Gweld beth mae eich myfyrwyr yn ei weld. Cael Ap Blackboard
Gall unrhyw un lawrlwytho a gosod yr Ap Blackboard ar ddyfais symudol. Fodd bynnag, gallwch ddim ond gael mynediad i'ch cyrsiau Blackboard os yw eich ysgol wedi galluogi mynediad symudol. Gallwch chwilio am eich ysgol ar y sgrin mewngofnodi yn yr apiau. Os ydych dal yn ansicr os oes gan eich ysgol alluoedd symudol, gofynnwch i weinyddwr Blackboard eich ysgol.
Gosodwch ap Blackboard ac ewch ar daith o'ch cyrsiau.
Ap Blackboard
Ar ôl i chi osod ap Blackboard, gallwch osod ffug gyfrif myfyriwr i weld yr hyn mae myfyrwyr yn ei weld.
- Crëwch gyfrif myfyriwr ffug neu gofynnwch am gyfrif gan weinyddwr Blackboard eich ysgol.
- Cofrestrwch y myfyriwr ffug yn eich cyrsiau.
- Mewngofnodwch i ap Blackboard fel eich ffug fyfyriwr, nid gyda'ch manylion hyfforddwr.
Bydd graddau ffug fyfyriwr yn gynwysedig yng nghyfrifiadau gradd eich cwrs Gwreiddiol, oni bai i chi eithrio'r radd neu glirio'r ymgais. Ar gyfer cyrsiau Ultra, bydd graddau ffug fyfyriwr yn gynwysedig yng nghyfrifiadau'r cwrs oni bai i chi ddileu'r graddau.
Cymharu
Ar ôl i chi fewngofnodi i un o'r apiau symudol, gallwch gymharu'r cyrsiau yn yr ap i borwr gwe ar gyfrifiadur bwrdd gwaith. Gwneud addasiadau i'ch cwrs er mwyn gwella'r profiad symudol.