Galluogi graddio dienw

Mae graddio dienw yn sicrhau graddio teg drwy leihau posibilrwydd tuedd wrth raddio. Caiff enwau myfyrwyr eu cuddio wrth i chi raddio a byddant dim ond yn cael eu datgelu ar ôl i chi gyhoeddi'r graddau. 

I alluogi'r opsiwn hwn, dewiswch Cuddio enwau myfyrwyr ym mhanel gosodiadau profion ac asesiadau.

The "Hide students names" option is selected.

Ni allwch olygu'r gosodiad Graddio dienw ar ôl i fyfyrwyr gyflwyno ymgeisiau neu agor yr asesiad.

Gosodiadau sy'n gydnaws â graddio dienw

Mae'r gosodiadau a nodweddion hyn yn gweithio gyda graddio dienw:

  • Dyddiad cyflwyno. Pan fydd dyddiad cyflwyno yn mynd heibio, bydd graddio dienw yn dal yn weithredol. 

  • Gwahardd cyflwyniadau hwyr. 

  • Gwahardd ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno. 

  • Ymgeisiau lluosog. 

  • Newid nifer yr ymgeisiau. 

  • Defnyddio opsiynau cyflwyniad. 

  • Caniatáu sgyrsiau dosbarth. 

  • Defnyddio asesiadau ffurfiannol 

  • Newid categori. 

  • Newid y nifer mwyaf o bwyntiau. 

  • Ychwanegu terfyn amser. 

  • Ychwanegu cyfarwyddyd graddio. 

  • Ychwanegu dau raddiwr fesul myfyriwr. 

  • Alinio â nodau.

  • SafeAssign: Mae canlyniadau yn cael eu cuddio tra bod graddio dienw wedi'i alluogi. Ar ôl i chi gyhoeddi graddau, fe ddangosir yr enwau a gallwch weld yr Adroddiadau Gwreiddioldeb. 

Gosodiadau nad ydynt yn gydnaws â graddio dienw

Nid yw'r gosodiadau a nodweddion hyn yn gweithio gyda graddio dienw:

  • Casglu cyflwyniadau all-lein. 

  • Adolygu gan gyfoedion.

  • Cyhoeddi graddau asesiad yn awtomatig.

  • Gosodiadau canlyniadau asesiad - ar gyfer asesiadau dienw, bydd graddau ac adborth ar gael unwaith bod y graddau wedi'u cyhoeddi. 

Rhagor am greu aseiniadau


Ymgeisiau dienw lluosog

Gallwch ganiatáu i fyfyrwyr gyflwyno ymgeisiau lluosog pan fyddwch yn galluogi graddio dienw. Caiff enwau myfyrwyr eu cuddio ar gyfer pob ymgais. Yn y llyfr graddau, gallwch weld sawl ymgais mae pob myfyriwr wedi'i gyflwyno a sawl ymgais sydd gennych i'w graddio.

Rhagor am ymgeisiau lluosog


Rheoli ymgeisiau a graddio dienw 

  • Gallwch ddilysu bod myfyriwr wedi gwneud cyflwyniad drwy chwilio am y dderbynneb cyflwyniad mae'r myfyriwr wedi'i rhoi i chi drwy'r swyddogaeth chwilio am dderbynneb cyflwyniad yn y llyfr graddau. 
  • Gallwch roi eithriad i fyfyrwyr ar ffurf ymgais ychwanegol neu ddyddiad cyflwyno estynedig o'r dudalen fanwl ar gyfer myfyrwyr yn y llyfr graddau.  
  • Gallwch esgusodi myfyriwr rhag yr asesiad o'r dudalen fanwl ar gyfer y myfyriwr yn y llyfr graddau.  

I gadw manylion myfyrwyr yn ddienw, mae'r dangosyddion cymwysiadau, eithriadau ac esgusodiadau dim ond yn cael eu dangos yn y trosolwg myfyrwyr, gwedd grid a gwedd rhestr myfyrwyr.

Rhagor am reoli ymgeisiau


Graddio cyflwyniadau dienw

Gallwch ddechrau graddio'n uniongyrchol o'r dudalen Cyflwyniadau dienw. Ar frig y dudalen, fe welwch neges sy'n rhoi gwybod i chi fod graddio dienw ar waith. 

The Submissions page is open with the submission list on screen. The notification that indicates the anonymous grading is in progress is highlighted.

Mae'r rhestr cyflwyniadau dim ond yn cynnwys cofnodion ar gyfer y myfyrwyr sydd wedi gwneud cyflwyniad. Cuddir unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod myfyriwr nes i chi gyhoeddi'r graddau. Mae silwét yn cymryd lle lluniau proffil ac mae Myfyriwr Anhysbys a rhif yn cymryd lle enwau myfyrwyr, er enghraifft Myfyriwr Anhysbys 244260. Mae'r cyflwyniadau wedi'u rhestru mewn trefn ar hap - nid yn ôl y dyddiad cyflwyno. Gallwch weld a threfnu cyflwyniadau yn ôl gradd ar dudalen y cyflwyniadau dienw. Mae hyn yn ddefnyddiol er mwyn helpu i adnabod ac adolygu cyflwyniadau sy'n agos i ffin gradd er mwyn i chi allu gwneud unrhyw addasiadau cyn cyhoeddi'r graddau. 

Mae myfyrwyr yn cael eu rhestru hyd yn oed os oes ganddynt gymwysiadau, eithriadau neu esgusodiadau. 

Mae nifer y cyflwyniadau allan o'r cyfanswm posib yn ymddangos ar dop y dudalen. Gallwch hefyd weld sawl un rydych wedi'u graddio ym mhennawd I'w Cyhoeddi

Rhagor am raddio aseiniadau


 Cyflwyniadau hwyr

Ni chaiff graddio dienw ei hanalluogi ar ôl y dyddiad cyflwyno. Mae cyflwyniadau hwyr yn cael ei labelu fel Myfyriwr Anhysbys nes i chi eu graddio a chyhoeddi'r graddau.

The submissions list is open with a late submission message written on red bellow the anonymous student code.

Cyhoeddi pob gradd 

Pan fyddwch wedi gorffen graddio, dewiswch Cyhoeddi pob gradd yn y faner ar frig y dudalen. Sylwer y ddaw anhysbysrwydd myfyrwyr i ben unwaith eich bod yn cyhoeddi'r graddau. Nid oes modd dad-wneud y weithred hon. 

Bydd Cyhoeddi pob gradd dim ond yn ymddangos i rolau sydd â'r hawl hwnnw. Er enghraifft, nid yw Graddiwr yn gallu cyhoeddi'r holl raddau nac analluogi graddio dienw. 

Byddwch yn cael neges i gadarnhau os oes gennych ymgeisiau i'w graddio o hyd neu os yw rhai myfyrwyr heb gyflwyno eu hymgeisiau. Ar ôl i chi gyhoeddi'r holl raddau, caiff graddio dienw ei hanalluogi a bydd enwau'r myfyrwyr yn cael eu datgelu. Mae'r weithred hon yn derfynol ac nid oes modd ei dad-wneud, ond bydd yn dal modd i chi ddiweddaru graddau a gyhoeddwyd a graddio cyflwyniadau hwyr. 

Byddwch hefyd yn cael neges i gadarnhau os ydych yn ceisio cyhoeddi'r holl raddau cyn gorffen graddio neu os oes cyflwyniadau heb eu cyflwyno. 


Anhysbysrwydd yn y llyfr graddau

Caiff hunaniaeth myfyrwyr ei hamddiffyn pan fyddwch yn graddio'n ddienw: 

  • ni ddefnyddir sgoriau mewn colofnau a gyfrifir nes i chi gyhoeddi'r graddau a dod â'r anhysbysrwydd i ben, 
  • nid ydynt yn ymddangos mewn adroddiadau gweithgarwch myfyrwyr nes i chi gyhoeddi'r graddau a dod â'r anhysbysrwydd i ben, 
  • nid yw colofnau ar gael i'w dewis pan fyddwch yn lawrlwytho data'r llyfr graddau. 

Asesiadau dienw yn y wedd rhestr

O wedd rhestr y llyfr graddau, dewiswch deitl yr aseiniad neu brawf i agor y dudalen cyflwyniadau a dechrau graddio. Byddwch yn gweld neges sy'n rhoi gwybod i chi fod graddio dienw ar waith.

Mae'r rhestr cyflwyniadau dim ond yn cynnwys rhestr o'r myfyrwyr hynny sydd wedi gwneud cyflwyniad. Cuddir yr holl wybodaeth am fyfyrwyr nes i chi gyhoeddi'r graddau. Mae silwét yn cymryd lle eu lluniau proffil ac mae'r myfyrwyr hynny sydd wedi cyflwyno'r gwaith yn cael eu henwi yn Myfyriwr Anhysbys a rhif , er enghraifft Myfyriwr Anhysbys 244260. Mae'r cyflwyniadau mewn trefn ar hap - nid yn ôl trefn y dyddiad cyflwyno.

Mae nifer y cyflwyniadau allan o'r cyfanswm posib yn ymddangos ar dop y dudalen. Gallwch hefyd weld sawl un rydych wedi'u graddio ym mhennawd I'w Cyhoeddi.

Cyflwyniadau dienw yn y wedd grid

Yng ngwedd grid y llyfr graddau, mae pennawd y golofn yn rhestru sawl cyflwyniad rydych wedi eu graddio. Mae'r label Dienw yn ymddangos yng nghell pob myfyriwr ac ni allwch weld pa fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno'r gwaith. Os byddwch yn pwyntio at gell, bydd y neges hon yn ymddangos: Gorffennwch raddio i ddiffodd yr anhysbysrwydd a chyhoeddi'r holl raddau.

The Gradebook page is open in its grid view. The "Finish grading to turn off anonymity and post all grades" message is on screen.

Asesiadau dienw yn y trosolwg myfyrwyr 

Gallwch gyrchu'r Trosolwg Myfyriwr ar gyfer myfyriwr penodol drwy ddewis enw'r myfyriwr hwnnw yn y llyfr graddau. Mae Trosolwg Myfyriwr yn un lle i gael gwybodaeth berthnasol am berfformiad myfyriwr. 

Os byddwch yn dewis asesiad dienw ar dudalen y trosolwg myfyriwr, bydd ffenestr naid yn rhoi gwybod i chi bod graddio dienw wedi'i galluogi. 

Weithiau, mae myfyrwyr yn wynebu sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau sy'n gwneud cwblhau asesiad, fel cyflwyno gwaith cwrs neu sefyll prawf, yn anodd neu'n amhosibl iddynt. Os bydd amgylchiadau o'r fath yn codi, gallwch roi eithriad neu esgusodiad i'r myfyriwr gan ddefnyddio'r ddewislen gyd-destunol yn yr asesiad. 

Rhagor am reoli ymgeisiau


Gwedd myfyriwr

Pan fydd myfyrwyr yn agor yr asesiad, bydd y neges hon yn ymddangos.

Caiff yr asesiad hwn ei raddio'n ddienw. Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol, megis eich enw.

Student view of an assignment with the anonymous alert.

Trosi cyrsiau a graddio dienw

Pan fyddwch yn trosi eich cwrs Gwreiddiol yn gwrs Ultra, bydd asesiadau cyfredol heb unrhyw gwestiynau'n cadw'r gosodiad graddio dienw. Caiff unrhyw raddau asesiadau eu tynnu yn ystod y trosi.

Rhagor am drosi'ch cwrs