Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Casgliad o gwestiynau o brofion a chronfeydd penodol yw set o gwestiynau.

Gallwch ddefnyddio setiau o gwestiynau wrth greu profion. Gallwch ddewis sawl cwestiwn rydych eu heisiau yn y set. Caiff y cwestiynau eu dewis ar hap bob tro i fyfyriwr gymryd y prawf. Mae'r broses o ddethol cwestiynau yn defnyddio'r un llif gwaith â llif gwaith chwilio am gwestiynau, lle gallwch chwilio a phori gan ddefnyddio metaddata.

Gallwch gynnwys sawl set o gwestiynau mewn prawf. Ar gyfer pob set o gwestiynau, gallwch bennu'r paramedrau hyn:

  • O ba gasgliadau a phrofion y daw'r set o gwestiynau
  • Y mathau o gwestiynau i'w defnyddio
  • Nifer y cwestiynau i'w defnyddio

Chi sy'n dewis nifer y cwestiynau o'r set i'w dangos. Er enghraifft, gallwch ddangos 3 chwestiwn allan o 50. Caiff y cwestiynau eu dosbarthu ar hap felly bydd pob myfyriwr yn gweld gwahanol set o 3 chwestiwn. Gallwch hefyd ddangos yr holl gwestiynau yn y set i fyfyrwyr.


Terminoleg asesiadau'r Wedd Cwrs Ultra a’r Wedd Cwrs Gwreiddiol

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i enwau nodweddion asesu sy’n seiliedig ar ymchwil defnyddwyr a safonau cyfredol y diwydiant. Mae’r Wedd Cwrs Ultra yn cynnwys y derminoleg newydd sy’n alinio â safonau cyfredol.

Mae’r tabl hwn yn rhestru enwau nodweddion cwestiynau asesiadau yn y ddwy wedd cwrs.

Terminoleg Ultra a Gwreiddiol mewn asesiadau
Gwedd Cwrs Ultra Gwedd Cwrs Gwreiddiol
Cronfa gwestiynau Bloc ar hap a set cwestiynau
Banc cwestiynau Cronfa gwestiynau
Dadansoddi cwestiynau Dadansoddiad eitem

Setiau o Gwestiynau neu Flociau Ar Hap

Er bod setiau o gwestiynau a blociau ar hap yn cyflwyno cwestiynau ar hap i fyfyrwyr, mae yna wahaniaethau penodol rhwng y ddau:

  • Gallwch ddewis eich cwestiynau eich hun o unrhyw brawf, arolwg a chasgliad ar gyfer setiau o gwestiynau. Mae blociau ar hap yn tynnu cwestiynau o gasgliadau yn unig, felly ni allwch gynnwys cwestiynau o brofion neu arolygon eraill. Cyn i chi greu blociau ar hap, rhaid i chi greu o leiaf un casgliad o gwestiynau yn gyntaf.
  • Gallwch chwilio am gwestiynau a phori metaddata i greu setiau o gwestiynau. Ni allwch chwilio am gwestiynau na phori metaddata pan fyddwch yn creu blociau ar hap.
  • Gallwch chi ddileu cwestiynau mewn setiau o gwestiynau. Caiff y cwestiwn ei dynnu o'r set, ond ni fydd yn cael ei dileu o'ch cwrs. Ni allwch chi ddileu cwestiynau o fewn bloc ar hap. Os nad ydych eisiau i gwestiwn gael ei gynnwys yn eich bloc ar hap, tynnwch y cwestiwn o'r casgliad mae'n rhan ohono.

Ar ôl i chi wneud eich dewisiadau, rydych yn gosod yr un pwyntiau posib i'r holl gwestiynau yn y set neu floc. I bennu gwerth pwyntiau gwahanol i gwestiwn, mae angen i chi ychwanegu'r cwestiwn ar ei ben ei hun y tu allan i floc neu set.


Creu setiau o gwestiynau

Os yw wedi'i alluogi, sicrhewch eich bod yn analluogi'r rhwystrwr ffenestri naid ar gyfer Blackboard Learn er mwyn i chi allu cael mynediad at ffenestr naid Creu Set o Gwestiynau.

  1. Ewch i'r prawf. O ddewislen Ailddefnyddio Cwestiynau, dewiswch Creu Set o Gwestiynau.
  2. Yn y ffenestr naid, chwiliwch am gwestiynau ym mhanel Pori'r Meini Prawf. Ehangwch adrannau'r meini prawf a dewiswch feini prawf penodol. Gallwch chwilio cronfeydd, profion, mathau o gwestiynau, categorïau, pynciau, lefelau anhawster a geiriau allweddol. Bydd yr holl gwestiynau sy'n bodloni'r meini prawf hynny yn ymddangos. Gallwch hefyd ddefnyddio’r blwch Chwilio’r canlyniadau presennol i deipio brawddeg, gair, neu ran o air i ddod o hyd i gwestiynau sy’n cyd-fynd.
  3. Rhowch dic yn y blwch wrth ymyl y cwestiynau rydych am eu hychwanegu at yr asesiad. Mae’r cwestiynau yn ymddangos yn y maes Cwestiynau a Ddewiswydar waelod y sgrin. Gallwch ehangu'r maes i weld eich rhestr o gwestiynau. Dewiswch yr Xcoch wrth ymyl cwestiwn i’w dynnu. Caiff y cwestiwn ei dynnu o’r casgliad, ond ni chaiff ei ddileu o’ch cwrs.
  4. Dewiswch Cyflwyno. Ychwanegir y cwestiynau at y set o gwestiynau yn y Cynfas Profion.

Golygu setiau o gwestiynau

Ar Cynfas y Prawf, edrychwch am y set o gwestiynau. Bydd y set o gwestiynau'n dangos nifer y cwestiynau yn y set, a nifer y cwestiynau i'w dangos. Un yw'r rhagosodiad.

Gallwch newid y rhif ym mlwch Nifer y Cwestiynau i'w Dangos.

Ym mlwch Pwyntiau fesul cwestiwn, teipiwch y pwyntiau gall myfyrwyr eu hennill ar gyfer pob cwestiwn yn y set. Er enghraifft, os byddwch yn ei osod i 10, a bod y set cwestiwn yn cyflwyno 2 allan o 5 cwestiwn, mae gan y set cwestiwn gyfanswm o 20 pwynt y gall myfyrwyr eu hennill am bob ateb cywir. Ni allwch bennu gwerthoedd pwyntiau gwahanol ar gyfer cwestiynau unigol yn yr un set o gwestiynau. Felly, efallai byddwch am gynnwys cwestiynau gyda lefel anhawster debyg yn unig.

Oherwydd fformat ar hap y setiau o gwestiynau, defnyddiwch bwyll pan fyddwch yn cyfeirio at gynnwys neu rifau cwestiynau penodol. Bydd y cwestiynau sy'n ymddangos yn newid gyda phob ymgais.

Ychwanegu cwestiynau at y set:

O'r set o gwestiynau, ehangwch Cwestiynau yn y Set. Dewiswch Ychwanegu Cwestiynau.

Yn y ffenestr naid, defnyddiwch y meini prawf i chwilio a dewis y cwestiynau i'w hychwanegu at y cwestiynau sydd eisoes yn y set. Dewiswch Cyflwyno.

Tynnu cwestiynau o'r set:

Dewiswch y cwestiynau a dewiswch Tynnu'r Cwestiwn. Caiff y cwestiwn ei dynnu o'r set, ond ni fydd yn cael ei dileu o'ch cwrs.