Mae'r nodwedd archifo cwrs yn creu ciplun wedi ei rhewi neu gofnod parhaol o'ch cwrs. Mae archif yn cynnwys yr holl gynnwys, ystadegau cwrs, defnyddwyr, a rhyngweithiadau cwrs, fel postiadau blog, trafodaethau, data presenoldeb, a graddau.

Mae'r nodwedd allgludo cwrs yn creu ffeil ZIP o gynnwys eich cwrs y gallwch ei mewngludo i greu cwrs newydd. Yn annhebyg i'r nodwedd archifo cwrs, nid yw’r nodwedd allgludo cwrs yn cynnwys unrhyw ddefnyddwyr neu ryngweithiadau defnyddiwr â'r cwrs.

Bydd pecynnau wedi'u hallgludo a'u harchifo gan ddefnyddiwr yn dod i ben ac yn cael eu dileu'n awtomatig 30 diwrnod ar ôl y dyddiad creu. Rhoddir gwybod i chi y byddant yn dod i ben pan fyddant yn creu, yn lawrlwytho, ac yng ngwedd rhestr pecyn y cwrs ar gyfer y cwrs.

Allgludo cwrs

Mae'r nodwedd allgludo cwrs yn creu ffeil ZIP o gynnwys eich cwrs y gallwch ei mewngludo i greu cwrs newydd — heb unrhyw ddefnyddwyr na rhyngweithiadau defnyddwyr gyda’r cwrs. Mae’r allforyn ond yn cynnwys yr hyn rydych yn ei ddewis o’r rhestr. Noder na chynhwysir presenoldeb yn y rhestr.

Rhagor am bresenoldeb ac allgludo

Ni chynhwysir ffeiliau o fewn Ffeiliau Cwrs nad ydynt yn cael eu defnyddio yn y cwrs neu eu cysylltu yn y cwrs wrth allgludo.

Lawrlwythir pecynnau allgludo fel ffeiliau ZIP cywasgedig ac fe'u mewngludir yn yr un fformat. Peidiwch â dadsipio pecyn allgludo neu ddileu ffeiliau o'r pecyn, gan na fydd y cynnwys yn mewngludo’n gywir wedyn.

Panel Rheoli > Pecynnau a Gwasanaethau > Allgludo/Archifo Cwrs

  1. Ar y dudalen Allgludo/Archifo Cwrs, dewiswch Allgludo Pecyn.
  2. Ar y tudalen Allgludo Cwrs, cynhwyswch y dolenni'n unig i ffeiliau cwrs neu cynhwyswch y dolenni a chopïau o gynnwys ffeiliau'r cwrs.
    • Ar gyfer Copïo dolenni a chynnwys copïau o’r cynnwys, dewiswch Mesur Maint i sicrhau nad yw maint y pecyn yn fwy na’r Maint Pecyn a Ganiateir sydd wedi’i arddangos.
    • I dynnu ffeiliau a ffolderi o'r pecyn, dewiswch Rheoli Cynnwys Pecyn.
  3. Yn yr adran Dewis Deunyddiau Cwrs, dewiswch y blychau ticio ar gyfer pob maes cwrs ac offeryn i'w hallgludo.
    • Os byddwch yn dewis Bwrdd Trafod, penderfynwch p'un ai cynnwys postiadau a ddechreuwyd ar gyfer pob edefyn ymhob fforwm (yn ddienw) neu gynnwys fforymau'n unig heb bostiadau dechrau.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Mae’r adran Atodiadau Ffeil ar gael os oes gan eich sefydliad fynediad nodweddion rheoli cynnwys.


Fformat Cetrisen Gyffredin

Mae Common Cartridge yn fenter dan arweiniad IMS Global Learning Consortium. Mae’r fenter yn cefnogi pecynnau cwrs y gallwch eu defnyddio ardraws systemau rheoli dysgu (LMS) fel Blackboard Learn.

Gallwch allgludo pecynnau cwrs o getrisen gyffredin Blackboard Learn fformatau 1.0, 1.1, ac 1.2. Er mwyn galluogi ail-ddefnyddio mewn nifer eang o LMSs, cyfyngir y pecyn i nodweddion sydd ar gael i bawb. Ni chynhwysir mathau o gynnwys na gefnogir gan getrisen gyffredin pan allgludir a mewngludir cwrs mewn fformat cetrisen gyffredin.

  • Allgludir ffeiliau, eitemau, fforymau trafod, dolenni gwe (URLs), ac asesiadau, ond mae'n bosibl yr eithrir rhai cydrannau. Er enghraifft, allgludir pynciau mewn fforymau trafod, ond ni allgludir graddio, nad yw'n cael ei gefnogi gan LMSs arall.
  • Ar hyn o bryd nid yw safonau Cetrisen Gyffredin IMS yn cynnal pob math neu briodoledd cwestiwn asesiad, felly ni fydd profion a chronfeydd a allgludir yn cynnwys cwestiynau anghydnaws.

Mae cetrisen gyffredin yn allgludo cwrs i mewn i ffolder unigol o gynnwys. Wedyn, caiff pob ardal gynnwys ei hallgludo fel is-ffolder y tu mewn i brif ffolder y cwrs. Er enghraifft, rydych yn allgludo pecyn cetrisen cyffredin o gwrs Blackboard Learn ac wedyn yn ei ail-fewngludo. Mae gan eich cwrs un ardal cynnwys sy'n cynnwys ffolder ar gyfer pob ardal cynnwys gwreiddiol ac ardal cynnwys sy'n cynnwys dolenni i'r we.

Cysylltwch â'ch sefydliad i gael gwybodaeth fanwl am fanylebau cetrisen gyffredin.

Allgludo cwrs mewn fformat cetrisen gyffredin

Panel Rheoli > Offer a Gwasanaethau > Allgludo/Archifo Cwrs > Allgludo Pecyn Cetrisen Cyffredin > Cyflwyno

I allgludo'r pecyn ar fformat 1.1 neu 1.2 cetrisen gyffredin, dewiswch y blwch ticio priodol. Os na fyddwch yn dewis blwch ticio, bydd y cwrs yn allgludo mewn fformat cetrisen gyffredin 1.0. Mae'r fersiwn sydd yn well gennych yn dibynnu ar y system lle mewngludir y pecyn yn cefnogi fersiwn 1.1 neu 1.2.


Archifo cwrs

Mae nodwedd y cwrs archif yn creu cofnod parhaol o gwrs gan gynnwys holl rhyngweithiad cwrs a defnyddiwr. Cedwir cyrsiau sydd wedi eu harchifo fel ffeiliau ZIP. Pan fyddwch yn archifo cwrs, nid yw’n cael ei ddileu o’r system.

Cynhwysir pob ffeil o fewn y cwrs yn yr archif, hyd yn oed os nad oedd ffeil wedi'i chysylltu yn y cwrs.

Panel Rheoli > Pecynnau a Gwasanaethau > Allgludo/Archifo Cwrs

  1. Ar y dudalen Allgludo/Archifo Cwrs, dewiswch Archifo Cwrs.
  2. Ar y dudalen Archifo Cwrs, gallwch ddewis y blwch ticio Cynnwys Hanes Graddau’r Ganolfan. Bydd maint y ffeil ac amser prosesu yn cynyddu.
  3. Yn yr adran Atodiadau Ffeil, cynhwyswch y dolenni'n unig i ffeiliau cwrs neu cynhwyswch y dolenni a chopïau o gynnwys ffeiliau'r cwrs.
    • Ar gyfer Copïo dolenni a chynnwys copïau o’r cynnwys, dewiswch Mesur Maint i sicrhau nad yw maint y pecyn yn fwy na’r Maint Pecyn a Ganiateir sydd wedi’i arddangos.
    • I gael gwared ar ffeiliau a ffolderi o becyn, dewiswch Rheoli Cynnwys Pecyn.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Mae’r adran Atodiadau Ffeil ar gael os oes gan eich sefydliad fynediad i reoli cynnwys.


Lawrlwytho’r pecyn cwrs

Panel Rheoli > Pecynnau a Gwasanaethau > Allgludo/Archifo Cwrs

  1. Ar y dudalen Allgludo/Archifo Cwrs, dewiswch y ddolen ar gyfer lawrlwytho’r pecyn.
  2. Cadwch y ffeil yn y lleoliad priodol.

Gallwch edrych ar y log sylfaenol neu fanwl o ddewislen cwrs a archifwyd.

Tudalen Allgludo/Archifo

Mae'r tudalen Allgludo/Archifo Cwrs yn trefnu pob pecyn allgludo ac archifo rydych yn eu creu o gwrs.

Pan fyddwch yn allgludo neu archifo cwrs, bydd dolen i'r pecyn yn ymddangos ar y dudalen hon. Gallwch lawrlwytho'r pecyn i'ch cyfrifiadur, ac yna ei ddefnyddio yn y dyfodol ar gyfer gweithredoedd mewngludo neu adfer.

Pan fyddwch yn allgludo neu archifo pecyn, nid yw'n ymddangos ar y tudalen hwn yn syth. Anfonir e-bost atoch cyn gynted ag y bydd y system wedi creu'r pecyn. Yna, agorwch y dudalen hon i ddod o hyd i'r dudalen a'i lawrlwytho.

Rydym yn argymell eich bod yn dileu pecynnau o'r tudalen hwn ar ôl i chi eu lawrlwytho. Mae pob pecyn yn cyfrif yn erbyn cwota'r cwrs.