Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Sgroliwch drwy'ch ffrwd newyddion addysgol!

Mae'r ffrwd gweithgarwch hynod gyfredol yn eich caniatáu i neidio'n syth i mewn i weithrediadau cwrs. Nid oes angen i chi bori trwy'r system, chwilio am derfynau amser neu golli aseiniadau.

Eich sefydliad sy'n rheoli pa dudalen rydych yn ymweld ag yn gyntaf ar ôl i chi fewngofnodi.

Derbyn atgoffwyr. Gweld terfynau amser sydd ar ddod neu aseiniadau, profion a thrafodaethau graddedig hwyr.

Gwirio'ch graddau. Pryd bynnag mae'ch hyfforddwr yn graddio aseiniad, prawf neu drafodaeth raddedig, gallwch gael mynediad at y radd yn eich ffrwd. Os yw'ch hyfforddwr yn diweddaru gradd, caiff y radd ei diweddaru yn y ffrwd hefyd.

Dysgwch i jyglo. Cael golwg oddi uchod o'ch tasgau dros bob un o'ch cyrsiau - yna, eu blaenoriaethu!

Hidlo'ch gwedd. Defnyddiwch ddewislen Hidlo a dewiswch Dangos y Cwbl, Aseiniadau a Phrofion neu Graddau ac Adborth.

Bydd eich cyrsiau'n ymddangos mewn un o ddwy wedd, gan ddibynnu ar yr hyn a ddewisir gan eich hyfforddwyr. Efallai byddwch yn gweld rhai o'r gweithgareddau yn y ffrwd yn y ddwy wedd. I ddysgu mwy, edrychwch ar Llywio Cwrs.


Categorïau’r ffrwd gweithgarwch

Caiff eitemau'r Ffrwd gweithgarwch eu grwpio ym mhedwar categori i'w gwneud yn haws i chi sganio'r rhestr:

Pwysig: Gweld aseiniadau, profion a thrafodaethau graddedig hwyr. Mae’r nifer o eitemau a ddangosir yn yr adran hon yn cyfrannu at y cyfrif a ddangosir gan y Ffrwd Gweithgarwch yn y rhestr lle mae’ch enw yn ymddangos. Os byddwch yn diystyru eitem yn yr adran hon, ni fyddwch yn gallu ei weld eto hyd yn oed os ydych yn allgofnodi ac yn mewngofnodi eto. Pan fyddwch yn diystyru eitem yn y ffrwd, nid yw hyn yn effeithio ar y cynnwys gwreiddiol. Y cwbl rydych yn gwneud yw tynnu'r hysbysiad o'r ffrwd gweithgarwch.

Ar ddod: Gweld eich pum prif ddigwyddiad sy'n digwydd yn y saith niwrnod nesaf. Dewiswch Dangos Mwy am restr gyflawn. Nid yw'r adran hon yn ymddangos os does dim digwyddiadau ar ddod ar gael.

Heddiw: Gweld popeth sy'n digwydd ac sy'n ddyledus yn y 24 awr nesaf, gan gynnwys cyhoeddiadau ar draws y sefydliad am hysbysiadau a diweddariadau brys. Os yw'ch hyfforddwyr wedi ychwanegu cyhoeddiadau, maen nhw'n ymddangos yma neu yn yr adran Diweddar.

Diweddar: Os nad ydych wedi mewngofnodi am dipyn, gallwch weld eitemau ffrwd a oedd yn yr adran Heddiw yn flaenorol dros y saith niwrnod diwethaf.


Personoli'ch ffrwd

Ar eich tudalen Ffrwd Gweithgarwch, dewiswch yr eicon Gosodiadau Frwd i agor y panel Gosodiadau Hysbysiadau. Gallwch gyrchu'r gosodiadau hyn o'ch tudalen broffil hefyd.

Rhagor am eich tudalen proffil.

Mae'r system hysbysiadau ymlaen trwy'r amser yn y profiad Ultra. Gallwch ddewis pa hysybysiadau rydych yn eu derbyn am weithgarwch ym mhob un o'ch cyrsiau Gwreiddiol ac Ultra:

  • Ffrwd gweithgarwch: Dewiswch ba weithgareddau sy'n ymddangos ar dudalen eich Ffrwd.
  • E-bost: Os ydych eisiau derbyn hysbysiadau e-bost, ychwanegwch gyfeiriad e-bost at eich tudalen proffil. Yna, dewiswch ba mor aml ac am ba weithgareddau rydych eisiau derbyn hysbysiadau.
  • Negeseuon testun: Os ydych eisiau derbyn negeseuon testun ar eich ffôn symudol, ychwanegol rif ffôn i'ch tudalen proffil. Yna, dewiswch ba mor aml ac am ba weithgareddau rydych eisiau derbyn hysbysiadau.
  • Hysbysiadau gwthio: Bydd negeseuon yn ymddangos ar eich dyfais symudol os ydych wedi gosod ap Blackboard i fyfyrwyr.

Rhagor am osod eich hysbysiadau


Mae'r ddwy wedd cwrs yn ymddangos yn y ffrwd gweithgarwch

Mae'r ffrwd gweithgarwch yn dangos beth sy'n digwydd yn eich cyrsiau, os yw'r cwrs yn defnyddio'r Wedd Cwrs Wreiddiol neu Ultra.

Ar gyfer y Wedd Cwrs Ultra, mae'r digwyddiadau hyn yn sbarduno hysbysiadau yn eich ffrwd gweithgarwch:

  • Cyhoeddiadau cwrs a sefydliadol
  • Cyrsiau neu gyfundrefnau newydd ar gael
  • Mae eich hyfforddwyr wedi ychwanegu cynnwys at eich cyrsiau, megis aseiniadau, profion, trafodaethau, dogfennau, pecynnau SCORM a dolenni
  • Eich hyfforddwr wedi postio gradd ar gyfer eich gwaith
  • Eich hyfforddwr wedi ychwanegu digwyddiadau at eich cwrs
  • Eitemau sy'n ddyledus heddiw
  • Eitemau sy'n ddyledus yn fuan
  • Eitemau sy'n hwyr
  • Pethau sy'n digwydd heddiw
  • Digwyddiadau sy'n digwydd yn fuan

Ar gyfer y Wedd Cwrs Gwreiddiol, mae'r digwyddiadau hyn yn sbarduno hysbysiadau yn eich ffrwd gweithgarwch:

  • Cyrsiau newydd sydd ar gael
  • Eich hyfforddwyr wedi ychwanegu cynnwys at eich cyrsiau, megis aseiniadau a phrofion
  • Rydych wedi ychwanegu blog, cofnod dyddlyfr neu dudalen wiki newydd
  • Eich hyfforddwyr wedi postio graddau ar gyfer eich gwaith
  • Eich hyfforddwyr wedi ychwanegu digwyddiadau at eich cyrsiau
  • Eitemau sy'n ddyledus heddiw
  • Eitemau sy'n ddyledus yn fuan
  • Eitemau sy'n hwyr
  • Pethau sy'n digwydd heddiw
  • Digwyddiadau sy'n digwydd yn fuan