O'r llywio sylfaenol, mae eich Tudalen y Sefydliad o fewn cyrraedd bob tro. Tudalen y Sefydliad yw'r adnodd hanfodol ar gyfer eich cymuned academaidd. Dewch o hyd i adnoddau, dolenni defnyddiol, a chynnwys pwysig arall yn ymwneud â'ch sefydliad.

Dewiswch Tudalen y Sefydliad yn y llywio sylfaenol i weld y modiwlau mae gennych fynediad atynt.

Eich sefydliad sy'n rheoli pa dudalen rydych yn ei gweld ar ôl i chi fewngofnodi.


Anatomeg Tudalen y Sefydliad

Gall eich sefydliad bersonoli Tudalen y Sefydliad i gynnwys logo a delwedd baner bersonol. Mae enw eich sefydliad hefyd yn ymddangos ar frig y dudalen.

Mae'r modiwlau'n ymddangos dan y faner a'r wybodaeth am y sefydliad. Mae dau fath o fodiwl: Dolenni Defnyddiol a Cynnwys Personol.

Mae modiwl Dolenni Defnyddiol yn rhestr o ddolenni mae'ch sefydliad eisiau eu rhannu am bwnc, digwyddiad neu thema. Gall modiwl Dolenni Defnyddiol gynnwys delwedd baner, teitl a disgrifiad hefyd. Mae'r pedair dolen gyntaf yn y rhestr yn ymddangos yn y modiwl. I weld yr holl ddolenni, dewiswch Dangos y Cyfan. Bydd panel yn agor gyda phob un o'r dolenni mae’r modiwl hwnnw yn eu cynnwys.

Mae’r modiwl Cynnwys Personol yn ymddangos mewn modd gwahanol yn seiliedig ar sut mae'ch sefydliad yn ei osod. Gall y modiwl hwn gynnwys testun, dolenni, delweddau, fideos ac offer allanol y mae eich sefydliad yn eu defnyddio.


Beth sy'n ymddangos ar Dudalen y Sefydliad?

Gallwch ddod o hyd i adnoddau gwerthfawr ar gyfer eich sefydliad ar Tudalen y Sefydliad, ond efallai na fydd yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch. Gwiriwch Tudalen y Sefydliad yn rheolaidd i weld y wybodaeth ddiweddaraf.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ardaloedd eraill er mwyn cadw i fyny gyda'ch cyrsiau: