Mae Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yn rhoi gwybodaeth fanwl am y cyfatebiadau a ganfuwyd rhwng papur a gyflwynwyd gan fyfyriwr a ffynonellau presennol. Mae hyfforddwyr a myfyrwyr yn gallu defnyddio'r adroddiad i adolygu aseiniadau a gyflwynwyd am wreiddioldeb ac i greu cyfleoedd i adnabod sut i briodoli ffynonellau'n gywir yn hytrach nag aralleirio. Pan fydd hyfforddwyr yn creu aseiniad a dewis defnyddio SafeAssign, maent yn pennu a yw’r myfyrwyr yn gallu gweld canlyniadau’r adroddiad.

Mae’r adroddiad yn nodi’r holl flociau o destun sy’n cyfateb. Mae angen i hyfforddwyr a’u myfyrwyr bennu a yw’r testun sy’n cyfateb wedi ei gyfeirio’n briodol. Mae archwilio pob cyfuniad yn atal gwallau canfod oherwydd gwahaniaethau mewn safonau dyfynnu.

Mae’r Adroddiad Gwreiddioldeb yn arddangos y rhestr o ffynonellau posibl, ac mae pob ffynhonnell wedi ei hamlygu mewn lliw gwahanol. Gall yr adroddiad arddangos hyd at 30 o liwiau i gynrychioli 30 ffynhonnell wahanol.

Mae gwybodaeth Adroddiad Gwreiddioldeb yn addasu i’r sgrîn mae’n ymddangos arni, fel iPad® neu iPhone®.


Dod o hyd i'r adroddiad

Blackboard Learn: Gwedd Cwrs Gwreiddiol

Pan fydd adroddiad SafeAssign wedi gorffen prosesu, gallwch gael mynediad iddo ar y dudalen Aseinio Gradd. Ewch i mewn i’r dudalen Aseinio Gradd o’r Ganolfan Raddio neu’r dudalen Graddio Anghenion.

Yn y Ganolfan Raddau, ewch i'r aseiniad lle rydych wedi galluogi SafeAssign. Pan fydd myfyrwyr wedi gwneud eu cyflwyniadau, fe welwch yr eicon graddio anghenion. Agorwch ddewislen y gell a dewiswch yr ymgais.

Ar y dudalen Aseinio Gradd, bydd adran SafeAssign yn ymddangos yn y bar ochr graddio. Wrth i’r adroddiad brosesu, bydd y datganiad canlynol yn ymddangos: Adroddiad ar y gweill...

Pan fydd yr adroddiad yn barod i’w weld, bydd canran yn ymddangos yn y bar ochr graddio. Ehangwch y ddolen SafeAssign a dewiswch Gweld Adroddiad Gwreiddioldeb i weld y canlyniadau mewn ffenestr newydd.

Grade assignment page in Original course view

Blackboard Learn: Gwedd Cwrs Ultra

Edrychwch ar Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign i sicrhau bod myfyrwyr yn cydnabod eu ffynonellau yn gywir.

Mae SafeAssign yn cynhyrchu Adroddiad Gwreiddioldeb yn fuan wedi i fyfyriwr gyflwyno ei ymgais, hyd yn oed cyn i chi bostio graddau. Mae Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yn ymddangos wrth ymyl y cyflwyniad er mwyn i chi allu gweld y dadansoddiad mewn cyd-destun. Dyma ragolwg o ganlyniadau'r adroddiad ac mae'n cynnwys tair adran: Risg Gyffredinol, Cydweddu Testun Cyffredinol, ac Adroddiadau Gwreiddioldeb .

  • Mae Risg Gyffredinol yn dangos a yw'r cais yn risg isel, canolig neu uchel ar gyfer llên-ladrad. Mae lefel y risg yn cael ei phennu ar yr ystod cyfateb testun ar gyfartaledd mae’r ymgais yn syrthio ynddi.

    Mwy ar ddehongli sgoriau SafeAssign

  • Mae Cyfateb Testun Cyffredinol yn dangos y gyfatebiaeth testun ar gyfartaledd ac uchaf ar gyfer darnau’r ymgais, gan gynnwys atodiadau ffeil. Am blymio i mewn? Dewiswch unrhyw un o’r eitemau yn yr adran Adroddiadau Gwreiddioldeb i weld yr adroddiadau llawn.
  • Mae Adroddiadau Gwreiddioldeb yn dangos canran y testun cyfatebol posibl ar gyfer pob darn o’ch cyflwyniad, gan gynnwys cwestiynau ac atodiadau. Dewiswch unrhyw un o’r cofnodion yn y rhestr i weld y canlyniadau mewn ffenestr newydd.

Cynllun newydd yr adroddiad

Mae’r Adroddiad Gwreiddioldeb newydd ar gael ar gyfer amgylcheddau Moodle a Blackboard Learn SaaS. Mae hefyd ar gael yn Blackboard Learn 9.1 Q2 2019.

Rhennir Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yn dair adran:

  • Crynodeb o’r Adroddiad
  • Dyfyniadau
  • Cyflwyniad

Crynodeb o’r Adroddiad

Mae Crynodeb o'r Adroddiad yn ymddangos yn y panel ar dop yr adroddiad. Dewiswch Gweld Crynodeb o'r Adroddiad i weld Risg Gyffredinol dyfyniadau anghywir yn  y papur, gan gynnwys  y ganran o destun cyfatebol neu debyg. Os yw'r myfyriwr wedi cynnwys atodiadau lluosog, maent yn ymddangos gyda gwybodaeth yr adroddiad.

Dyfyniadau

Fe restrir y ffynonellau sy'n cynnwys testun sy'n cyd-fynd â thestun y papur a gyflwynwyd ym mhanel de'r adroddiad. Dewiswch fath y ffynhonnell i ddysgu rhagor am y testun sy'n cyfateb. Ar gyfer pob ffynhonnell, mae rhif yn ymddangos sy'n cyd-fynd â'r testun a amlygwyd yn y cyflwyniad. Nesaf at y ffynhonnell, gallwch ddewis Dangos y testun cyfatebol i doglo'r testun cyfatebol. Gallwch hefyd ddewis Agor y ffynhonnell gyfatebol i ymweld â ffynhonnell y testun cyfatebol mewn ffenestr newydd.

Os yw papur myfyriwr arall yn cael ei restru fel dyfyniad, mae’r cyflwyniad yn gysylltiedig â sefydliad arall ac efallai na allwch ei weld oherwydd deddfau preifatrwydd.

Pan fydd cyflwyniad myfyriwr yn cael ei dileu o gwrs, bydd y cynnwys yn aros yn y gronfa ddata a gellir ei defnyddio i ganfod cyfatebiadau ar gyfer cyflwyniadau eraill gan fyfyrwyr yn y dyfodol. Yn yr achos hwn, fe restrir "papur nad yw'n bodoli" fel y ffynhonnell yn yr Adroddiad Gwreiddioldeb. Bydd SafeAssign yn canfod cyfatebiad, ond ni fyddwch yn gallu agor y ffynhonnell i gymharu'r cyfatebiadau gan fod y ffynhonnell wedi cael ei ddileu.

Pan fyddwch yn lleihau lled yr ardal wylio, mae’r wybodaeth hon yn ymddangos ar y brig.

Yng Ngwedd Cwrs Wreiddiol Blackboard Learn,  gallwch awgrymu bod SafeAssign yn chwilio tudalennau ychwanegol sydd heb eu fflagio, neu dudalennau gwe a gwefannau nad yw’r Adroddiadau Gwreiddioldeb wedi cyfeirio atynt, gan ddefnyddio URL Adder.

Cyflwyniad

Mae'r cyflwyniad yn ymddangos yn y panel ar ochr chwith yr adroddiad. Nodir yr holl ddarnau o destun sy’n cyfateb. Mae lliw penodol wedi’i ddynodi ar gyfer pob ffynhonnell - mae hyd at 30 o liwiau unigryw ar gyfer 30 gwahanol ffynhonnell. Mae testun sy’n cyfateb i ffynhonnell yn cael ei amlygu yn lliw’r ffynhonnell a’i nodi gyda rhif. Ym mhanel Dyfyniadau , gallwch ddewis Dangos yr amlygu i droi amlygu'r ffynhonnell i ffwrdd ac ymlaen ar gyfer pob ffynhonnell mewn un tro. Gallwch droi’r amlygu i ffwrdd ac ymlaen ar gyfer un dyfyniad yn unig. Dewiswch Tynnu neu Dangos yr Amlygu nesaf at ddyfyniad.

Dewiswch floc cyfatebol o destun i ddangos gwybodaeth am y ffynhonnell wreiddiol a'r tebygolrwydd y copïwyd y bloc neu frawddeg o'r ffynhonnell.

Opsiynau a gwybodaeth ychwanegol

O dan y Cyflwyniad, gallwch ddod o hyd i fanylion fel Nifer y Geiriau, dyddiad cyflwyno, a dangosyddion unigryw y cyflwyniad a'r atodiad.

Gallwch weld fersiwn y mae modd ei argraffu o'r Adroddiad Gwreiddioldeb. Y fersiwn hwn y mae modd ei argraffu yw'r wedd fwyaf effeithiol o'r adroddiad ar gyfer defnyddwyr sy'n dibynnu ar dechnoleg gynorthwyol. Ar frig y dudalen, dewiswch Argraffu i weld y fersiwn brintiadwy. Llwythwch y PDF i lawr i’w e-bostio i eraill.


Gosodiad hŷn yr adroddiad

Rhennir Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yn dair adran:

  • Gwybodaeth yr adroddiad
  • Dyfyniadau
  • Testun llawysgrif

Os oes angen mwy o le arnoch i weld testun y papur, gallwch grebachu’r panel dde gyda’r saeth sy’n pwyntio i’r dde. Mae’r lliwiau amlygu yn dal i’w gweld yn y wedd wedi crebachu.

Gwybodaeth yr adroddiad

Mae gwybodaeth yr adroddiad yn ymddangos ym mhanel dde yr adroddiad. Pan fyddwch yn lleihau lled yr ardal wylio, mae’r wybodaeth hon yn ymddangos ar y brig. Gallwch weld data ynglŷn â’r papur, megis canran y testun sy’n cyfateb, cyfrif geiriau, a phryd y’i cyflwynwyd. Os ydych wedi cynnwys nifer o atodiadau, maent yn ymddangos gyda gwybodaeth yr adroddiad. Mae gennych hefyd ddewis i weld fersiwn y gellir ei hargraffu. Y fersiwn argraffadwy hon yw’r wedd fwyaf effeithiol o’r adroddiad ar gyfer defnyddwyr sy’n dibynnu ar dechnoleg gynorthwyol i gael mynediad at Blackboard Learn. Ar frig y dudalen, dewiswch Argraffu i weld y fersiwn brintiadwy. Llwythwch y PDF i lawr i’w e-bostio i eraill.

Dyfyniadau

Mae'r ffynonellau sy'n cynnwys testun sy'n cyd-fynd â thestun y papur a gyflwynwyd wedi'u rhestru ym mhanel de'r adroddiad. Os yw papur myfyriwr arall yn cael ei restru fel dyfyniad, mae’r cyflwyniad yn gysylltiedig â sefydliad arall ac efallai na allwch ei weld oherwydd deddfau preifatrwydd.

Pan fydd cyflwyniad myfyriwr yn cael ei dileu o gwrs, bydd y cynnwys yn aros yn y gronfa ddata a gellir ei defnyddio i ganfod cyfatebiadau ar gyfer cyflwyniadau eraill gan fyfyrwyr yn y dyfodol. Yn yr achos hwn, fe restrir "papur nad yw'n bodoli" fel y ffynhonnell yn yr Adroddiad Gwreiddioldeb. Bydd SafeAssign yn canfod cyfatebiad, ond ni fyddwch yn gallu agor y ffynhonnell i gymharu'r cyfatebiadau gan fod y ffynhonnell wedi cael ei ddileu.

Testun llawysgrif

Mae’r papur a gyflwynwyd yn ymddangos ym mhanel chwith yr adroddiad. Nodir yr holl ddarnau o destun sy’n cyfateb. Mae lliw penodol wedi’i ddynodi ar gyfer pob ffynhonnell - mae hyd at 30 o liwiau unigryw ar gyfer 30 gwahanol ffynhonnell. Mae testun sy’n cyfateb i ffynhonnell yn cael ei amlygu yn lliw’r ffynhonnell a’i nodi gyda rhif. Yn y panel ar y dde, gallwch ddewis Dangos/Cuddio'r Holl Amlygu i droi amlygu'r ffynhonnell i ffwrdd ac ymlaen ar gyfer pob ffynhonnell mewn un tro. Gallwch droi’r amlygu i ffwrdd ac ymlaen ar gyfer un dyfyniad yn unig. Dewiswch Tynnu neu Dangos Amlygu wrth ochr dyfyniad.

Dewiswch floc cyfatebol o destun i ddangos gwybodaeth am y ffynhonnell wreiddiol a'r tebygolrwydd y copïwyd y bloc neu frawddeg o'r ffynhonnell.


Atodiadau ac ymgeisiau niferus

Mae SafeAssign yn cydnabod ymgeisiadau lluosog ar gyfer aseiniad unigol fel y’u cyflwynwyd gan yr un myfyriwr ar gyfer yr un aseiniad. Nid yw SafeAssign yn gwirio cynnwys yr ymgais gyfredol yn erbyn cynnwys cyflwyniadau blaenorol.

Os yw myfyriwr yn cynnwys mwy nag un atodiad gydag aseiniad, byddant yn cael eu rhestru yn yr adroddiad. Dewiswch ddolen enw ffeil i weld testun y ffeil yn y panel chwith ac edrychwch ar ei gyfrif geiriau yn y panel de.


Dehongli sgoriau SafeAssign

Mae sgorau cyfateb brawddegau yn cynrychioli’r tebygolrwydd canrannol y bydd gan ddwy frawddeg yr un ystyr. Mae’r nifer yn adlewyrchu’r cilydd i’r tebygolrwydd fod y ddwy frawddeg hyn yn debyg ar hap. Er enghraifft, mae sgôr o 90 y cant yn golygu fod yna debygolrwydd o 90 y cant fod y ddwy frawddeg yma'r un fath. Mae 10 y cant o debygolrwydd eu bod yn debyg ar hap ac nid oherwydd bod y papur a gyflwynwyd yn cynnwys deunydd o’r ffynhonnell bresennol - boed wedi ei briodoli yn gywir neu beidio.

Mae’r sgôr SafeAssign cyffredinol yn dynodi’r tebygolrwydd fod y papur a gyflwynwyd yn cynnwys cyfatebiadau i’r ffynhonnell bresennol. Mae’r sgôr hwn yn ddangosydd rhybudd yn unig. Adolygwch bapurau i weld a yw’r cyfatebiadau wedi eu priodoli’n gywir.

  • Isel: Sgorau dan 15 y cant: Mae’r papurau hyn fel arfer yn cynnwys rhai dyfyniadau neu frawddegau cyffredin neu ddarnau o destun sy’n cyd-fynd â dogfennau eraill. Yn nodweddiadol, nid oes gofyn am ddadansoddi pellach ar y papurau hyn gan nad oes unrhyw dystiolaeth o lên-ladrad
  • Canolig: Sgoriau rhwng 15 y cant a 40 y cant: Mae’r papurau hyn yn cynnwys deunydd a ddyfynnwyd neu wedi ei aralleirio sylweddol neu’n cynnwys llên-ladrad. Adolygwch y papurau hyn i bennu a yw’r testun cyfatebol wedi ei gyfeirio’n gywir.
  • Uchel: Sgorau dros 40 y cant: Ceir tebygolrwydd cryf iawn fod testun yn y papurau hyn wedi eu copïo o ffynonellau eraill. Mae’r papurau hyn yn cynnwys testun wedi ei ddyfynnu neu aralleirio gormodol, ac mae angen eu hadolygu ar gyfer llên-ladrad.