Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Rhannu cyfarwyddiadau
Gallwch rannu cyfarwyddiadau rhwng gwahanol gyrsiau Blackboard Learn. Os ydych yn dysgu sawl cwrs, gallwch greu cyfarwyddyd mewn un cwrs, a’i hallgludo, wedyn ei mewngludo i mewn i gwrs arall. Gallwch rannu’r ffeil a allgludwyd â hyfforddwyr eraill hefyd, fel bod modd iddynt ei defnyddio yn eu cyrsiau Blackboard Learn. Os yw eich cyfarwyddyd yn fwy na 15 x 15, dim ond y bymtheg rhes neu golofn gyntaf sy'n cael eu trosglwyddo i gwrs Ultra ar yr adeg hon.
Mae angen i chi wneud pob newid i gyfarwyddiadau mewn cwrs Blackboard Learn. Peidiwch â gwneud newidiadau i'r ffeil ZIP a allgludwyd.
Panel Rheoli > Offer y Cwrs > Cyfarwyddiadau
I fewngludo cyfarwyddyd, dewiswch Mewngludo Cyfarwyddyd a phorwch am y ffeil. PwyswchCyflwyno i uwchlwytho’r ffeil.
-NEU-
I allgludo cyfarwyddyd, ticiwch y blwch wrth ymyl teitl y cyfarwyddyd a dewiswch ‘Allgludo’. Gallwch ei chadw ar eich cyfrifiadur neu yn y Casgliad o Gynnwys, os oes gennych fynediad ato.