Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Creu cynnwys newydd ar gyfer eich cwrs gan ddefnyddio'r integreiddiad OneDrive

Mae Microsoft OneDrive yn eich galluogi i:

  • Atodi ffeiliau Office 365 gan gynnwys dogfennau Word, cyflwyniadau PowerPoint ac Excel o'r Golygydd Testun Cyfoethog.
  • Gweld a threfnu eich ffeiliau Microsoft Office personol
  • Creu cydweithrediadau lle gall aelodau eich cwrs ymgysylltu â'i gilydd mewn amser real
  • Creu mynediad darllen yn unig at ffeiliau Office 365 wedi'u plannu yn eich cwrs

Agor ffeil o OneDrive

Mae angen i'ch gweinyddwr gofrestru'r offeryn OneDrive LTI ar gyfer Learn yn y Panel Gweinyddydd, cyn i chi allu defnyddio OneDrive.

Mae Microsoft OneDrive wedi cael ei integreiddio â'ch cyrsiau Blackboard Learn Gwreiddiol ac os yw wedi'i alluogi, bydd yn caniatáu i chi ychwanegu ffeiliau o OneDrive at unrhyw eitem o gynnwys gan ddefnyddio golygydd testun cyfoethog llawn y cwrs Gwreiddiol. Gall y rheini gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • Ffolderi
  • Modiwlau Dysgu
  • Eitem
  • Cynllun Gwers

I ddefnyddio OneDrive, efallai bydd angen i chi fewngofnodi i gyfrif Microsoft i weld a dewis ffeiliau.

Sut i ychwanegu ffeiliau o OneDrive yn eich cwrs

  1. Yn eich cwrs Gwreiddiol, ewch i faes cynnwys o ddewislen eich cwrs a dewiswch greu un o'r eitemau a restrir uchod. Os yw eich cynnwys eisoes ar gael, dewiswch Golygu  ar gyfer y cynnwys.
  2. O'r Golygydd Testun Cyfoethog a ddangosir, gwnewch yn siŵr bod yr opsiynau ychwanegol wedi'u dangos drwy ddewis yr eicon â thri dot. Dewiswch y symbol plws crwn i ddangos y ddewislen Ychwanegu Cynnwys.
    Rich Text Editor displayed. The three-dot icon and the round plus symbol to display the Add Content menu are shown
  3. Dewiswch Atodiad Microsoft OneDrive.
    Select Microsoft OneDrive Attachment from the Add Content menu available
  4. Os nad ydych wedi mewngofnodi i Microsoft, efallai bydd angen gwneud hynny cyn symud ymlaen. Defnyddiwch wybodaeth eich cyfrif Microsoft arferol a dilynwch y cyfarwyddiadau a ddarparwyd.
  5. Unwaith eich bod wedi mewngofnodi, byddwch yn gweld eich lle OneDrive, lle bydd modd i chi ddewis y ffeil yr hoffech ei hychwanegu at eich cwrs.
    OneDrive space, where you can select the file you’d like to add to your course from a list of files
  6. Bydd y ffeil yn ymddangos yn y Golygydd Testun Cyfoethog. Dewiswch Cyflwyno i gwblhau'r newidiadau i'ch cynnwys.
  7. Bydd dewis enw'r ffeil yn agor y ffeil a bydd yn caniatáu i chi weld y ffeil. Dewiswch Golygu Dogfen  i olygu'r ddogfen yn fyw o fewn Office 365.

Ychwanegir y ffeil fel ffeil wedi'i phlannu a darllen-yn-unig ar gyfer myfyrwyr.

Creu ffeil gydweithredol OneDrive

Mae angen i'ch gweinyddwr gofrestru'r offeryn OneDrive LTI ar gyfer Learn yn y Panel Gweinyddydd, cyn i chi allu defnyddio OneDrive.

Mae dogfennau cydweithredol yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gael ymgysylltu â myfyrwyr eraill yn ogystal â chynnwys y cwrs. Fel hyfforddwr, gallwch greu dogfen gydweithredol Microsoft OneDrive yng nghyrsiau Learn Gwreiddiol.

Y mathau o ffeiliau a gefnogir ar gyfer dogfennau newydd yw:

  • Microsoft Word
  • Microsoft Excel
  • Microsoft PowerPoint

Sut i greu ffeil gydweithredol OneDrive

  1. Yn eich cwrs Gwreiddiol, ewch i faes cynnwys o ddewislen eich cwrs a dewiswch Creu i greu un o'r eitemau a restrir uchod. Os yw eich cynnwys eisoes ar gael, dewiswch Golygu  i addasu'r cynnwys.
  2. O'r Golygydd Testun Cyfoethog a ddangosir, gwnewch yn siŵr bod yr opsiynau ychwanegol wedi'u dangos drwy ddewis yr eicon â thri dot. Dewiswch y symbol plws crwn i ddangos y ddewislen Ychwanegu Cynnwys.
    Rich Text Editor displayed. The three-dot icon and the round plus symbol to display the Add Content menu are shown
  3. Dewiswch Creu dogfen OneDrive gydweithredol
    Adding Microsoft Cloud Collaboration document in Learn Original
  4. O'r panel a ddangosir, gallwch ddewis Creu ffeil gydweithredol newydd sbon gan ddewis o Word, PowerPoint neu Excel, neu gallwch ddewis Dewis Ffeil sydd Eisoes yn Bodoli i bori eich ffeiliau.
    Start a new collaboration
  5. Dewiswch Cadw unwaith cwblheir y broses.
  6. Bydd y ffeil yn ymddangos yn y Golygydd Testun Cyfoethog. Dewiswch Cyflwyno  i gwblhau'r newidiadau i'ch cynnwys.
  7. Dewiswch enw'r ffeil i'w hagor, ac i'w gweld. Bydd dewis Golygu Dogfen yn lansio Office 365 ac yn caniatáu i chi olygu mewn amser real.
  8. Bydd gan fyfyrwyr ganiatâd i weld a golygu'r ffeil hon hefyd. Gallant ddewis "Golygu Dogfen" i ddechrau cydweithio ar y ddogfen.
    A new collaborative file is created and students can see it and edit it to work collaboratively