Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Gallwch bennu bod detholiad o gwestiynau ar hap yn cael ei gyflwyno bob tro mae myfyriwr yn cymryd y prawf.

Pan fyddwch yn creu prawf yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol, gallwch ddefnyddio blociau ar hap er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn derbyn fersiwn gwahanol o'r prawf. Mae blociau ar hap yn tynnu cwestiynau o gasgliadau yn unig, felly mae rhaid ichi greu o leiaf un casgliad o gwestiynau yn gyntaf.

Terminoleg asesiadau'r Wedd Cwrs Ultra a’r Wedd Cwrs Gwreiddiol

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i enwau nodweddion asesu sy’n seiliedig ar ymchwil defnyddwyr a safonau cyfredol y diwydiant. Mae’r Wedd Cwrs Ultra yn cynnwys y derminoleg newydd sy’n alinio â safonau cyfredol.

Mae’r tabl hwn yn rhestru enwau nodweddion cwestiynau asesiadau yn y ddwy wedd cwrs.

Terminoleg Ultra a Gwreiddiol mewn asesiadau
Gwedd Cwrs Ultra Gwedd Cwrs Gwreiddiol
Cronfa gwestiynau Bloc ar hap a set cwestiynau
Banc cwestiynau Cronfa gwestiynau
Dadansoddi cwestiynau Dadansoddiad eitem

Ynghylch blociau ar hap

  • Mae blociau ar hap yn tynnu cwestiynau o gasgliadau yn unig. Gallwch ddefnyddio mwy nag un gronfa i dynnu eich cwestiynau oddi wrthi. Rhaid i chi greu o leiaf un casgliad o gwestiynau yn gyntaf.
  • Ni allwch ychwanegu bloc o gwestiynau ar hap o brawf neu arolwg arall.
  • Ni allwch gynnwys bloc ar hap mewn arolwg neu gasgliad.
  • Byddwch yn dewis nifer y cwestiynau i'w dangos o'r bloc ar hap. Er enghraifft, gallwch ddangos 3 chwestiwn allan o 50. Caiff y cwestiynau eu dosbarthu ar hap felly bydd pob myfyriwr yn gweld gwahanol set o 3 chwestiwn.
  • Gallwch hefyd ddangos yr holl gwestiynau yn y bloc ar hap i'r myfyrwyr. Byd y cwestiynau mewn trefn ar hap ar gyfer pob myfyriwr.

Setiau o Gwestiynau neu Flociau Ar Hap

Er bod setiau o gwestiynau a blociau ar hap yn cyflwyno cwestiynau ar hap i fyfyrwyr, mae yna wahaniaethau penodol rhwng y ddau:

  • Gallwch ddewis eich cwestiynau eich hun o unrhyw brawf, arolwg a chasgliad ar gyfer setiau o gwestiynau. Mae blociau ar hap yn tynnu cwestiynau o gasgliadau yn unig, felly ni allwch gynnwys cwestiynau o brofion neu arolygon eraill.
  • Gallwch chwilio am gwestiynau a phori metaddata i greu setiau o gwestiynau. Ni allwch chwilio am gwestiynau na phori metaddata pan fyddwch yn creu blociau ar hap.
  • Gallwch chi ddileu cwestiynau mewn setiau o gwestiynau. Caiff y cwestiwn ei dynnu o'r set, ond ni fydd yn cael ei dileu o'ch cwrs. Ni allwch chi ddileu cwestiynau o fewn bloc ar hap. Os nad ydych eisiau i gwestiwn gael ei gynnwys yn eich bloc ar hap, tynnwch y cwestiwn o'r casgliad mae'n rhan ohono.

Ar ôl i chi wneud eich dewisiadau, rydych yn gosod yr un pwyntiau posib i'r holl gwestiynau yn y set neu floc. I bennu gwerth pwyntiau gwahanol i gwestiwn, mae angen i chi ychwanegu'r cwestiwn ar ei ben ei hun y tu allan i floc neu set.


Creu bloc ar hap o gwestiynau

Pan fyddwch yn ychwanegu cwestiynau fel bloc ar hap, bydd dolen yn cael ei chreu i bob cwestiwn, nid copi ohonynt. Felly, os byddwch yn newid y cwestiwn gwreiddiol, bydd fersiwn diwygiedig y cwestiwn yn ymddangos.

Os yw wedi'i alluogi, sicrhewch eich bod yn analluogi'r rhwystrwr ffenestri naid ar gyfer Blackboard Learn er mwyn i chi allu cael mynediad at ffenestr naid Creu Bloc Ar Hap.

  1. Ewch i'r prawf. O ddewislen Ailddefnyddio Cwestiynau, dewiswch Creu Bloc Ar Hap.
  2. Yn y ffenestr naid, dewiswch y blychau ticio ar gyfer un casgliad neu ragor.
  3. Dewiswch flwch ticio ar gyfer o leiaf un math o gwestiwn er mwyn ei gynnwys. Bydd yr holl gwestiynau sy'n bodloni'r meini prawf hynny yn ymddangos.
  4. Dewiswch Cyflwyno. Bydd Cynfas y Prawf yn ymddangos ac yn dangos neges o lwyddiant. Ychwanegir yr hapfloc at y prawf.
  5. Dewiswch Nifer y Cwestiynau i'w dangos er mwyn mynd i'r blwch naid a theipiwch nifer y cwestiynau rydych eisiau i fyfyrwyr eu gweld. Dewiswch Cyflwyno.
  6. Dewiswch Pwyntiau fesul cwestiwn i fynd i'r blwch naid. Teipiwch wrth pwynt. Pennir y gwerth pwynt hwn i bob cwestiwn yn y bloc ar hap. Ni allwch bennu gwerthoedd pwyntiau gwahanol ar gyfer cwestiynau unigol yn yr un bloc ar hap. Felly, efallai byddwch am gynnwys cwestiynau gyda lefel anhawster debyg yn unig.
  7. Dewiswch Gweld rhagolwg o'r cwestiynau sy'n bodloni'r meini prawf a ddewiswyd er mwyn ehangu neu gwympo'r rhestr o gwestiynau. Gallwch edrych ar a golygu cwestiynau unigol.

Ni allwch chi ddileu cwestiynau o fewn bloc ar hap. Os nad ydych eisiau i gwestiwn gael ei gynnwys yn eich bloc ar hap, tynnwch y cwestiwn o'r casgliad mae'n rhan ohono.


Golygu a dileu blociau ar hap

Ewch i ddewislen bloc ar hap i'w olygu neu ddileu. Ar Cynfas y Prawf, gallwch newid gwerth pwyntiau pob cwestiwn yn y bloc ar hap neu nifer y cwestiynau rydych eisiau eu defnyddio yn y prawf.