Galluogi graddio dienw
Gallwch alluogi graddio dienw ar gyfer aseiniadau a phrofion nad ydynt yn cynnwys y mathau o gwestiynau parod. Testun a ffeiliau yn unig y gallwch eu hychwanegu at aseiniadau a phrofion a gaiff eu graddio'n ddienw.
Caiff enwau myfyrwyr eu cuddio wrth i chi raddio a byddant yn cael eu datgelu dim ond ar ôl i chi bostio'r holl raddau.
Ni allwch guddio neu ddangos enwau myfyrwyr ar ôl i fyfyrwyr agor aseiniad neu brawf neu gyflwyno ymgeisiau.
Pan fyddwch yn cuddio enwau, ni allwch ychwanegu cwestiynau, ailddefnyddio cwestiynau neu ddewis y gosodiadau hyn:
- Caniatáu sgyrsiau dosbarth
- Casglu cyflwyniadau all-lein
- Pennu grwpiau
Galluogi graddio cyfochrog
Gallwch drefnu bod defnyddwyr penodol yn eich cwrs yn graddio setiau o gyflwyniadau aseiniadau. Ni all graddwyr weld graddau, adborth, anodiadau ar ffeiliau myfyrwyr, a chyfeirebau graddwyr eraill. Maent yn graddio’n gyfochrog ac yn darparu graddau dros dro. Mae'r rolau graddio diofyn yn cynnwys hyfforddwyr, graddwyr a chynorthwywyr dysgu.
Y rôl hyfforddwr yw'r graddiwr terfynol neu gysonwr diofyn. Mae'r cysonwr yn adolygu’r graddau dros dro ac yn pennu’r graddau terfynol mae myfyrwyr yn eu gweld. Gallwch neilltuo’r gallu i gysoni graddau i un neu ragor o ddefnyddwyr eraill sydd â breintiau graddio a thynnu’ch gallu i gysoni.
Rhagor am raddwyr cyfochrog a chysonwyr
Gallwch alluogi graddio cyfochrog a neilltuo graddwyr wrth greu aseiniad. Gallwch hefyd alluogi graddio cyfochrog hyd yn oed ar ôl i fyfyrwyr gyflwyno’u gwaith. Mae’r system yn neilltuo graddwyr o'ch dewis ar hap fel bod gan bob myfyriwr ddau raddiwr ar gyfer yr aseiniad. Dosbarthir y baich gwaith graddio yn gyfartal rhwng y graddwyr. Gall graddwyr ond agor y cyflwyniadau ar gyfer y myfyrwyr a neilltuwyd iddynt.
Ni chaiff myfyrwyr wybod bod gan yr aseiniad rhagor nag un graddiwr oni bai eich bod yn rhoi gwybod iddynt. Mae myfyrwyr ond yn gweld y radd derfynol a’r adborth a ddarparwyd gan y cysonwr.
Ar yr adeg hon, ni allwch greu grwpiau neu ychwanegu cwestiynau pan fydd graddio cyfochrog wedi’i alluogi. Ni all graddwyr, cynorthwywyr addysgu, nac adeiladwyr cwrs alluogi neu analluogi graddio cyfochrog.
Yn y panel Gosodiadau'r Aseiniad, dewiswch y blwch ticio ar gyfer Dau raddiwr fesul myfyriwr yn yr adran Graddio cyfochrog.
Dewiswch y ddolen Pennu graddwyr sy’n ymddangos. Ar y dudalen Pennu Graddwyr, gallwch ddewis eich graddwyr a chysonwyr.