Dewis amgen o ran testun ar gyfer yr hygyrchedd canlynol mewn ffeithlun addysg
A wyddoch chi fod gan biliwn o bobl yn y byd anabledd meddyliol neu gorfforol? Neu fod gan 12.9% o holl fyfyrwyr Gogledd America rhyw fath o anabledd?
Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer addysg?
Mae'r nifer o fyfyrwyr anabl sy'n graddio o ysgolion uwchradd yng Ngogledd America wedi cynyddu gan 0.5% ers 2011. Mae 64% bellach yn ennill diploma ysgol uwchradd ymhen 4 blynedd. Yn anffodus, mae'r nifer o fyfyrwyr sy'n rhoi'r gorau i ysgolion uwchradd yng Ngogledd America wedi cynyddu gan 0.5% yn yr un amser. Bydd 19.7% o fyfyrwyr anabl yn rhoi'r gorau i'r ysgol uwchradd, heb ei gorffen.
Mae'r mwyafrif o fyfyrwyr yn dewis peidio a datgelu eu anabledd wrth fynd i mewn i addysg uwch. Dyna 60 i 80% o israddwyr Gogledd America a 9% o ôl-raddwyr. Er hynny, mae yna lawer y gallwn ni fel Addysgwyr ei wneud i helpu myfyrwyr anabl bod yn llwyddiannus.
Mae gan 3% o boblogaeth y byd, llai na 1% o fyfyrwyr Gogledd America, nam ar y golwg. Golygai hyn eu bod nhw'n cael hi'n anodd canfod cynnwys gweledol. Ar gyfer y myfyrwyr hynny, darparwch ddeunyddiau ysgrifenedig gwahanol y gallant gymryd i mewn.
Mae gan 4% o boblogaeth y byd, 4% o fyfyrwyr Gogledd America, anabledd corfforol. Mae gan y myfyrwyr yma problemau gyda rheoli cyhyr a modur, sy'n gwneud defnyddio technoleg yn anodd iddynt. Fformatiwch eich cynnwys ar gyfer technoleg gynorthwyol a'ch system llywio bysellfwrdd ar gyfer llywio cynnwys gwe symlach.
Mae gan 5% o boblogaeth y byd, llai na 1% o fyfyrwyr Gogledd America, nam ar y clyw. Golygai hyn eu bod nhw'n cael hi'n anodd canfod cynnwys clywedol a bod angen deunyddiau amgen arnynt. Darparwch benawdau, trawsgrifiadau a deunyddiau eraill y gallant ddefnyddio.
Mae gan cynifer a 25% o boblogaeth y byd, 9% o fyfyrwyr Gogledd America, anabledd gwybyddol. Dyna 1 ym mhob 25 glasfyfyriwr Gogledd America sydd ag anabledd dysgu. Mae'r myfyrwyr yma yn gwynebu heriau niwrolegol wrth brosesu gwybodaeth. Mae'n bwysig adeiladau ar hyblygrwydd. Defnyddiwch amrywiaeth o ddulliau gwybodaeth a chrëwch brofiad heb annibendod.
Ffynonellau
"Disabled World - Disability News & Information." Disabled World. N.p., n.d. Gwe. 11 Medi 2015.
"WHO | Sefydliad Iechyd y Byd." CIB | Cyfundrefn Iechyd y Byd. N.p., n.d. Gwe. 11 Medi 2015.
"Statistics." DO-IT. University of Washington (UW), n.d. Gwe. 11 Medi 2015.
"Special Education Compendium Statistics." Disabilitycompendium.org. N.p., n.d. Gwe. 11 Medi 2015.