Ynghylch pecynnau QTI
Efallai bydd hyfforddwyr ac adeiladwyr cwrs yn dibynnu ar gynnwys trydydd parti i adeiladu eu cwricwlwm ac i ategu deunyddiau fel gwerslyfrau. I helpu sicrhau cydnawsedd, mae cyhoeddwyr a chrewyr cynnwys eraill yn datblygu’r deunydd hwn gan ddefnyddio safonau'r diwydiant.
Mae safonau'r diwydiant yn sicrhau bod systemau rheoli dysgu yn barod ac yn gallu prosesu'r cynnwys hwn. Sefydlodd yr IMS Global Learning Consortium safon Question and Test Interoperability (QTI) i gefnogi cydnawsedd rhwng cwestiynau a chwrs, heb ystyried y system rheoli dysgu.
Os yw’ch sefydliad yn defnyddio rhyddhad mwy newydd o Blackboard Learn, gallwch fewngludo ac allgludo pecynnau QTI i’w defnyddio yn eich asesiadau.
Cefnogir cwestiynau a fewngludwyd o becyn QTI yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig.
Beth sy’n cael ei gefnogi mewn pecyn QTI?
- Mae Blackboard Learn yn cefnogi mathau penodol o gwestiynau mewn pecyn QTI: Gwir/Gau, Amlddewis, Amlateb, Llenwi'r Bwlch, a Thraethawd.
- Os yw cwestiwn yn cynnwys cyfryngau wedi’u plannu, mewngludir tagiau gwrthrych HTML a HTML 5. Allforir HTML5.
- Ni chefnogir metaddata cwestiynau fel tagiau, categorïau ac aliniadau ac nid ydynt yn cael eu mewngludo na’u hallgludo.
- Anwybyddir cwestiynau sy’n defnyddio prosesu ymateb QTI dewisol ac nid ydynt yn cael eu mewngludo..
- Pan nad yw opsiynau ffurfweddu cwestiynau yn cyfateb, mae Blackboard Learn yn blaenoriaethu cyson-gywirdeb testun y cwestiwn ac ateb dros osodiadau. Er enghraifft, mae rhai systemau arholiadau yn caniatáu dyraniadau credyd rhannol sy’n wahanol i gael eu gosod fesul ymateb ateb posibl, ond mae Blackboard Learn yn cynnal rhestr o atebion cywir. Yn yr achos hwn, mewngludir pob opsiwn ateb fel opsiwn cywir er mwyn iddynt gael eu hadolygu i’w defnyddio’n barhaol yn Blackboard Learn.
Gan fod gan offer asesu gwahanol nodweddion gwahanol a chyfryngau, HTML a galluoedd trin hafaliadau gwahanol, dylech adolygu a phrofi'r cwestiynau yn gyntaf ar ôl eu trosglwyddo rhwng datrysiadau.
Mewngludo pecyn QTI
Bydd angen i chi fewngludo pecynnau QTI i’ch cwrs fel cronfeydd cwestiynau. Ar ôl mewngludo’r cwestiynau, gallwch eu defnyddio mewn asesiadau.
- Yn eich cwrs, ewch i Offer y Cwrs > Profion, Arolygon, Cronfeydd > Cronfeydd.
- Dewiswch Mewngludo Pecyn QTI 2.1.
- Porwch eich cyfrifiadur neu'r Casgliad o Gynnwys i leoli’r pecyn QTI.
- Dewiswch Cyflwyno.
- Ar ôl i Blackboard Learn brosesu'r pecyn, byddwch yn gweld tudalen statws i ddangos y canlyniadau. Dewiswch Iawn i fynd yn ôl i dudalen Cronfeydd.
Gallwch olygu’r cwestiynau yn y gronfa. Pan fyddwch yn barod, defnyddiwch y cwestiynau mewn prawf.
Defnyddio cwestiynau mewn prawf
Nawr eich bod wedi mewngludo pecyn QTI, gallwch ddefnyddio'r cwestiynau mewn prawf. I adeiladu prawf gyda chwestiynau mewn cronfa:
- Yn eich cwrs, ewch i Offer y Cwrs > Profion, Arolygon, Cronfeydd > Profion.
- Dewiswch Profion > Adeiladu Prawf.
- Teipiwch enw a disgrifiad neu gyfarwyddiadau dewisol. Dewiswch Cyflwyno.
- Yn y ddewislen Ailddefnyddio Cwestiynau, dewiswch Dod o Hyd i Gwestiynau.
- Byddwch yn cyrraedd llyfrgell cwestiynau prawf yn eich cwrs, gan gynnwys y rheini mewn cronfeydd. Dewiswch y gronfa a grëwyd trwy fewngludo pecyn QTI.
- Dewiswch y cwestiynau rydych eisiau eu defnyddio a dewis Cyflwyno.
- Mae'r cwestiynau'n cael eu hychwanegu at eich prawf.
Allgludo pecyn QTI
Yn union fel maent yn cael eu mewngludo i Blackboard Learn, mae pecynnau QTI yn cael eu hallgludo fel cronfeydd cwestiynau. Mae angen i chi symud cwestiynau o asesiad i gronfa gwestiynau i allgludo'r pecyn QTI.
- Gallwch adeiladu cronfa gyda chwestiynau o unrhyw asesiadau yn eich cwrs.
- Ar ôl adeiladu’r gronfa, ewch yn ôl i dudalen Cronfeydd.
- Yn newislen y gronfa, dewiswch Allgludo Pecyn QTI 2.1.
- Lawrlwythir y pecyn i’ch cyfrifiadur fel ffeil ZIP.