Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae cronfa gwestiynau yn gasgliad o gwestiynau sy'n cael eu storio i'w defnyddio eto.

Gallwch ddefnyddio cronfeydd i greu profion ac arolygon. Gallwch hefyd allgludo a mewngludo cronfeydd i'w defnyddio mewn profion mewn cyrsiau eraill.

Mae cwestiynau mewn casgliad bron yn gyfan gwbl yr un fath â chwestiynau prawf. Gallant gynnwys adborth, metaddata, a holl elfennau eraill cwestiwn prawf, ond nid ydynt yn cynnwys gwerthoedd pwyntiau.

Mae hyfforddwyr fel arfer yn defnyddio casgliadau i greu cronfa ddata o gwestiynau y gallant eu hailddefnyddio mewn amryw brofion. Er enghraifft, gall hyfforddwr ar gwrs Byw mewn Modd Cynaliadwy greu casgliad o gwestiynau ar gyfer pob un o'r pynciau canolig a ddysgir: Diet, Tai ac Egni. Gall yr hyfforddwr ddefnyddio'r casgliadau hyn mewn amryw brofion ac mewn cyrsiau eraill.


Terminoleg Ultra a’r Wedd Cwrs Gwreiddiol

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i enwau nodweddion asesu sy’n seiliedig ar ymchwil defnyddwyr a safonau cyfredol y diwydiant. Mae’r Wedd Cwrs Ultra yn cynnwys y derminoleg newydd sy’n alinio â safonau cyfredol.

Mae’r tabl hwn yn rhestru enwau nodweddion cwestiynau asesiadau yn y ddwy wedd cwrs.

Terminoleg Ultra a Gwreiddiol mewn asesiadau
Gwedd Cwrs Ultra Gwedd Cwrs Gwreiddiol
Cronfa gwestiynau Bloc ar hap a set cwestiynau
Banc cwestiynau Cronfa gwestiynau
Dadansoddi cwestiynau Dadansoddiad eitem

Cynfas Cronfeydd

O'r Cynfas Cronfeydd, gallwch reoli a chwilio am gwestiynau i'w hychwanegu at gronfa. Gallwch olygu enw a chyfarwyddiadau'r gronfa, creu neu olygu cwestiynau, a llwytho cwestiynau i fyny. Gallwch hefyd eu dileu neu newid gwerth y pwyntiau.

Pan fyddwch yn dewis cwestiynau cronfa ar gyfer prawf, crëir dolenni rhwng y prawf a'r cwestiynau cronfa. Felly, os byddwch yn newid y cwestiwn gwreiddiol, bydd fersiwn diwygiedig y cwestiwn yn ymddangos.

Pan fyddwch yn creu casgliad o gwestiynau gyda'r bwriad o'i defnyddio mewn arolwg nad sy'n cael ei raddio, rhaid i chi ddewis atebion cywir. Yna, gallwch ddefnyddio'r cwestiynau mewn profion yn ogystal ag arolygon. Caiff yr atebion eu hanwybyddu ar ôl ychwanegu cwestiynau at arolwg.

Gallwch hefyd ddefnyddio cronfeydd cwestiynau i fewngludo ac allgludo cwestiynau profion gan ddefnyddio'r safon QTI.


Adeiladu cronfa

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangwch adran Offer Cwrs a dewiswch Profion, Arolygon a Chasgliadau.
  2. Ar dudalen Profion, Arolygon a Chasgliadau, dewiswch Casgliadau.
  3. Ar dudalen Casgliadau, dewiswch Adeiladu Casgliad.
  4. Cwblhewch dudalen Gwybodaeth y Casgliad a dewiswch Cyflwyno.
  5. I ychwanegu cwestiynau, gallwch ddefnyddio Creu Cwestiynau, Chwilio am Gwestiynau, ac Uwchlwytho Cwestiynau.

Pan fyddwch yn dewis Dod y Hyd i Gwestiynau, gallwch ddewis o brofion presennol yn eich cwrs ac unrhyw brofion rydych wedi'u mewngludo o gyrsiau eraill. Os nad oes gennych unrhyw brofion, mae'r adran hon yn wag.

Rhagor am fewngludo profion

Golygu casgliadau cyfredol

  1. Ar dudalen Casgliadau, ewch i ddewislen casgliad a dewiswch Golygu.
  2. Ychwanegwch gwestiynau, dilëwch gwestiynau, neu newidiwch werthoedd pwyntiau.
  3. Dewiswch Iawn i fynd yn ôl i dudalen Cronfeydd.

Golygu cwestiynau

Ar ôl i fyfyrwyr gychwyn prawf, ni ddylech wneud newidiadau i gwestiynau casgliadau a ddefnyddiwyd yn y prawf. Os byddwch yn golygu cwestiwn, bydd myfyrwyr yn gweld y cwestiwn newydd, addasedig pan fyddant yn edrych ar eu gradd ac adborth. Ni fyddant yn gweld y cwestiwn gwreiddiol.

Bydd newidiadau i gwestiynau cysylltiedig yn cynhyrchu neges sy'n rhybuddio bod y newidiadau'n cael eu cymhwyso ym mhob man lle mae'r cwestiwn yn ymddangos.

Os oes unrhyw un wedi ymgeisio un o'r cwestiynau a'ch bod yn ei newid, rhaid ailraddio unrhyw ymgeisiau a gyflwynwyd a gallai hyn effeithio ar sgorau profion. Bydd hyfforddwyr a myfyrwyr yr effeithir arnynt yn cael eu hysbysu am hyn.

Defnyddiwch y camau hyn i olygu cwestiwn mewn casgliad:

  1. Ar dudalen Casgliadau, ewch i ddewislen casgliad a dewiswch Golygu.
  2. Ar Cynfas y Casgliad, gallwch hidlo'r rhestr o gwestiynau. Yn y panel Pori Meini Prawf, ehangwch yr adrannau meini prawf a dewiswch feini prawf penodol.
  3. Ewch i ddewislen cwestiwn a dewiswch Golygu i wneud eich newidiadau.
  4. Dewiswch Cyflwyno i gadarnhau'ch newidiadau ym mhob prawf lle mae'r cwestiwn hwnnw yn ymddangos. Fel arall, gallwch ddewis Cadw fel Newydd er mwyn creu cwestiwn newydd, sy'n golygu bod dim angen ailraddio ymgeisiau cyfredol.

Pecynnau QTI


Ynghylch pecynnau QTI

Efallai bydd hyfforddwyr ac adeiladwyr cwrs yn dibynnu ar gynnwys trydydd parti i adeiladu eu cwricwlwm ac i ategu deunyddiau fel gwerslyfrau. I helpu sicrhau cydnawsedd, mae cyhoeddwyr a chrewyr cynnwys eraill yn datblygu’r deunydd hwn gan ddefnyddio safonau'r diwydiant.

Mae safonau'r diwydiant yn sicrhau bod systemau rheoli dysgu yn barod ac yn gallu prosesu'r cynnwys hwn. Sefydlodd yr IMS Global Learning Consortium safon Question and Test Interoperability (QTI) i gefnogi cydnawsedd rhwng cwestiynau a chwrs, heb ystyried y system rheoli dysgu.

Os yw’ch sefydliad yn defnyddio rhyddhad mwy newydd o Blackboard Learn, gallwch fewngludo ac allgludo pecynnau QTI i’w defnyddio yn eich asesiadau.

Cefnogir cwestiynau a fewngludwyd o becyn QTI yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig.

Beth sy’n cael ei gefnogi mewn pecyn QTI?

  • Mae Blackboard Learn yn cefnogi mathau penodol o gwestiynau mewn pecyn QTI: Gwir/Gau, Amlddewis, Amlateb, Llenwi'r Bwlch, a Thraethawd.
  • Os yw cwestiwn yn cynnwys cyfryngau wedi’u plannu, mewngludir tagiau gwrthrych HTML a HTML 5. Allforir HTML5.
  • Ni chefnogir metaddata cwestiynau fel tagiau, categorïau ac aliniadau ac nid ydynt yn cael eu mewngludo na’u hallgludo.
  • Anwybyddir cwestiynau sy’n defnyddio prosesu ymateb QTI dewisol ac nid ydynt yn cael eu mewngludo..
  • Pan nad yw opsiynau ffurfweddu cwestiynau yn cyfateb, mae Blackboard Learn yn blaenoriaethu cyson-gywirdeb testun y cwestiwn ac ateb dros osodiadau. Er enghraifft, mae rhai systemau arholiadau yn caniatáu dyraniadau credyd rhannol sy’n wahanol i gael eu gosod fesul ymateb ateb posibl, ond mae Blackboard Learn yn cynnal rhestr o atebion cywir. Yn yr achos hwn, mewngludir pob opsiwn ateb fel opsiwn cywir er mwyn iddynt gael eu hadolygu i’w defnyddio’n barhaol yn Blackboard Learn.

Gan fod gan offer asesu gwahanol nodweddion gwahanol a chyfryngau, HTML a galluoedd trin hafaliadau gwahanol, dylech adolygu a phrofi'r cwestiynau yn gyntaf ar ôl eu trosglwyddo rhwng datrysiadau.


Mewngludo pecyn QTI

Bydd angen i chi fewngludo pecynnau QTI i’ch cwrs fel cronfeydd cwestiynau. Ar ôl mewngludo’r cwestiynau, gallwch eu defnyddio mewn asesiadau.

  1. Yn eich cwrs, ewch i Offer y Cwrs > Profion, Arolygon, Cronfeydd > Cronfeydd.
  2. Dewiswch Mewngludo Pecyn QTI 2.1.
  3. Porwch eich cyfrifiadur neu'r Casgliad o Gynnwys i leoli’r pecyn QTI.
  4. Dewiswch Cyflwyno.
  5. Ar ôl i Blackboard Learn brosesu'r pecyn, byddwch yn gweld tudalen statws i ddangos y canlyniadau. Dewiswch Iawn i fynd yn ôl i dudalen Cronfeydd.

Gallwch olygu’r cwestiynau yn y gronfa. Pan fyddwch yn barod, defnyddiwch y cwestiynau mewn prawf.

Defnyddio cwestiynau mewn prawf

Nawr eich bod wedi mewngludo pecyn QTI, gallwch ddefnyddio'r cwestiynau mewn prawf. I adeiladu prawf gyda chwestiynau mewn cronfa:

  1. Yn eich cwrs, ewch i Offer y Cwrs > Profion, Arolygon, Cronfeydd > Profion.
  2. Dewiswch Profion > Adeiladu Prawf.
  3. Teipiwch enw a disgrifiad neu gyfarwyddiadau dewisol. Dewiswch Cyflwyno.
  4. Yn y ddewislen Ailddefnyddio Cwestiynau, dewiswch Dod o Hyd i Gwestiynau.
  5. Byddwch yn cyrraedd llyfrgell cwestiynau prawf yn eich cwrs, gan gynnwys y rheini mewn cronfeydd. Dewiswch y gronfa a grëwyd trwy fewngludo pecyn QTI.
  6. Dewiswch y cwestiynau rydych eisiau eu defnyddio a dewis Cyflwyno.
  7. Mae'r cwestiynau'n cael eu hychwanegu at eich prawf.

Allgludo pecyn QTI

Yn union fel maent yn cael eu mewngludo i Blackboard Learn, mae pecynnau QTI yn cael eu hallgludo fel cronfeydd cwestiynau. Mae angen i chi symud cwestiynau o asesiad i gronfa gwestiynau i allgludo'r pecyn QTI.

  1. Gallwch adeiladu cronfa gyda chwestiynau o unrhyw asesiadau yn eich cwrs.
  2. Ar ôl adeiladu’r gronfa, ewch yn ôl i dudalen Cronfeydd.
  3. Yn newislen y gronfa, dewiswch Allgludo Pecyn QTI 2.1.
  4. Lawrlwythir y pecyn i’ch cyfrifiadur fel ffeil ZIP.

NODIADAU