Gall myfyrwyr a hyfforddwyr lansio sesiynau Blackboard Collaborate Ultra o'r Ap Blackboard os ddarparwyd dolenni sesiynau o fewn cyrsiau. Pan fyddwch yn tapio dolen sesiwn, fe’ch cyfeirir at borwr gwe i ymuno â'r sesiwn.

Collaborate yn yr ap Blackboard


Sesiwn prawf

Gallwch ymuno â sesiwn Collaborate o'ch dyfais symudol i weld beth mae eich myfyrwyr yn ei weld. Agorwch y ddolen ar gyfer cyfranogwyr, nid y ddolen ar gyfer cymedrolwyr, ar eich dyfais symudol. Gallwch agor y ddolen ar gyfer cyfranogwyr yn y ffyrdd canlynol:


Gwahodd cyfranogwyr

Mae myfyrwyr yn gweld sesiynau Collaborate eich cwrs yn Ap Blackboard. Mae'n bosibl y byddwch am ddefnyddi cyhoeddiadau neu ddulliau eraill i atgoffa myfyrwyr o sesiynau ar ddod.

Gallwch wahodd cyfranogwyr i sesiynau Collaborate nad ydynt yn gysylltiedig â chyrsiau hefyd. Os ydych yn rhoi'r ddolen ar gyfer cyfranogwyr iddynt, gallant ymuno ar borwr gwe bwrdd gwaith neu borwr symudol.

Gwahodd mynychwyr Collaborate


Sesiynau mawr

Mae gan sesiynau mawr yn Collaborate dros 250 a hyd at 500 o ddefnyddwyr yn y sesiwn. I'w wneud yn haws rheoli sesiynau, mae rhai o swyddogaethau cyfranogwyr wedi'u diffodd.

Mwy am sesiynau Collaborate mawr

Os rydych yn disgwyl dros 250 o gyfranogwyr yn eich sesiwn, mae'n rhaid i chi gyflwyno cais sesiwn mawr i dîm cymorth Collaborate ar Behind the Blackboard CYN i'r sesiwn ddechrau. Bydd terfyn o 250 o hyd ar y nifer sy'n cymryd rhan mewn sesiynau na nodwyd eu bod yn ddigwyddiadau mawr.


Hwyluso sesiwn gwych

Cymerwch olwg ar yr adnoddau hyn am gymedroli sesiynau Collaborate.

Cymedroli Sesiynau Collaborate