Archwilio'r panel Offer

Gall yr offer hyn ymddangos ar banel Offer ar dab Fy Sefydliad:

  • Cyhoeddiadau: Mae'n arddangos cyhoeddiadau ar gyfer eich holl gyrsiau a gan eich sefydliad. Mae cyhoeddiadau'n rhoi gwybodaeth bwysig, sy'n sensitif o ran amser.
  • Calendr: Mae’n arddangos digwyddiadau cwrs rydych chi wedi'u hychwanegu. Gallwch hefyd ychwanegu digwyddiadau preifat, personol.
  • Tasgau: Cadwch olwg ar y tasgau cwrs rydych chi wedi'u hychwanegu. Gallwch hefyd ychwanegu tasgau personol.
  • Fy Ngraddau: Mae’n rhestru graddau am bob cwrs ar gyfer rôl y myfyriwr.
  • Anfon E-byst: Anfon negeseuon e-bost i gyfeiriadau e-bost allanol aelodau eraill o'r cwrs.
  • Cyfeiriadur Defnyddwyr: Mae'n rhestru defnyddwyr o fewn Blackboard Learn. Mae defnyddwyr yn ymddangos yma dim ond os ydynt wedi dynodi eu bod eisiau cael eu cynnwys ar dudalen Gosod Opsiynau Preifatrwydd.
  • Llyfr Cyfeiriadau: Storio gwybodaeth gyswllt. Mae'r llyfr cyfeiriadau yn wag tan eich bod yn creu cysylltiadau. Mae rhaid i chi greu proffil ar gyfer unrhyw un rydych eisiau ei ychwanegu at y llyfr cyfeiriadau hyd yn oed os yw'r cyswllt yn ddefnyddiwr Blackboard Learn.
  • Gwybodaeth Bersonol: Cyrchwch a golygwch eich gwybodaeth bersonol sy'n ymddangos i ddefnyddwyr eraill. Gallwch hefyd newid eich cyfrinair, gosod eich opsiynau preifatrwydd a phersonoli eich gosodiadau.
  • Nodau: Os yw wedi'i galluogi gan eich sefydliad, gallwch gyrchu’r Dangosfwrdd Perfformiad Nodau yn y panel Offer.