Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r cyfeirebau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Mae cyfarwyddiadau'n gallu helpu sicrhau graddio cyson a diduedd a helpu myfyrwyr i ffocysu ar eich disgwyliadau.

Offeryn sgorio yw cyfarwyddyd y gallwch ei ddefnyddio i werthuso gwaith a raddir. Wrth greu cyfarwyddyd, rydych yn rhannu’r gwaith a neilltuwyd yn ddarnau. Gallwch ddarparu disgrifiadau clir o nodweddion y gwaith sy’n gysylltiedig â phob rhan, ar lefelau amrywiol o ran medr.

Gall myfyrwyr ddefnyddio’r cyfarwyddyd i roi trefn ar eu hymdrechion i fodloni gofynion y gwaith sydd wedi’i raddio. Wrth roi mynediad at gyfarwyddiadau i fyfyrwyr cyn iddynt gwblhau eu gwaith, rydych yn darparu tryloywder o ran eich dulliau graddio.

Creu cyfarwyddyd

Gallwch greu nifer o gyfarwyddiadau yn eich cwrs. Mae cyfarwyddiadau yn cynnwys rhesi a cholofnau. Mae'r rhesi'n cyfateb i’r meini prawf. Mae'r colofnau'n cyfateb i'r lefel cyflawniad a fynegwyd sy’n disgrifio pob maen prawf. Mae gan gyfarwyddiadau newydd dair rhes a thair colofn.

Ar ôl creu cyfarwyddiadau, gallwch eu cysylltu â’r cynnwys.

Panel Rheoli > Offer y Cwrs > Cyfarwyddiadau

  1. Ar y dudalen Cyfarwyddiadau, dewiswch Creu Cyfarwyddyd. Teipiwch deitl a disgrifiad opsiynol.
  2. Dewiswch Ychwanegu Rhes i ychwanegu maen prawf newydd i waelod y grid.
  3. DewiswchYchwanegu Colofn i ychwanegu lefel newydd o gyrhaeddiad i’r grid.
  4. Dewiswch Math o Gyfarwyddyd o’r ddewislen:
    • Dim Pwyntiau: Darparu adborth yn unig.
    • Pwyntiau: Mae gan bob lefel o gyrhaeddiad werth pwynt unigol.
    • Amrediad Pwyntiau: Mae gan bob lefel o gyrhaeddiad amrediad o werthoedd.
    • Canran: Mae pwyntiau posib pob eitem yn pennu’r ganran.
    • Amrediad Canran: Mae gan bob lefel o gyrhaeddiad amrediad o werthoedd. Pan fyddwch yn graddio, dewiswch y lefel ganran briodol am lefel benodol o gyrhaeddiad. Mae'r system yn cyfrif y pwyntiau a enillwyd drwy luosi'r pwysau x canran cyflawniad x pwyntiau'r eitem.
  5. I newid teitl rhes neu golofn, cyrchwch dewislen pennawd a dewiswch Golygu. Teipiwch y teitl newydd a dewiswchCadw.
  6. Teipiwch werth pwynt neu ganran ar gyfer pob rhes a cholofn.
  7. Teipiwch ddisgrifiad ar gyfer y maen prawf a’r lefel cyflawniad cysylltiedig. Mae terfyn 1,000 nod ym mhob cell.
  8. Dewiswch Cyflwyno.

Gallwch aildrefnu rhesi a cholofnau. Dewiswch y pennawd Meini Prawf neu Lefel Cyflawniad, sy’n agor panel aildrefnu.

Unwaith y defnyddiwch gyfarwyddyd ar gyfer graddio, ni allwch ei olygu. Gallwch gopïo'r cyfarwyddyd i greu cyfarwyddyd dyblyg y gallwch ei olygu.

Rhagor am raddio â chyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau Seiliedig ar Ganran

Pan fyddwch yn dewis cyfarwyddiadau sy’n seiliedig ar ganran, dewiswch o’r opsiynau canlynol:

  • Blwch ticioDangos Pwysau Meini Prawf: Dangos neu guddio pwysau meini prawf. Os ydych yn ychwanegu rhesi ychwanegol pan guddir pwysau, dosbarthir pwysau ar gyfer meini prawf newydd yn gyfartal.
  • Cydbwyso Pwysau: I’w defnyddio ar ôl i chi ychwanegu rhes newydd i gadw’r holl feini prawf wedi’u pwyso’n gyfartal. Os yw'n well gennych bwysoli meini prawf unigol, teipiwch ganrannau ar gyfer pob maen prawf. Rhaid i chi ddewis y blwch ticio Dangos Pwysau Meini Prawf er mwyn i Cydbwyso Pwysau ymddangos.

Mae'n rhaid i gyfanswm yr holl bwysau ddod i 100%. Ni all pwysau unrhyw res fod yn 0%. Mae’n rhaid i o leiaf un lefel cyflawniad fod â gwerth o 100%.


Cysylltu Cyfarwyddyd

Gallwch gysylltu cyfarwyddydau â’r mathau hyn o gynnwys a raddir:

  • Aseiniadau
  • Cwestiynau Traethawd, Ateb Byr, ac Ymateb Ffeil
  • Blogiau a dyddlyfrau
  • Wikis
  • Fforymau bwrdd trafod ac edafedd

Gallwch hefyd gysylltu cyfarwyddyd ag unrhyw golofn Canolfan Raddau nad yw wedi’i chyfrifo. Er enghraifft, gallwch gysylltu cyfarwyddiadau â cholofn a grëwyd â llaw ar gyfer cyfranogiad y dosbarth a defnyddio’r cyfarwyddiadau er mwyn graddio cyfranogiad. Cyrchwch ddewislen colofn a dewiswch Golygu Gwybodaeth y Golofn.

I gysylltu â chyfarwyddiadau, cyrchwch y ddewislen Ychwanegu Cyfarwyddiadau a dewiswch un o’r opsiynau canlynol:

  • Dewiswch Gyfarwyddyd o’r rheini rydych wedi’u creu.
  • Mae Creu Cyfarwyddyd Newydd yn agor ffenestr er mwyn i chi allu creu cyfarwyddyd.
  • Mae Creu O Gyfarwyddyd Presennol yn defnyddio cyfarwyddyd presennol fel templed i greu cyfarwyddyd newydd.

Yn y golofn Teipio, gallwch neilltuo cyfarwyddyd fel Defnyddio ar gyfer Graddio neu Defnyddio ar gyfer Gwerthuso Eilradd. Os ydych chi’n cysylltu sawl cyfarwyddyd, gallwch dim ond defnyddio un fel y prif gyfarwyddyd graddio.

Mae ganDangos Cyfarwyddyd i Fyfyrwyr bedwar opsiwn ar gyfer gwelededd y cyfarwyddyd:

  • Na: Ni all myfyrwyr weld y cyfarwyddyd.
  • Ie (Gyda Sgôr Cyfarwyddyd): Gall myfyrwyr weld y cyfarwyddyd pan fyddwch yn trefnu bod eitem ar gael, gan gynnwys gwerthoedd pwynt neu ganran posib.
  • Ie (Heb Sgôr Cyfarwyddyd): Gall myfyrwyr weld y cyfarwyddyd pan fyddwch yn trefnu bod eitem ar gael, gan gynnwys gwerthoedd pwynt neu ganran posib.
  • Ar Ôl Graddio: Gall myfyrwyr weld y cyfarwyddyd dim ond ar ôl i chi orffen graddio eu gwaith a gyflwynwyd.

Ar gyfer cyfarwyddiadau sy’n seiliedig ar ganran, teipiwch y pwyntiau posib. Ar gyfer cyfarwyddiadau sy’n seiliedig ar bwyntiau, gofynnir i chi ddefnyddio gwerth pwyntiau’r cyfarwyddyd fel pwyntiau posib yr eitem.

Ymdrinnir â gwerthoedd pwyntiau ar gyfer cwestiynau profion yn y prif brawf neu cynfas y gronfa. Mae’r cyfarwyddydau sy’n seiliedig ar bwyntiau a chanran yn addasu eu cyfrifiadau i gyd-fynd â’r gwerth pwyntiau a neilltuwyd ar gyfer y cwestiwn prawf. Mae cwestiynau rydych wedi’u cysylltu â’r cyfarwyddyd yn ymddangos gydag eicon y cyfarwyddyd wrth ymyl y blwch pwyntiau.


Gwedd myfyrwyr o gynnwys â chyfeireb

Gall myfyrwyr ddewis Gweld y Cyfarwyddyd a gweld y meini prawf graddio cyn iddynt gyflwyno eu gwaith. Gallant symud ffenestr y cyfarwyddyd wrth ymyl y cynnwys er mwyn gweld y cyfarwyddyd ochr yn ochr â’r meini prawf.

Yng Ngwedd Rhestr y cyfarwyddyd, os na ddewisoch opsiwn ar gyfer maen prawf cyn teipio adborth, ni chadwyd yr adborth pan cadwoch y cyfarwyddyd.

Ar gyfer aseiniad

Ar gyfer cwestiwn prawf


Rheoli cyfarwyddiadau

Cyrchwch ddewislen cyfarwyddyd i olygu, copïo neu ddileu’r cyfarwyddyd. Gallwch hefyd Gweld Cynnwys Cysylltiedig i weld yr eitemau y mae cyfarwyddyd yn gysylltiedig â nhw.

Gallwch gopïo cyfarwyddyd i’ch myfyrwyr os oes gennych chi eitem debyg i raddio a fydd yn defnyddio’r un meini prawf. Gallwch gadw’r gosodiadau ac ailenwi’r cyfarwyddyd. Gallwch hefyd gopïo cyfarwyddyd pan fyddwch am olygu cyfarwyddyd sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio. Caiff gopi ei greu gyda’r un teitl gan ychwanegu’r rhif 1: "Araith Ragarweiniol(1)."

Rheoli cyfarwyddiadau cysylltiedig

Pan fyddwch yn golygu eitem gyda chyfarwyddyd cysylltiedig, gallwch newid opsiynau’r cyfarwyddyd.

Yn yr adran Cyfarwyddiadau Cysylltiedig, mae gennych y swyddogaethau rheoli hyn:

  • Mae Tynnu Cysylltiad Cyfarwyddyd yn tynnu’r cysylltiad â chyfarwyddyd ond nid yw’n dileu’r cyfarwyddyd ei hun. Gallwch dynnu cyfarwyddyd o asesiad rydych wedi’i raddio a bydd y graddau’n aros. Nid yw’r graddau wedi’u cysylltu â’r cyfarwyddyd mwyach, ond bellach maent yn ymddangos fel graddau a ychwanegwyd gennych â llaw.
  • Mae Gweld y Cyfarwyddyd yn agor rhagolwg na allwch ei olygu, gyda dolen i weld eitemau cysylltiedig ac argraffu’r cyfarwyddyd.
  • Mae Golygu y Cyfarwyddyd yn agor y cyfarwyddyd cysylltiedig er mwyn i chi allu ei olygu. Os ydych chi eisoes wedi defnyddio’r cyfarwyddyd ar gyfer graddio, ni allwch ei olygu.