Ynglŷn â gosodiadau hysbysiadau

Os welwch restr lle mae'ch enw yn ymddangos, mae'ch cyrisau'n ymddangos ym mhrofiad Ultra. Mae'r system hysbysiadau ymlaen o hyd.

Ar banel Gosodiadau Hysbysiadau eich ffrwd gweithgarwch, gallwch ddewis pa hysbysiadau derbyniwch chi am weithgareddau ym mhob un o'ch cyrsiau Gwreiddiol ac Ultra:

  • Ffrwd gweithgarwch: Dewiswch ba weithgareddau sy'n ymddangos ar dudalen eich Ffrwd.
  • E-bost: Os ydych eisiau derbyn hysbysiadau e-bost, ychwanegwch gyfeiriad e-bost at eich tudalen proffil. Yna, dewiswch ba mor aml ac am ba weithgareddau rydych eisiau derbyn hysbysiadau.
  • Negeseuon testun: Os ydych eisiau derbyn negeseuon testun ar eich ffôn symudol, ychwanegol rif ffôn i'ch tudalen proffil. Yna, dewiswch ba mor aml ac am ba weithgareddau rydych eisiau derbyn hysbysiadau.
  • Hysbysiadau gwthio: Bydd negeseuon yn ymddangos ar eich dyfais symudol os ydych wedi gosod ap Blackboard i fyfyrwyr. Gallwch ddewis pa hysbysiadau sy’n cael eu hanfon at eich dyfais.

Rhagor am eich tudalen proffil.


Dewis sut a phryd rydych yn cael hysbysiadau

Gallwch ddewis pa fathau o hysbysiadau a dderbyniwch a sut rydych eisiau eu derbyn.

Ar eich tudalen Ffrwd Gweithgarwch, dewiswch yr eicon Gosodiadau Frwd i agor y panel Gosodiadau Hysbysiadau. Gallwch gyrchu'r gosodiadau hyn o'ch tudalen broffil hefyd.

Hysbysiadau'r ffrwd

Gallwch reoli pa weithgareddau sy'n ymddangos yn eich ffrwd. Dewiswch dab Gosodiadau Hysbysiadau'r Ffrwd i agor y panel.

Mae hysbysiadau ar gyfer dyddiadau cyflwyno, graddau ac adborth yn ymddangos yn eich ffrwd bob tro.

Dewiswch ba hysbysiadau derbyniwch am weithgareddau ym mhob un o'ch cyrsiau Gwreiddiol ac Ultra:

  • Cyhoeddiadau'r sefydliad
  • Cyhoeddiadau cwrs
  • Eitemau wedi’u graddio yn ddyledus
    • Eitem wedi’i graddio yn ddyledus yn fuan
    • Eitem wedi’i graddio yn hwyr
  • Cynnwys newydd
    • Ychwanegwyd asesiad
    • Ychwanegwyd cynnwys
  • Postiwyd graddau
  • Trafodaeth newydd
  • Fy ngraddau a gweithgarwch
    • Dim gweithgarwch diweddar
    • Gradd yn isel neu mewn perygl
    • Gradd wedi gostwng
    • Gweithgarwch cwrs isel
    • Gradd wedi cynyddu
    • Gweithgarwch cwrs yn y 10% uchaf
    • Gradd yn y 10% uchaf
  • Digwyddiad calendr newydd
  • Cwrs neu gyfundrefn newydd
  • Gweithgarwch blog
    • Postiwyd cofnod blog
    • Golygwyd cofnod blog
  • Gweithgarwch dyddlyfr
    • Postiwyd cofnod dyddlyfr
    • Golygwyd cofnod dyddlyfr
  • Gweithgarwch Wici
    • Crëwyd tudalen Wiki
    • Golygwyd tudalen Wiki
    • Postiwyd sylw Wiki

Gallwch ddewis derbyn pob hysbysiad neu rai hysbysiad o fath penodol. Mae tic yn ymddangos pan ydych chi'n dewis pob hysbysiad. Mae llinell yn ymddangos pan ydych yn dewis rhai hysbysiadau.

Hysbysiadau e-bost

Dewiswch dab Gosodiadau Hysbysiadau E-bost i agor y panel.

Os nad ydych wedi ychwanegu cyfeiriad e-bost at eich tudalen proffil, ni fyddwch yn gweld unrhyw opsiynau yn nhab Gosodiadau Hysbysiadau E-bost.

Ni fydd gweithgareddau mudiadau yn sbarduno hysbysiadau e-bost.

Dewiswch ba mor aml rydych eisiau derbyn e-byst ar gyfer gweithgareddau ym mhob un o'ch cyrsiau Gwreiddiol ac Ultra:

  • Anfon e-bost ataf ar unwaith: Derbyn hysbysiad unigol ar gyfer pob gweithgarwch dewiswch chi o'r rhestr.
  • E-bostiwch fi unwaith y diwrnod: Caiff yr holl hysbysiadau eu casglu a'u hanfon unwaith y diwrnod ar amser a bennir gan eich sefydliad.

Yn y rhestr Hysbyswch fi ar e-bost am y gweithgareddau hyn, dewiswch ba hysbysiadau rydych eisiau eu derbyn:

  • Eitemau a raddir newydd
  • Negeseuon newydd
  • Negeseuon trafodaeth newydd
  • Cynnwys newydd a ychwanegwyd
  • Dyddiadau dyledus newydd ac ar ddod
  • Eitemau dyledus hwyr
  • Cyrsiau newydd ar gael

Cliriwch yr holl flychau ticio os nad ydych eisiau derbyn e-byst am y gweithgareddau yn y rhestr.

Hysbysiadau gweithgarwch cwrs yn ôl gwedd cwrs
Gweithgarwch Cwrs Gwedd Cwrs Gwreiddiol Gwedd Cwrs Ultra
Eitemau a raddir newydd Aseiniadau, profion ac arolygon

Gweithgarwch mewn blogiau, dyddlyfrau, wikis neu drafodaethau
Aseiniadau a phrofion
Negeseuon newydd Ie Ie
Negeseuon trafodaeth newydd Caiff y rhain eu hanfon yn yr dyddiol yn unig Caiff y rhain eu hanfon yn yr dyddiol yn unig
Cynnwys newydd a ychwanegwyd Aseiniadau, profion ac arolygon a ychwanegwyd

Eitemau cynnwys a ychwanegwyd
Aseiniadau a phrofion a ychwanegwyd

Eitemau cynnwys a ychwanegwyd
Dyddiadau cyflwyno newydd ac i ddod

Fe'i anfonir pan fydd asesiad ar gael a 24 awr cyn y dyddiad cyflwyno

Hefyd, fe'i anfonir pan fyddwch yn creu eitem a ychwanegwyd â llaw sydd â dyddiad cyflwyno
Aseiniadau, profion ac arolygon dyledus

Eitemau dyledus: Eitemau a ychwanegwyd â llaw yn eich Canolfan Raddau
Aseiniadau a phrofion dyledus

Eitemau dyledus: Eitemau a ychwanegwyd â llaw yn eich Llyfr Graddau
Eitemau dyledus hwyr Aseiniadau a phrofion hwyr

Arolygon hwyr
Aseiniadau a phrofion dyledus hwyr
Cyrsiau newydd ar gael Ie Ie

Hysbysiadau neges destun

Dewiswch dab Gosodiadau Hysbysiadau Neges Destun i agor y panel.

Os nad ydych wedi ychwanegu rhif ffôn at eich tudalen proffil, ni fyddwch yn gweld unrhyw opsiynau yn nhab Gosodiadau Hysbysiadau Neges Destun.

Ni fydd gweithgareddau sefydliad yn sbarduno hysbysiadau neges destun.

Yn rhestr Hysbysu fi trwy neges destun am y gweithgareddau hyn, dewiswch ba hysbysiadau rydych eisiau eu derbyn:

  • Graddau ac adborth newydd
  • Negeseuon newydd

Cliriwch yr holl flychau ticio os nad ydych eisiau derbyn negeseuon testun am y gweithgareddau yn y rhestr.

Hysbysiadau gweithgarwch cwrs yn ôl gwedd cwrs
Gweithgarwch Cwrs Gwedd Cwrs Gwreiddiol Gwedd Cwrs Ultra
Graddau ac adborth newydd Aseiniadau, profion ac arolygon

Gweithgarwch mewn blogiau, dyddlyfrau, wikis neu drafodaethau
Aseiniadau a phrofion
Negeseuon newydd Ie Ie

Hysbysiadau gwthio

Os ydych wedi gosod yr ap symudol Blackboard, gallwch dderbyn hysbysiadau gwthio ar eich dyfais symudol. Gallwch reoli pa hysbysiadau gwthio sy’n cael eu hanfon yn y moddau hyn:

  • Blackboard ar y we: Mewngofnodi i Blackboard ar borwr gwe a llywio i’ch Ffrwd Gweithgarwch. Dewiswch yr eicon Gosodiadau'r Ffrwd. O'r panel Gosodiadau Hysbysiadau, dewiswch y tab Gosodiadau Hysbysiadau Gwthio.
  • Ap Blackboard: Ym mhrif ddewislen yr ap, tapiwch ar Gosodiadau. Rheoli hysbysiadau gwthio yn yr ap.

Dewiswch ba hysbysiadau gwthio rydych eisiau eu derbyn am weithgareddau ym mhob un o'ch cyrsiau Gwreiddiol ac Ultra:

  • Cynnwys newydd
  • Cyhoeddiadau trafod ac ymatebion gan eich hyfforddwr
  • Ymatebion i drafodaeth mewn trywydd lle rydych yn awdur
  • Graddau ac adborth newydd
  • Dyddiadau cyflwyno ar gyfer y mathau o gynnwys hyn yn unig
    • Profion
    • Aseiniadau
    • Trafodaethau
    • Colofnau Gradd â Llaw
  • Atgoffwyr dyddiadau cyflwyno ychwanegol - gallwch osod rhagor o atgoffwyr am nifer o ddyddiau penodol cyn dyddiadau cyflwyno

Mae hysbysiadau gwthio dyddiadau cyflwyno yn ymddangos un diwrnod cyn y dyddiadau cyflwyno bob tro ac ni ellir eu diffodd fel mathau eraill o hysbysiadau gwthio.

Pan fydd hyfforddwr yn newid dyddiadau cyflwyno, cynhyrchir hysbysiad gwthio Prawf yn Ddyledus newydd. Nid yw’r hysbysiad gwthio yn dweud bod y dyddiadau cyflwyno wedi newid.