Opsiynau copïo cwrs

Copïo Deunyddiau Cwrs i mewn i Gwrs Newydd: Mae copïo deunyddiau cwrs i gwrs newydd yn creu cwrs yn y system ac yn ei phoblogi â chynnwys o gwrs sydd eisoes yn y system. Bydd dewislen y cwrs sydd wedi’i phennu yn y cwrs ffynhonnell yn disodli’r ddewislen wreiddiol yn y cwrs newydd.

Copïo Deunyddiau Cwrs i mewn i Gwrs Presennol: Bydd copïo deunyddiau cwrs i mewn i gwrs presennol yn ychwanegu cynnwys i gwrs, ond ni fydd yn dileu cynnwys presennol. Gallwch gopïo deunyddiau i mewn i gwrs yn unig os oes rôl hyfforddwr, cynorthwy-ydd addysgu (TA), neu adeiladydd cwrs gennych.

Copïo Cwrs gyda Defnyddwyr (Copi Union). Copïwch cofnodion defnyddwyr megis graddau a chyhoeddiadau trafodaeth i mewn i gwrs newydd. Ciaff bopeth yn y cwrs ei gopïo cwrs newydd yn union fel y mae’n ymddangos yn y cwrs presennol. Ar gyfer adrannau lluosog, gallwch wneud copi union yr un fath ac wedyn dadgofrestru myfyrwyr penodol i greu dwy adran o'r un cwrs.

Data presenoldeb

Ni chynhwysir data presenoldeb wrth ichi gopïo cwrs i gwrs newydd neu gwrs presennol. Tynnir yr opsiwn presenoldeb o’r opsiynau copïo.

Cynhwysir data presenoldeb mewn copi union o gwrs.

Rhagor am bresenoldeb a chopïo cwrs


Copïo cwrs

  1. Cyrchwch y cwrs rydych am ei gopïo.
  2. Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Pecynnau a Chyfleustodau a dewiswch Copïo Cwrs.
  3. Dewiswch yr opsiwn priodol:
    • Copïwch Ddeunyddiau Cwrs i mewn i Gwrs Newydd
    • Copïwch Ddeunyddiau Cwrs i mewn i Gwrs sy’n Bodoli
    • Copïo Cwrs gyda Defnyddwyr (Union Gopi)
  4. Yn y blwch ID Cyrchfan y Cwrs, teipiwch ID Cwrs ar gyfer y cwrs newydd a gaiff ei greu a'i boblogi â chynnwys o'r cwrs presennol. Sicrhewch fod ID y cwrs newydd yn cyd-fynd â'r confensiwn enwi a ddefnyddir yn eich sefydliad. Ni all y ID cwrs gynnwys bylchau neu nodau heblaw am rifau a llythrennau (A-Z), llinell doriad (-), tanlinell (_), ac atalnod llawn (.). Rhaid i ID y cwrs fod yn unigryw ac aros yn statig. Ar ôl i chi greu'r cwrs sydd wedi'i gopïo, ni allwch olygu ID y cwrs.
  5. Os byddwch yn dewis Copïo Deunyddiau Cwrs i Gwrs Newydd neu Copïo Deunyddiau Cwrs i Gwrs Cyfredol, dewiswch y deunyddiau cwrs rydych chi eisiau eu copïo draw.

    Ni all gweithred copïo cwrs gael ei gwblhau os na fyddwch yn dewis o leiaf un o'r meysydd hyn: Cynnwys, Cysylltiadau, neu Gosodiadau. Os na fyddwch yn dewis un, bydd rhybudd yn ymddangos ac ni all Blackboard Learn greu cwrs newydd.

  6. Yn yr adran Atodiadau Ffeil, dewiswch yr opsiwn i gopïo dolenni i:
    • Copïo dolenni i Ffeiliau Cwrs: Ni chynhwysir copïau o ffeiliau cysylltiedig yn y copi. Bydd gan y cwrs sydd wedi'i gopïo yr un set o ddolenni. Bydd y dolenni hynny yn pwyntio yn ôl at leoliad gwreiddiol y ddolen a ddiffiniwyd yn y cwrs gwreiddiol.
    • Copïo dolenni a chopïau o’r cynnwys: Gwnewch gopïau o ffeiliau cysylltiedig, ond dim ond y ffeiliau hynny sy'n gysylltiedig. Nid yw ffeiliau o fewn ffolder hafan y cwrs nad ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw gynnwys o fewn y cwrs yn gynwysedig yn y copi.
    • Copïwch ddolenni a chopïau o'r cynnwys (dylech gynnwys y ffolder hafan cyfan): Gwnewch gopïau o'r holl ffeiliau yn ffolder hafan y cwrs ni waeth p'un a yw'r ffeiliau hynny yn gysylltiedig â chynnwys y cwrs.

      Mae angen caniatâd rheoli arnoch ar eitem i gynnwys copïau o'r ffeiliau hynny. Os nad oes gennych y caniatâd hwn, mae'n bosibl y byddwch yn methu rhai ffeiliau ar ôl y copi.

  7. Dewiswch y Ffolder ar gyfer Ffeiliau'r Casgliad o Gynnwys, os yw'n berthnasol.
  8. Dewiswch Ymrestriadau i gopïo’r rhestr ddefnyddwyr i'r cwrs. Ni chaiff cofnodion defnyddwyr, fel gweithgaredd trafod a graddau eu copïo. Dim ond os ydych chi'n dewis yr opsiwn Copïo Cwrs gyda Defnyddwyr (Union Gopi) y caiff cofnodion defnyddwyr eu copïo.
  9. Dewiswch Cyflwyno.

Ymddygiad deunydd a gopïwyd

Pan fyddwch yn copïo, cymhwysir argaeledd y cwrs ffynhonnell i'r cwrs cyrchfan. Os gosodir argaeledd y cwrs newydd i heb fod ar gael, ond bod y cwrs gwreiddiol ar gael, newidir argaeledd y cwrs newydd.

Pan fyddwch yn copïo deunyddiau cwrs, mae'r rhain yn digwydd:

  • Cynnwys: Copiir deunyddiau cwrs, gan gynnwys ffeiliau sydd wedi eu llwytho i fyny, modiwlau dysgu, a dolenni. Mae gwybodaeth am gyrsiau, dogfennau cwrs, aseiniadau, ac URLs yn ddewisol.

    Ni fydd aseiniadau a grëwyd o fewn cynlluniau gwersi yn copïo’n gywir. Cofiwch ychwanegu eich aseiniadau ar wahân fel bod popeth yn gywir.

  • Cyhoeddiadau: Copiir pob cyhoeddiad.
  • Profion, Arolygon a Chronfeydd: Copiir pob prawf ac arolwg, gan gynnwys cwestiynau ac opsiynau ar gyfer eu defnyddio. Copiir pob cronfa.
  • Calendr: Copiir pob eitem calendr i'r cwrs newydd.
  • Dyddiadau: Nid yw dyddiadau eitemau cwrs a theclynnau yn newid. I ddysgu sut mae i addasu dyddiadau yn gyflym, gweler Rheoli Dyddiadau.
  • Bwrdd Trafod: Dylech chi gynnwys gostiadau dechreuol ar gyfer pob edefyn ymhob fforwm (a hynny yn ddienw), neu dylech chi gynnwys y fforymau hynny sydd heb byst dechreuol yn y copi o’r cwrs.
  • Eitemau a Gosodiadau Canolfan Radd: Mae eitemau yn y Ganolfan Raddau a'u gosodiadau fel math, categorïau, ac opsiynau arddangos wedi eu copïo.
  • Gosodiadau Grŵp: Mae gosodiadau yn cynnwys enwau'r grwpiau, y gosodiadau ar gyfer argaeledd offer, ac enwau fforwm trafod.
  • Cysylltiadau Copiir pob cysylltiad.
  • Gosodiadau Cwrs: Os ydynt wedi'u dewis, caiff y gosodiadau hyn eu copïo:
    • Enw'r Cwrs
    • Disgrifiad o'r Cwrs
    • Mynedfa'r Cwrs
    • Cynllun Cwrs
    • Baner Cwrs
    • Offer Blackboard
    • Offer Bloc Adeiladu
    • Offer Cynnwys
    • ID y Cwrs
    • Argaeledd Cwrs
    • Mynediad i Westeion
    • Mynediad i Arsyllwyr
    • Hyd y Cwrs
    • Opsiynau Ymrestru
  • Dolenni: Bydd dolenni i rannau o gwrs nad ydynt wedi'u cynnwys yn y copi yn torri pan fydd y dolenni'n ymddangos yn y cwrs cyrchfan. Er enghraifft, os bydd dolen at brawf yn ymddangos mewn maes cynnwys ac rydych chi’n penderfynu peidio â chopïo profion, bydd y ddolen at y prawf yn torri.
  • Ardaloedd Cynnwys: Bydd cynnwys o feysydd cynnwys sy'n ymddangos ar ddewislen y cwrs sydd â'r un enw ymhob cwrs yn cael ei ychwanegu yn yr un maes cynnwys. Ni fydd unrhyw beth yn cael ei dynnu o'r cwrs newydd a'i ddisodli gyda chynnwys o'r cwrs gwreiddiol.
  • Ymrestriadau: Os dewisir cofrestriadau, copiir y rhestr o ddefnyddwyr yn y cwrs. Ni chaiff cofnodion defnyddwyr, megis gweithgarwch trafod a graddau eu copïo. Dim ond os ydych chi'n dewis yr opsiwn Copïo Cwrs gyda Defnyddwyr (Union Gopi).
  • Graddio dirprwyedig: Caiff graddwyr a gosodiadau eu cario drosodd i'r cwrs newydd pan fyddwch yn defnyddio'r rhain:
    • Copïo Cwrs gyda Defnyddwyr (Copi Union).
    • Copïo Deunyddiau Cwrs i Gwrs Newydd a dewiswch y blwch ticio ar gyfer cynnwys Ymrestriadau yn y Copi.
    • Archifo/adfer, gan fod defnyddwyr a'u gosodiadau'n rhan o gwrs a archifir.

    Gosodiad Dirprwyo Graddio Heb Gofrestriadau

    Wrth gopïo cwrs heb gofrestriadau i mewn i gwrs newydd, trosglwyddir y gosodiad dirprwyedig fel un wedi ei alluogi ar gyfer pob aseiniad graddau dirprwyedig presennol. Gosodir yr hyfforddwr sy'n copïo'r cwrs i raddio pob cyflwyniad a chysoni graddau.

    Wrth gopïo neu fewngludo cwrs heb gofrestriadau i mewn i gwrs sy'n bodoli'n barod, trosglwyddir y gosodiad dirprwyedig fel un wedi ei alluogi ar gyfer pob aseiniad graddio dirprwyedig presennol. Mae'r holl ddefnyddwyr sy'n gallu cysoni hefyd yn gallu graddio'r holl gyflwyniadau.


Cydrannu eitemau cwrs a gopïwyd

Wrth gopïo cynnwys ac offer o un cwrs i gwrs sy'n bodoli'n barod, bydd rhaid i ddewislen y cwrs gydrannu ei hun yn y cwrs newydd.

Sut y caiff eitemau eu cydrannu
Os Yna
Nid yw ardal gwrs yn y cwrs ffynhonnell yn bodoli yn y cwrs cyrchfan. Ychwanegir y maes at ddewislen y cwrs yn y cwrs newydd.
Mae gan ardal y cwrs yn y cwrs ffynhonnell ac ardal y cwrs yn y cwrs cyrchfan yr un enw ac maent o'r un math. Mae gan ardal y cwrs yn y cwrs ffynhonnell ac ardal y cwrs yn y cwrs cyrchfan yr un enw ac maent o'r un math.
Mae gan ardal y cwrs yn y cwrs ffynhonnell ac ardal y cwrs yn y cwrs cyrchfan yr un enw ac maent o'r un math. Ychwanegir maes y cwrs o'r cwrs gwreiddiol at y cwrs newydd o dan enw gwahanol. Bydd yr enw newydd yn ychwanegu rhifolyn cynyddol at yr enw. Er enghraifft, bydd Deunyddiau Cwrs yn dod yn Ddeunyddiau Cwrs 1.