Cyhoeddiadau'r sefydliad

Mae cyhoeddiadau'r sefydliad yn ymddangos yn adran Heddiw y ffrwd gweithgarwch. Gallwch hefyd ganfod cyhoeddiadau ar y dudalen mewngofnodi.


Cyhoeddiadau cwrs

Mae cyhoeddiadau'n rhoi gwybodaeth bwysig, sy'n sensitif o ran amser.

Gall eich hyfforddwyr ddefnyddio cyhoeddiadau i rannu gwybodaeth bwysig â chi, megis nodau atgoffa am ddigwyddiadau cwrs a dyddiadau cyflwyno.

Mae cyhoeddiadau cwrs newydd yn ymddangos yn syth pan fyddwch yn mynd i mewn i gwrs. Mae angen i chi gau’r ffenestr Cyhoeddiadau Cwrs Newydd cyn i chi allu gweld cynnwys y cwrs. Ar ôl cau’r ffenestr, ni fydd yn ymddangos eto. Os yw eich hyfforddwr yn postio cyhoeddiadau newydd, bydd y ffenestr yn ymddangos eto gyda'r cyhoeddiadau newydd yn unig.

Os ydych eisiau adolygu cyhoeddiad blaenorol, dewiswch Gweld pob cyhoeddiad.

Ffrwd gweithgarwch

Mae cyhoeddiadau cwrs yn ymddangos yn yr adran Heddiw neu Diweddar o’r ffrwd gweithgarwch yn seiliedig ar bryd mewngofnodoch. Mae’r rhan fwyaf o gyhoeddiadau’n diflannu o’ch ffrwd gweithgarwch pan fyddwch yn eu gweld yn y cwrs.

Byddwch yn derbyn cyhoeddiad cwrs a hysbysiad yn y ffrwd gweithgarwch am grwpiau cwrs y mae angen i chi ymuno â nhw. Os nad ydych wedi ymuno, bydd y rhybudd yn aros yn y ffrwd gweithgarwch.

Tudalen Cynnwys y Cwrs

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch Cyhoeddiadau.  Gallwch weld pob cyhoeddiad gweithredol a threfnu yn ôl teitl neu ddyddiad cyhoeddi. I ddod o hyd i gyhoeddiad penodol, dewiswch Chwilio cyhoeddiadau a rhowch yr allweddeiriau.

Gall eich hyfforddwr ddewis dangos cyhoeddiad am gyfnod penodol o amser. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i gyhoeddiad yn yr archif, efallai ei fod wedi dod i ben.


Copi e-bost o gyhoeddiad

Efallai bydd eich hyfforddwyr yn e-bostio copïau o gyhoeddiadau pwysig atoch. Byddwch yn derbyn y negeseuon e-bost hyn os oes gennych gyfeiriad e-bost yn y system. Anfonir negeseuon e-bost am gyhoeddiadau bob tro ac nid ydynt yn cael eu rheoli gan y gosodiadau hysbysiadau cyffredinol.

Yn yr e-bost, mae cynnwys a blannir yn ymddangos fel dolenni. Gallwch ddewis y dolenni i weld y cynnwys.