Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Ar ôl i chi greu cynnwys a’i gysylltu â ffeiliau sydd wedi'u storio yn Ffeiliau Cwrs, gallwch wirio bod y dolenni yn ddilys o hyd â'r offeryn Gwirio Dolenni Cwrs. Er enghraifft, os byddwch yn dileu ffeil gysylltiedig o'r Ffeiliau Cwrs, ac yn rhedeg y teclyn, caiff y ddolen a dorrwyd ei rhestru.

Gallwch redeg yr offeryn hwn yn rheolaidd i wirio dilysrwydd eich dolenni yng nghynnwys eich cwrs. Ar ôl i chi gopïo, adfer, neu fewngludo cwrs, gallwch ddefnyddio'r offeryn i sicrhau bod popeth wedi ei gysylltu fel rydych yn ei ddisgwyl. Gall defnyddwyr â mynediad i eitemau yn Ffeiliau'r Cwrs symud a dileu eitemau, neu olygu'r caniatâd ar eitem. Gall y gweithredoedd hyn effeithio ar ddilysrwydd eitemau a gysylltir yn eich cwrs.

Pan fyddwch yn cysylltu â ffeil yn Ffeiliau'r Cwrs, rhoddir caniatâd darllen i'r ffeil i bob defnyddiwr cwrs. Pan fyddwch yn gwirio dolenni, yr unig ganiatâd a ddilysir yw caniatâd darllen ar gyfer pob defnyddiwr cwrs.


Argaeledd offer

Mae'n rhaid i'ch sefydliad roi'r teclyn Gwirio Dolenni Cwrs ar gael.

Bydd y teclyn yn ymddangos yn adran Pecynnau a Chyfleustodau y Panel Rheoli. Gallwch gyfyngu ar argaeledd y teclyn yn yr un ffordd ag y gallwch gyfyngu ar argaeledd i offer eraill.

Mwy am argaeledd offer


Pa rannau o'm cwrs a gaiff eu gwirio?

Mae'r teclyn Gwirio Dolenni Cwrs yn canfod dolenni a dorrwyd ar gyfer y meysydd hyn:

  • Meysydd cynnwys
  • Modiwlau dysgu
  • Cynlluniau gwersi
  • Ffolderi
  • Cyhoeddiadau, digwyddiadau calendr, a thasgau
  • Bwrdd trafod, dyddlyfrau, a blogiau

Heb ei wirio: Dolenni at eitemau Ffeiliau Cwrs mewn profion - gan gynnwys arolygon a chronfeydd cwestiynau.


Gwirio'r dolenni

Panel Rheoli > Offer a Gwasanaethau > Gwirio Dolenni'r Cwrs

  1. Ar y dudalen Dolenni Toredig, dewiswch Iawn i ddechrau'r offeryn. Gall y weithred hon gymryd ychydig o funudau i redeg. Mae hyd y broses yn dibynnu ar nifer y dolenni yn eich cwrs.
  2. Ar ôl i'r offeryn redeg, bydd y dudalen yn dangos dolenni sy'n pwyntio at ffeiliau a ddilëwyd neu'r rhai sydd â llwybrau a dorrwyd.
  3. I gael rhagor o wybodaeth, ewch at ddewislen eitem a dewiswch Manylion.