Mae pecyn mewngludo cwrs yn cynnwys ffeil ZIP o gynnwys y cwrs a allgludwyd. Wrth fewngludo pecyn cwrs i mewn i gwrs sydd eisoes yn bodoli, copiir cynnwys y pecyn i’r cwrs hwnnw. Nid yw pecynnau mewngludo yn cynnwys manylion ymrestru myfyrwyr na’u data, megis manylion am eu gweithgarwch mewn trafodaethau na'u graddau.

Nid ydych eisiau uwchlwytho pecyn cwrs a allgludwyd ac a olygwyd gennych ar ôl iddo gael ei greu a’i lawrlwytho. Pe baech yn agor y ffeil gywasgedig a newid unrhyw un o’r ffeiliau yn y pecyn cwrs a allgludwyd, byddai problemau’n codi wrth geisio’i fewngludo.

Mewngludo pecyn cwrs

Panel Rheoli > Offer a Gwasanaethau > Mewngludo Pecyn/Gweld Cofnodion > Mewngludo Pecyn

Ar y dudalen Mewngludo Pecyn, porwch am y pecyn cwrs ar eich cyfrifiadur. Dewiswch y deunyddiau cwrs perthnasol a phwyswch ‘cyflwyno’.

Ynghylch Meysydd Cynnwys

Caiff cynnwys o feysydd cynnwys sy’n ymddangos ar ddewislen y cyrsiau ac sydd â’r un enw yn pecyn ag yn y cwrs presennol ei ychwanegu at yr un maes cynnwys. Ni chaiff dim ei ddileu o’r cwrs a’i ddisodli â chynnwys o’r pecyn. Atodir cynnwys wedi ei fewngludo at gynnwys presennol yn yr un maes cynnwys.

Ynghylch Fforymau Trafod

Dylech chi gynnwys gostiadau dechreuol ar gyfer pob edefyn ymhob fforwm (a hynny yn ddienw), neu dylech chi gynnwys y fforymau hynny sydd heb byst dechreuol yn y copi o’r cwrs.

Ynghylch dolenni at gyrsiau

Caiff dolenni at rannau o gyrsiau sydd heb eu mewngludo eu torri pan fydd y dolenni hyn yn ymddangos yn y cwrs cyrchfan. Er enghraifft, os bydd dolen at brawf yn ymddangos mewn maes cynnwys ac rydych chi’n penderfynu peidio â chopïo profion, bydd y ddolen at y prawf yn torri.

Ynghylch graddio dirprwyedig

Pan fyddwch yn mewngludo cwrs heb ymrestriadau i mewn i gwrs sydd eisoes yn bodoli, bydd y gosodiad dirprwyo yn cael ei alluogi ar gyfer pob aseiniad y mae graddio dirprwyedig yn berthnasol iddo. Mae'r holl ddefnyddwyr sy'n gallu cysoni hefyd yn gallu graddio'r holl gyflwyniadau.

Am ddata presenoldeb

Mae allgludo/mewngludo yn creu colofn presenoldeb na allwch ei dileu, ond nid ychwanegir data presenoldeb ati.

Rhagor am bresenoldeb ac allgludo/mewngludo


Gweld cofnodion mewngludo

Panel Rheoli > Offer a Gwasanaethau > Mewngludo Pecyn/Gweld Cofnodion

Yng ngholofn Mewngludo Enw Cofnod, dewiswch ddolen y pecyn.

Mae opsiynau i e-bostio a lawrlwytho'r ffeil cofnodi ar gael. Gallwch hefyd wneud pob manylyn ffeil cofnodi'n fwy i edrych ar fwy o wybodaeth.


Pecynnau Common Cartridge

Mae Common Cartridge yn fenter dan arweiniad IMS Global Learning Consortium. Mae’r fenter yn cefnogi pecynnau cwrs y gallwch eu defnyddio ardraws systemau rheoli dysgu (LMS) fel Blackboard Learn.

Mwy am y fformat common cartridge