Gwerthuso asesiad

Gallwch ganiatáu i'ch myfyrwyr arfarnu asesiadau eu cyfoedion a darparu adborth gwerthfawr. Mae'r adborth hwn yn gallu gwella dealltwriaeth o'r deunydd ar gyfer yr unigolyn asesedig a'r myfyriwr sy'n darparu'r gwerthusiad.

Mae myfyrwyr yn gallu cael mynediad at asesiad gyda'r un ddolen defnyddion nhw i'w gwblhau ac i gychwyn y gwerthusiad. Mae tudalen Trosolwg o'r Gwerthusiad yn rhestru nifer y cyflwyniadau sydd angen i'r myfyriwr eu gwerthuso, gydag enw'r gwerthuswr ar dop y rhestr.

Os byddwch yn galluogi gwerthuso dienw, nid yw gwerthuswr yn gweld enw unrhyw fyfyriwr yn ystod y gwerthuso. Mae myfyrwyr yn gallu gwerthuso asesiadau yn ystod y cyfnod gwerthuso a bennir gennych chi yn unig.

Peidiwch â chofrestru neu ddad-gofrestru myfyrwyr ar ôl dyddiad dechrau y gwerthuso. Gall hyn gael effaith negyddol ar y canlyniadau sydd eisoes wedi'u casglu.

  1. Yn ardal y cwrs, dewiswch ddolen Gweld/Cwblhau Asesiad yr asesiad i gychwyn y gwerthusiad.
  2. Ar y dudalen Trosolwg o'r Gwerthusiad, dewiswch yr enw priodol.
  3. Ar y dudalen Gwerthusiad, adolygwch y testun ym mlwch Cyflwyniad. Ehangwch y Meini Prawf adolygu. Adolygwch ffeiliau a atodir. Dewiswch Esiampl o Ymateb i gymharu.
  4. Teipiwch nifer y pwyntiau ar gyfer pob maen prawf a darparwch adborth, os gofynnir am hynny.
  5. Dewiswch flwch ticio Dyrannu Pwyntiau.
  6. Dewiswch Cadw a'r Maen Prawf Nesaf i symud i'r maen prawf nesaf neu Cadw a'r Cwestiwn Nesaf.
  7. Dewiswch Cyflwyno.

Gweld cyflwyniadau, gwerthusiadau a chanlyniadau

Ar ryw adeg yn y broses asesu, mae’n bosibl y bydd angen ichi weld y gwaith y mae’r myfyrwyr wedi ei gyflwyno, gwerthusiadau neu’r canlyniadau cyffredinol. Ar y Control Panel, ehangwch adran Offer Cwrs a dewiswch Hunanasesiad ac Asesiad gan Gyfoedion.

Ar dudalenHunanasesiad ac Asesiad gan Gyfoedion, o ddewislen yr asesiad, dewiswch Gweld Cyflwyniadau, Gweld Gwerthusiadau, neuGweld Canlyniadau. Er eu bod yn cynnwys gwybodaeth wahanol, mae pob tudalen yn cynnwys rhestr o enwau myfyrwyr. Wrth ymyl pob enw, gallwch chi ddewis Gweld neu Lawrlwytho.

Gallwch chi lawrlwytho popeth ar bob tudalen hefyd.

  • Gweld Cyflwyniadau: Caiff ffeil gywasgedig ei chreu sy’n cynnwys ffeiliau HTML ar wahân ar gyfer pob darn o waith a gyflwynwyd, ynghyd ag unrhyw ffeiliau a atodwyd i’r darnau hyn o waith.
  • Gweld Gwerthusiadau: Caiff ffeil gywasged ei chreu sy’n cynnwys sawl ffeil CSV, sy’n crynhoi canlyniadau’r gwerthusiad.
  • Gweld Canlyniadau: Caiff ffeil CSV unigol ei chreu sy’n cynnwys y canran a’r sgôr cyfartalog ar gyfer pob darn o waith mae’r myfyriwr wedi ei gyflwyno.

Anfon marciau i’r Ganolfan Raddau

O dudalen Canlyniadau, gallwch chi drosglwyddo’r sgôr cyfartalog i’r Ganolfan Raddau hefyd. Caiff pob sgôr gwerthusiad, gan gynnwys hunanwerthusiadau, eu cynnwys wrth gyfrifo sgôr ar gyfer aseiniad. Os oes angen, gallwch chi addasu marciau yn y Ganolfan Raddau.

Mewngludo ac allgludo asesiadau

Gallwch allgludo Hunanasesiadau ac Asesiadau Cyfoedion i’w cadw y tu allan i Blackboard Learn. Gallwch eu mewngludo yn ôl yr angen.

Gallwch allgludo asesiadau o Ffeiliau'r Cwrs, y Casgliad o Gynnwys, neu eich cyfrifiadur.

Mewngludo asesiad

  1. Cyrchwch faes cynnwys. O’r ddewislen Asesiadau, dewiswch Hunanasesu ac Asesu Cyfoedion.
  2. Ar y dudalen Creu Hunanasesiad ac Asesiad Cyfoedion, dewiswch Mewngludo.
  3. Gallwch Bori i ddod o hyd i’r ffeil asesu.
  4. Teipiwch enw ar gyfer yr asesiad a fewngludwyd. Os nad ydych chi’n teipio enw, defnyddir yr enw asesiad a fewngludwyd.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Os yw'r dyddiad cyntaf ar gyfer yr asesiad a fewngludwyd yn y gorffennol, mae'r system yn ei ailosod i 24 awr o'r amser y cafodd ei fewngludo. Addasir pob dyddiad arall ymlaen mewn amser a chynnal yr un berthynas a sefydlwyd yn yr asesiad gwreiddiol. Er enghraifft, os byddwch yn mewngludo asesiad gyda dyddiad cyflwyno bedair wythnos ar ôl y dyddiad dechrau, y dyddiad cyntaf rhagosodedig newydd fyddai yfory. Y dyddiad dyledus fyddai pedair wythnos ac un diwrnod.


Allgludo asesiad

Mae’r ffeil asesu wedi’i becynnu mewn ffeil ZIP cywasgedig. Dim ond yr asesiad - gyda’i gwestiynau a’i feini prawf - fydd yn cael ei allgludo. Ni allgludir cyflwyniadau blaenorol ar gyfer yr asesiad.

  1. Cyrchwch y maes cynnwys sy'n cynnwys yr Hunanasesiad ac Asesiad Cyfoedion rydych am eu hallgludo.
  2. Defnyddiwch y ddewislen Hunanasesiad ac Asesiad Cyfoedion a dewiswch Golygu.
  3. Ar y dudalen Golygu, dewiswch Allgludo’r Asesiad.
  4. Bydd y broses lawrlwytho i'ch cyfrifiadur yn dechrau.