Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Gall cwestiynau gael eu hysgrifennu all-lein mewn ffeil tesun arbennig a’i llwytho i fyny i brofion, arolygon a chronfeydd cwestiwn.
Ar ôl ichi uwchlwytho ffeil, mae modd ichi olygu’r cwestiynau a’u defnyddio nhw yn union fel y cwestiynau rydych chi wedi’u creu o fewn eich cwrs.
Cyn ichi ddechrau arni
- Rhaid i’r cwestiynau a’r ffeiliau rydych chi am eu huwchlwytho fodloni’r canllawiau sydd wedi’u nodi ar gyfer y pwnc hwn.
- Bydd cwestiynau sy'n cynnwys gwall yn methu uwchlwytho. Bydd cwestiynau heb wallau yn llwytho i fyny'n llwyddiannus.
- Dydy’r system ddim yn gwirio am gwestiynau dyblyg.
- Mae’r cwestiynau a gaiff eu huwchlwytho yn derbyn y gwerth pwyntiau sydd wedi’i bennu ar eu cyfer yn awtomatig ar ôl cael eu huwchlwytho. Os wnaethoch chi ddim pennu gwerth ar gyfer y cwestiynau, caiff sero ei bennu yn werth pwyntiau awtomatig. Bydd angen i chi ychwanegu gwerth pwyntiau ar gyfer pob cwestiwn.
Llunio ffeil cwestiwn er mwyn ei uwchlwytho
Canllawiau fformat y ffeil
Rhaid i bob ffeil sy’n cynnwys cwestiynau i’w huwchlwytho gydymffurfio â’r canllawiau hyn:
- Rhaid i bob ffeil fod yn ffeil TXT wedi'i gwahanu gyda thabiau. Mae modd ichi olygu’r ffeil hwn gyda Microsoft® Excel® neu gyda golygydd testun.
- Mae Blackboard yn argymell na ddylai pob ffeil swp fod yn hwy na 500 o gofnodion, a hynny oherwydd cyfyngiadau ar faint o amser y mae’r rhan fwyaf o borwyr yn ei ganiatáu wrth uwchlwytho ffeiliau.
- Peidiwch â chynnwys pennawd yn y ffeil.
- Peidiwch â chynnwys llinellau gwag rhwng cofnodion. Bydd y llinell wag yn cael ei phrosesu ac yn dychwelyd gwall.
- Cynhwyswch un cwestiwn yn unig y rhes.
- Mae’r maes cyntaf ym mhob rhes yn diffinio math y cwestiwn.
- Dylech chi sicrhau bod pob maes mewn rhes yn ymddangos ar wahân gan ddefnyddio TAB.
- Mae rhaid i correct, incorrect, true, false a geiriau eraill sy'n nodi atebion fod yn Saesneg.
Canllawiau ar fformat y cwestiynau
Fel bod modd ei uwchlwytho’n llwyddiannus, rhaid i’r cwestiwn yn y ffeil testun gyfateb â’r canllawiau yn y tabl hwn.
Wrth uwchlwytho cwestiwn i arolwg, mae'r dynodiad ateb correct|incorrect yn cael ei anwybyddu, ond mae rhaid i’r ffeil ddilyn yr un fformat a ddisgrifiwyd ar gyfer profion a chronfeydd.
Bydd cwestiynau sy'n cynnwys gwall yn methu uwchlwytho. Bydd cwestiynau heb wallau yn llwytho i fyny'n llwyddiannus.
Math o Gwestiwn | Strwythur |
---|---|
Amlddewis | MC TAB question text TAB answer text TAB correct|incorrect TAB answer two text TAB correct|incorrect Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Amlddewis. Yr uchafswm o atebion yw 100. |
Ateb Lluosog | MA TAB question text TAB answer text TAB correct|incorrect TAB answer two text TAB correct|incorrect Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Amlateb. Yr uchafswm o atebion yw 100. |
Gwir/Gau | TF TAB question text TAB true|false |
Traethawd | ESS TAB question text TAB [example] Mae testun mewn [ ] yn ddewisol. Mae modd ichi ddewis cynnwys sampl neu adael y maes hwn yn wag. |
Trefnu | ORD TAB question text TAB answer text TAB answer two text Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Trefnu. Yr uchafswm o atebion yw 100. Y drefn sydd wedi’i nodi yn y ffeil yw’r drefn gywir. Bydd y system yn trefnu'r atebion ar hap. |
Cyfatebol | MAT TAB question text TAB answer text TAB matching text TAB answer two text TAB matching two text Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Cyfatebu. Yr uchafswm o atebion yw 100. Bydd y system yn trefnu'r atebion a'u cwestiwn ar hap. Wrth uwchlwytho cwestiwn cyfatebol, rhaid i chi sicrhau bod cysylltiad un-i-un rhwng y cwestiynau a’r atebion. Os nad oes, gall atebion cywir gael eu marcio'n anghywir os yw'n gwerth gan fwy nag un ateb. |
Llenwch y Bylchau | FIB TAB question text TAB answer text TAB answer two text Gellir ailadrodd testun mewn ( ) ar gyfer pob un o’r atebion sy’n rhan o’r cwestiwn Llenwi'r Bwlch. Yr uchafswm o atebion yw 100. |
Llenwi Cwestiwn Llenwi Bylchau | FIB_PLUS TAB question text TAB variable1 TAB answer1 TAB answer2 TAB TAB variable2 TAB answer3 Mae’r fformat yn cynnwys rhestr o atebion newidiol lle mae pob ateb newidiol yn cynnwys enw’r newidyn a rhestr o atebion cywir ar gyfer y newidyn hwnnw. Caiff atebion newidiol eu cyfyngu gan faes gwag. Uchafswm nifer y newidynnau yw 10. |
Ymateb Ffeil | FIL TAB question text |
Ymateb Rhifol | NUM TAB question text TAB answer TAB [optional]tolerance |
Ateb Byr | SR TAB question text TAB sample answer |
Graddfa Barn/Tebygolrwydd | OP TAB question text Yr uchafswm o atebion yw 100. |
Brawddeg Anghyflawn | JUMBLED_SENTENCE TAB question text TAB choice1 TAB variable1 TAB choice2 TAB TAB choice3 TAB variable2 Mae'r fformat yn cynnwys rhestr o ddewisiadau ateb. Mae pob ateb dewisol yn cynnwys dewis, wedi’i ddilyn gan restr o newidynnau lle mae’r dewis hwnnw yn ateb cywir. Mae maes gwag yn dynodi diwedd y dewis o atebion. Mae dewis sydd â maes gwag yn syth ar ei ôl yn nodi bod y dewis ddim yn ateb cywir ar gyfer unrhyw newidyn. Yr uchafswm o atebion yw 100. |
Bowlen Gwis | QUIZ_BOWL TAB question text TAB question_word1 TAB question_word2 TAB phrase1 TAB phrase2 Mae’r fformat yn cynnwys rhestr o eiriau cwestiwn dilys wedi’u dilyn gan faes gwag a rhestr o ymadroddion ateb dilys. Uchafswm nifer y geiriau gofynnol yw 103. Uchafswm nifer yr ymadroddion ateb yw 100. |
Ffeil cwestiynau enghreifftiol
Uwchlwytho ffeil cwestiynau
- O’r prawf, arolwg neu gasgliad, dewiswch Uwchlwytho Cwestiynau.
- Dewiswch Pori er mwyn dod o hyd i’r ffeil.
- Mae modd ichi ddewis nodi rhif yn y blwch Pwyntiau fesul cwestiwn er mwyn gosod gwerth diofyn ar gyfer pob cwestiwn. Os byddwch chi’n gadael y maes hwn yn wag, yna sero fydd gwerth pob cwestiwn. Bydd modd ichi olygu’r gwerthoedd ar gyfer pob cwestiwn unigol nes ymlaen.
- Dewiswch Cyflwyno ac Iawn Mae’r cwestiynau yn ymddangos yn y prawf, yr arolwg neu’r casgliad. Gallwch olygu’r cwestiynau a newid eu trefn.