Mae DirectSubmit yn caniatáu i chi ychwanegu adnoddau'n gyflym at y gronfa ddata sefydliadol nad ydynt eisoes ar gael yn SafeAssign. Gallwch hefyd ei ddefnyddio fel llyfrgell breifat o gynnwys rydych yn credu y gallai myfyrwyr gopïo ohono, neu i gyflwyno cynnwys ar ran myfyriwr ar gyfer profion gwreiddioldeb. 

Rhagor am y Mathau o Ffeiliau a Gefnogir gan SafeAssign


Gwylio fideo am DirectSubmit SafeAssign

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.

Fideo: DirectSubmit SafeAssign

 

Ultra: Cyflwyno cynnwys i'w brosesu

Mae'n rhaid bod gan ddefnyddwyr, megis hyfforddwyr, cynorthwywyr addysgu, neu raddwyr, y fraint Creu a Rheoli SafeAssignments i gael mynediad i DirectSubmit.

  1. O dudalen Cynnwys cwrs, dan Manylion a Gweithrediadau, dewiswch Gweld offer cwrs a sefydliad.
  2.  Dan Offer Hyfforddwr, dewiswch SafeAssign
Access SafeAssign Direct Submit from Books & Course Tools
  1. Dewiswch sut i gyflwyno'ch cynnwys:
    • Uwchlwytho ffeil: Llusgwch a gollwng ffeil neu bori am ffeil ar eich dyfais. Defnyddiwch ffeil ZIP i uwchlwytho nifer o adnoddau ar y tro. 
    • Copïo/gludo testun: Rhowch deitl a gludwch eich testun yn y blwch Testun
  2. Dewiswch yr opsiynau uwchlwytho:
    • Gwirio am lên-ladrad posib: Mae'n prosesu'r cyflwyniad ac yn cynhyrchu'r Adroddiad Gwreiddioldeb.  Pan fydd wedi'i ddiffodd, prosesir y cyflwyniad ond ni chaiff adroddiad ei gynhyrchu.

      Diffoddwch yr opsiwn hwn pan na fydd angen adroddiad arnoch ond byddwch eisiau cymharu holl gyflwyniadau myfyrwyr yn y dyfodol yn erbyn yr adnoddau a uwchlwythir.

    • Ychwanegu at gronfa ddata'r sefydliad: Pan fydd wedi'i droi ymlaen, ychwanegir cyflwyniadau at gronfa ddata'r sefydliad.  
    • Rhannu:  Pan fydd wedi'i ddewis, gall pobl eraill sydd â'r breintiau graddio priodol gael mynediad i'r cyflwyniad hwn o'r cwrs hwn. Os yw'n breifat, dim ond chi all gael mynediad iddo o unrhyw gwrs. 
Upload options
  1. Dewiswch Cyflwyno. Byddwch yn mynd yn ôl i'r dudalen SafeAssign lle gallwch fonitro'r prosesu. Pan fyddwch wedi gorffen, gallwch weld yr Adroddiad Gwreiddioldeb. 

Ultra: Gweld cyflwyniadau SafeAssign ar gyfer cwrs

O'r dudalen SafeAssign, gallwch weld pob un o'ch cyflwyniadau SafeAssign ac unrhyw gyflwyniadau a rennir gan hyfforddwyr eraill. Hidlwch a threfnu'r rhestr yn ôl yr angen. Dewiswch y botwm Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign i agor yr adroddiad ar gyfer cyflwyniad. 

Rhagor am Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign

Direct Submit page

Gwreiddiol: Cyflwyno cynnwys i'w brosesu

  1. Yn y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Offer y Cwrs a dewiswch SafeAssign.
  2. Dewiswch DirectSubmit. Bydd rhestr o ffolderi a phapurau yn ymddangos. Mae’r rhestr hon yn cynnwys cynnwys sydd eisoes wedi ei uwchlwytho drwy DirectSubmit. Mae Blackboard yn argymell nad ydych yn dileu ffeiliau o Cyflwyniad Uniongyrchol gan fod hyn yn eu dileu o’r gronfa ddata sefydliadol o ddeunydd presennol.
  3. Llywiwch at ffolder ble’r hoffech lwytho’r papur neu ffeil ZIP iddi.
  4. Dewiswch Cyflwyno Papur.

    Os ydych yn derbyn gwall nad ydych wedi mewngofnodi, gwiriwch osodiadau eich porwr. Dylai gosodiadau eich porwr ganiatáu cwcis trydydd parti a data gwefan.

  5. Dewiswch Uwchlwytho Ffeil a phorwch am ffeil.  Neu, dewiswch Copïo/Gludo Dogfen ac ychwanegwch destun y cynnwys yn y blwch.
  6. Dewiswch y dewisiadau llwytho i fyny:
    • Cyflwyno fel Drafft: Cynhyrchir adroddiadau SafeAssign, ond nid yw’r cynnwys yn cael ei ychwanegu at gronfa ddata'r sefydliad ac nid yw’n cael ei ddefnyddio i wirio cyflwyniadau eraill.
    • Hepgor Gwirio Llên-ladrad: Mae'n ychwanegu cynnwys at gronfa ddata'r sefydliad heb wirio am gynnwys a gopïwyd o ffynonellau eraill. Defnyddiwch yr opsiwn hwn i uwchlwytho deunyddiau o gwrs cynharach i sicrhau nad yw myfyrwyr presennol yn ailddefnyddio gwaith.
  7. Dewiswch Cyflwyno.

Gwreiddiol: Gweld cyflwyniadau SafeAssign mewn ffolderi a rennir a ffolderi preifat

Yn y wedd Gwreiddiol, mae ffolderi a rennir DirectSubmit yn weladwy i unrhyw un sydd â mynediad i'r offeryn DirectSubmit drwy gydol eich cwrs. Gyda ffolderi a rennir, gall hyfforddwyr a chynorthwywyr dysgu lluosog weld cyflwyniadau yn ymwneud â chwrs.

Gallwch hefyd ddefnyddio ffolderi preifat i reoli cynnwys a gyflwynir. Mae eich ffolderi preifat yn eich dilyn ac ar gael mewn unrhyw gwrs ble mae gennych freintiau ar lefel hyfforddwr.

Rhagor am Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign